Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Pobl ifanc ar wyliau ar eu pennau eu hunain

Mae miloedd o bobl ifanc yn eu harddegau yn mynd ar wyliau heb eu rhieni bob blwyddyn ac yn cael amser gwych - a chwbl ddiogel.

Paratoi cyn gadael

Tra bo rhai trefniadau ychwanegol y gallech chi neu'ch plentyn eu hystyried er mwyn sicrhau eu diogelwch, isod mae rhai o'r prif bethau y dylech geisio sicrhau fod eich mab neu ferch yn eu gwneud cyn gadael:

  • edrych ar wefan Cyngor Teithio'r Swyddfa Dramor a'r Gymanwlad (FCO), gweler y ddolen isod, neu ffonio 0845 850 2829, a sicrhewch fod eich plentyn yn gwybod beth yw cyfeiriad y Llysgenhadaeth neu Is-Genhadaeth Brydeinig rhag ofn y bydd angen cysylltu â hwy mewn argyfwng
  • cael yswiriant teithio a gofalu bod hwnnw'n addas
  • cael arweinlyfr da a sicrhau eu bod yn ymgyfarwyddo â'u cyrchfan. Dysgu am y cyfreithiau a'r arferion lleol
  • sicrhau fod ganddynt basport dilys a'r teithebau (visas) angenrheidiol
  • darganfod pa frechiadau sy'n angenrheidiol o leiaf chwe wythnos cyn mynd
  • sicrhau bod y trefnydd teithiau a ddefnyddir yn aelod o Gymdeithas Trefnwyr Gwyliau Prydain (ABTA) ac, os ydynt yn hedfan, gwneud yn siŵr bod y gwyliau pecyn wedi ei ddiogelu gan Drwyddedwyr Trefnwyr Teithio Awyrennau (ATOL)
  • gwneud copïau o'u pasport, o'u polisi yswiriant, o rif argyfwng 24 awr ac o fanylion eu tocynnau - gan adael copïau gyda theulu a ffrindiau
  • mynd â digon o arian ar gyfer y daith ynghyd ag arian wrth gefn e.e. sieciau teithio, punnoedd sterling neu ddoleri'r UDA
  • gadael copi o'r teithlyfr a dulliau o gysylltu gyda nhw gyda theulu a ffrindiau

Additional links

PWYLLWCH! cyngor diogelwch ar y ffyrdd

Cael gwybod sut i gadw’n ddiogel ar y ffyrdd gyda ffeithiau, ystadegau, hysbysiadau a gemau PWYLLWCH!

Allweddumynediad llywodraeth y DU