Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Diogelwch ar y ffyrdd i blant

Mae damweiniau ffordd yn achosi llawer iawn o anafiadau a marwolaethau ymhlith plant o bob oed. Yma cewch wybod sut gallwch chi helpu i gadw’ch plentyn yn ddiogel drwy osod esiampl dda a dysgu rheolau’r ffordd iddo.

Gosod esiampl dda eich hun

Dylech ddechrau dysgu eich plentyn am beryglon y ffordd cyn gynted â phosib er mwyn iddo ddatblygu ymwybyddiaeth dda o'r ffordd a thraffig. Gallwch osod esiampl dda drwy:

  • egluro diogelwch ar y ffyrdd a thrafod y peth gyda’ch plentyn
  • defnyddio Rheolau'r Groes Werdd
  • annog eich plentyn i sylwi ar bethau sy’n digwydd o’i gwmpas ar y ffordd, a thrafod y pethau hynny
  • croesi’r ffordd yn y lle mwyaf diogel bob tro, gorau oll wrth groesfannau i gerddwyr
  • peidio byth â defnyddio ffôn symudol na gwrando ar gerddoriaeth wrth groesi’r ffordd
  • peidio byth â chymryd risgiau, gan y bydd eich plentyn yn gwneud yr un fath
  • gwisgo dillad llachar, fflwroleuol neu adlewyrchol er mwyn i yrwyr allu eich gweld chi
  • ymarfer barnu cyflymder a phellter gyda’ch plentyn
  • ei helpu i ganfod y llwybrau mwyaf diogel ar gyfer pob siwrnai

Rheolau'r Groes Werdd

Ni ddylai plant gael mynd allan ar eu pen eu hunain nes eu bod yn ddigon hen i ddeall Rheolau’r Groes Werdd a'u defnyddio'n briodol. Mae’r oedran yn wahanol ar gyfer pob plentyn ond, yn amlach na pheidio, dim cyn eu bod yn wyth mlwydd oed.

Diogelwch ar y ffyrdd i blant rhwng 3 a 5 oed

Pan fyddwch yn dechrau dysgu eich plentyn, dylech wneud y canlynol:

  • sicrhau bod eich plentyn yn cerdded ar ochr y palmant sydd bellaf oddi wrth y traffig
  • defnyddio harnais, gafael yn llaw eich plentyn neu wneud yn siŵr ei fod yn gafael yn dynn yn y bygi neu’r pram os ydych yn defnyddio un
  • cadw llygad am fynedfeydd neu lwybrau cudd sy'n croesi'r palmant, ac annog eich plentyn i wneud yr un peth

Diogelwch ar y ffyrdd i blant rhwng 5 a 7 oed

Yn yr oedran hwn, dylech chi ddal i afael yn llaw eich plentyn wrth groesi’r ffordd. Dylech hefyd:

  • ymarfer croesi ar ffyrdd tawel wrth ymyl eich cartref, yn gyntaf gyda chi'n gwneud y penderfyniadau ac yna’n gadael i’r plentyn eich arwain chi
  • croesi’r ffordd yn y man mwyaf diogel bob tro lle gallwch weld i bob cyfeiriad – croeswch yn syth ar draws bob tro
  • trefnu rota gyda rhieni eraill i fynd â’ch plentyn i’r ysgol – mae hyn yn ffordd dda o ryddhau rhywfaint o amser i chi

Diogelwch ar y ffyrdd i blant rhwng 7 ac 11 oed

Wrth i’ch plentyn fynd yn hŷn, gallwch ei helpu i fod yn annibynnol, yn ogystal â bod yn fwy diogel ar y ffyrdd, drwy ddysgu Rheolau'r Groes Werdd iddo. Pan ydych chi'n siŵr ei fod yn gwybod y rheolau ac yn eu deall, gallwch wneud y canlynol:

  • gadael i’r plentyn groesi ffyrdd tawel lle rydych wedi bod yn ymarfer – gan ei wylio a’i brofi cyn gadael iddo groesi ar ei ben ei hun
  • symud ymlaen yn raddol i ymarfer ar ffyrdd prysurach gyda’ch gilydd – gwnewch hyn lawer gwaith cyn gadael i’ch plentyn groesi ei hun, a chithau’n ei wylio
  • ei helpu i gynllunio llwybrau diogel i'r ysgol

Llwybrau diogel i’r ysgol

Gall eich cyngor lleol eich helpu i ddod o hyd i’r llwybrau mwyaf diogel i’ch plentyn feicio neu gerdded i’r ysgol. Dilynwch y ddolen isod i ddod o hyd i’ch cyngor lleol ac i gael cyngor ynghylch teithio i’r ysgol mewn ffordd ddiogel ac amgylcheddol gyfeillgar yn eich ardal chi.

Diogelwch ar y ffyrdd i bobl ifanc yn eu harddegau

Mae pobl ifanc yn eu harddegau yn fwy tebygol o gael eu lladd neu'u hanafu mewn damwain ffordd nag unrhyw grŵp oedran arall. Helpwch i gadw’ch plentyn yn ddiogel drwy ei atgoffa i:

  • beidio â gwneud dim a fydd yn tynnu ei sylw wrth groesi’r ffordd, megis gwrando ar gerddoriaeth drwy glustffonau, siarad ar ei ffôn symudol, anfon neges testun neu sgwrsio â’i ffrindiau
  • chwilio am fylchau diogel i groesi – dylech ymarfer barnu cyflymder a phellter cerbydau sy'n dynesu ar ffyrdd prysur gyda’ch plentyn
  • peidio byth â mentro wrth groesi’r ffordd – efallai na fydd y ceir yn gallu stopio, felly dylai aros am fwlch mawr yn y traffig
  • defnyddio croesfannau i gerddwyr bob tro

Additional links

PWYLLWCH! cyngor diogelwch ar y ffyrdd

Cael gwybod sut i gadw’n ddiogel ar y ffyrdd gyda ffeithiau, ystadegau, hysbysiadau a gemau PWYLLWCH!

Allweddumynediad llywodraeth y DU