Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Pryd mae angen sedd car ar gyfer eich plentyn

Wrth deithio mewn cerbyd, mae angen i blant ddefnyddio’r sedd car briodol nes byddant yn 135 centimedr o daldra neu’n 12 oed. Mae’r math o sedd car y mae ei hangen ar eich plentyn yn dibynnu ar ei bwysau. Yma cewch wybod pa fath o sedd y mae ei hangen ar eich plentyn.

Plant sy’n 12 oed neu’n hŷn neu’n 135 centimedr o daldra

Pan fydd eich plentyn yn 12 oed neu’n 135 centimedr o daldra, gall ddefnyddio gwregys diogelwch i oedolyn. Does dim angen iddo gael sedd car plentyn.

Gweler ‘Defnyddio gwregys diogelwch’ i gael rhagor o wybodaeth.

Plant sy’n iau na 12 oed neu’n fyrrach na 135 centimedr

Peidiwch â pheryglu bywyd eich plentyn

Peidiwch byth â chario plentyn ar eich glin na defnyddio un gwregys diogelwch ar gyfer dau deithiwr, beth bynnag fo’u hoedran

Nid yw gwregysau diogelwch i oedolion wedi'u cynllunio ar gyfer plant, oherwydd mae mesuriadau plant yn wahanol ac mae eu hesgyrn yn dal i ddatblygu. Felly, nes bydd eich plentyn yn ddigon hen neu’n ddigon tal i ddefnyddio dim ond gwregys diogelwch i oedolyn, bydd yn rhaid iddo ddefnyddio sedd car plentyn.

Mae seddi car plentyn yn cael eu cynllunio ar gyfer gwahanol bwysau – edrychwch ar y label ar y sedd, gan fod y label yn dangos yr ystod pwysau addas. Rhennir yr ystod pwysau i’r grwpiau canlynol:

  • ‘Grŵp 0’ a ‘Grŵp 0+’ – seddi babi sy'n wynebu'r cefn yw'r seddi hyn, ac maent yn addas ar gyfer babanod sy'n pwyso hyd at 13 cilogram
  • ‘Grŵp I’ – seddi babi sy'n wynebu'r blaen neu’r cefn yw'r seddi hyn, ac maent yn addas ar gyfer plant sy'n pwyso rhwng 9 cilogram a 18 cilogram
  • ‘Grŵp II’ – seddi car plentyn sy'n wynebu'r blaen (seddi codi) yw'r seddi hyn, ac maent yn addas ar gyfer plant sy'n pwyso rhwng 15 cilogram a 25 cilogram
  • ‘Grŵp III’ – ‘clustog codi’ yw’r seddi hyn ar gyfer plant sy’n pwyso mwy na 22 cilogram

Mae rhai seddi yn berthnasol i fwy nag un grŵp, a gellir eu defnyddio wrth i’ch plentyn dyfu. Edrychwch ar label y sedd.

Grŵp 0 a Grŵp 0+ – Seddi babi sy’n wynebu’r cefn

Mae angen i’ch plentyn gael sedd babi sy’n wynebu’r cefn nes bydd yn pwyso 13 cilogram. Mae gan seddi babi eu strapiau (mewnol) eu hunain. Defnyddir y gwregys diogelwch neu’r system ISOFix i oedolyn er mwyn dal y sedd babi yn ei lle.

Ni ddylech ddefnyddio sedd car sy’n wynebu’r cefn mewn sedd â bag aer blaen, oni bai eich bod wedi diffodd system y bag aer. Mewn damwain, byddai sedd sy'n wynebu’r cefn yn cael ei tharo gan fag aer blaen, a gallai'r sedd gael ei thaflu’n uchel at gefn y cerbyd. Darllenwch lyfryn y car i gael cyngor ar ddiffodd systemau unrhyw fagiau aer. Pryd mae system y bag aer wedi cael ei diffodd, symudwch sedd y car yn ôl mor bell â phosib oddi wrth y dashfwrdd.

