Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Er mwyn sicrhau diogelwch eich plentyn, efallai yr hoffech ystyried y materion allweddol canlynol cyn eu bod nhw’n mynd i ffwrdd.
Cadwch mewn cof y gall yr oedran pan mae'n gyfreithiol i yfed alcohol fod yn wahanol mewn gwledydd eraill. Mewn rhai gwledydd, gall yr oedran pan mae'n gyfreithiol i yfed alcohol fod yn uwch neu'n is nag yn y DU neu gall yfed alcohol fod yn anghyfreithlon yn gyfan gwbl. Fodd bynnag, os ydych chi'n meddwl y bydd eich mab neu'ch merch yn yfed alcohol tra'u bod dramor, mae nifer o bethau eraill i'w hystyried:
Cyn iddynt fynd dramor, mae'n bwysig eich bod yn ceisio sicrhau bod eich mab neu'ch merch yn ymwybodol o'r materion canlynol:
Dylech sicrhau fod eich plentyn yn deall digon am beryglon cael rhyw heb warchodaeth. Gallai hyn nid yn unig leihau'r siawns o feichiogi'n anfwriadol, gallai hefyd leihau'r siawnsiau o gael clefydau a drosglwyddir trwy ryw, gan gynnwys HIV/AIDS.
Dylai pobl sy'n teithio dramor hefyd sylweddoli bod agweddau diwylliannol tuag at berthynas pobl â'i gilydd yn gwahaniaethu o wlad i wlad. Gall ymddygiad sy'n cael ei ystyried yn dderbyniol yn y DU beri tramgwydd neu achosi camddealltwriaeth mewn rhai cymunedau.