Grŵp I – Seddi babi sy’n wynebu’r blaen neu’r cefn

Pan fydd eich plentyn yn pwyso rhwng 9 a 18 cilogram ac wedi tyfu'n rhy fawr i’w sedd babi sy’n wynebu’r cefn, gall ddefnyddio sedd babi sy’n wynebu’r blaen neu’r cefn. Mae gan y seddi hyn eu strapiau neu eu tarianau trawiad eu hunain hefyd, ac maent yn cael eu dal yn eu lle gan y gwregys diogelwch i oedolyn neu’r system ISOFix.

Gyda sedd â bag aer blaen, gwnewch yn siŵr bod sedd plentyn sy'n wynebu'r blaen mor bell yn ôl â phosib oddi wrth y bag aer.

Grŵp II – Seddi car plentyn sy’n wynebu’r blaen

Gall plant sy'n pwyso rhwng 15 a 25 cilogram ddefnyddio sedd car plentyn (sedd codi). Mae’r seddi hyn yn wynebu’r blaen, ac mae’n bosib y bydd ganddynt adain ochr neu gefn. Nid oes gan seddi car plentyn eu strapiau eu hunain – mae eich plentyn yn cael ei dal yn ei le gan y gwregys diogelwch i oedolyn ac mae’r sedd yn cael ei dal yn ei lle gan y gwregys diogelwch i oedolyn a/neu’r system ISOFix.

Gwnewch yn siŵr bod sedd codi sy'n wynebu'r blaen mor bell yn ôl â phosib oddi wrth y bag aer blaen.

Grŵp III – Clustogau codi

Pan fydd eich plentyn yn pwyso 22 cilogram, gall ddefnyddio clustog codi. Efallai na fydd cefn ar y clustogau hyn, ond maent yn codi eich plentyn yn y sedd car er mwyn iddo allu defnyddio'r gwregys diogelwch i oedolyn.

Mae nifer o seddi plant wedi’u cymeradwyo fel atalyddion Grŵp I a Grŵp II a gellir eu defnyddio ar gyfer plant sy’n pwyso 15 cilogram neu fwy nes byddant yn barod i ddefnyddio gwregys diogelwch i oedolyn. Edrychwch ar y label a darllen y cyfarwyddiadau ar gyfer y sedd neu’r glustog.

Os yw eich plentyn yn pwyso mwy na 36 cilogram ond nad yw'n 135 centimedr o daldra, rhaid iddo barhau i ddefnyddio sedd codi. Mae hyn yn fwy diogel na defnyddio gwregys diogelwch i oedolyn yn unig.

Seddi car i blant ag anableddau

Bydd rhaid i blant ag anableddau ddefnyddio gwregys diogelwch neu sedd plentyn, oni bai y bydd meddyg yn penderfynu eu bod wedi’u heithrio am resymau meddygol. Fodd bynnag, gallant ddefnyddio gwregys diogelwch i berson anabl neu wregys plant sydd wedi'u cynllunio ar gyfer ei anghenion. I gael rhagor o wybodaeth am eithriadau meddygol, cysylltwch â’ch meddyg. Gallwch lwytho taflen i lawr o’r ddolen isod, a mynd â hi at eich meddyg.

Prynu sedd babi, sedd car plentyn neu glustog codi

Dim ond seddi babi, seddi car plentyn neu glustogau codi sydd wedi’u cymeradwyo gan Ewrop y ceir eu defnyddio yn y DU. Mae gan y rhain label sy’n cynnwys y briflythyren "E" mewn cylch.

Os oes modd, rhowch y sedd car plentyn yn eich car chi cyn prynu’r sedd. Gofynnwch i’r cynorthwyydd gwerthu am gyngor ar sut mae gosod y sedd yn briodol.

Seddi car plentyn neu glustogau codi ail-law

Byddwch yn ofalus iawn os bydd rhywun yn cynnig sedd neu glustog codi ail-law i chi. Dylech bob amser wneud yn siŵr bod y sedd neu’r glustog:

  • yn fodel diweddar
  • yn cynnwys yr holl osodiadau a bod yr holl gyfarwyddiadau ar gael
  • heb fod mewn damwain

Additional links

PWYLLWCH! cyngor diogelwch ar y ffyrdd

Cael gwybod sut i gadw’n ddiogel ar y ffyrdd gyda ffeithiau, ystadegau, hysbysiadau a gemau PWYLLWCH!

Allweddumynediad llywodraeth y DU