Iechyd a diogelwch eich plentyn wrth deithio dramor
Mae miloedd o bobl ifanc yn mynd ar eu gwyliau heb eu rhieni bob blwyddyn. Gallwch eu helpu i osgoi problemau posibl drwy sicrhau eu bod wedi trefnu eu hyswiriant, eu dogfennau teithio a'u brechiadau cyn iddynt adael. Dylech hefyd sicrhau eu bod yn ymwybodol o beryglon alcohol, cyffuriau a rhyw anniogel.
Blaengynllunio, yswiriant a dogfennau teithio ar gyfer gwyliau eich plentyn
Blaengynllunio
Unwaith y bydd eich plentyn wedi penderfynu ble mae am fynd, dylech sicrhau ei fod yn gwneud y canlynol:
- trefnu apwyntiad gyda'i feddyg teulu o leiaf chwech wythnos cyn ei wyliau i holi pa frechiadau sydd eu hangen
- prynu llawlyfr da fel bod ganddo wybodaeth am y wlad y mae'n mynd iddi a'i fod yn ymwybodol o gyfreithiau ac arferion lleol
- gwneud nodyn o gyfeiriad y llysgenhadaeth neu'r gonsyliaeth Brydeinig agosaf rhag ofn y bydd argyfwng
Yswiriant
Rhag ofn i'ch plentyn gael problem wrth deithio, colli eiddo neu fynd yn sâl - neu gael damwain dramor - dylech:
- drefnu yswiriant teithio a sicrhau ei fod yn briodol ar gyfer ei daith (er enghraifft, efallai y bydd angen premiwm ychwanegol ar gyfer rhai gweithgareddau)
- sicrhau bod yr asiant teithio a ddefnyddir yn aelod o'r Gymdeithas Asiantau Teithio Prydeinig (ABTA)
- sicrhau bod y pecyn gwyliau wedi'i ddiogelu gan ATOL os bydd yn hedfan (Ystyr ATOL yw Trwydded Trefnwyr Teithiau Hedfan, neu 'Air Travel Organisers' Licensing' yn Saesneg)
Dogfennau teithio
Er mwyn sicrhau bod eich plentyn yn cael taith ddidrafferth, a sicrhau eich bod yn gwybod ble y mae rhag ofn y bydd argyfwng, dylech ei atgoffa i:
- sicrhau bod ei basbort yn ddilys a'i fod wedi trefnu unrhyw fisâu angenrheidiol
- gwneud copïau o'i basbort, ei bolisi yswiriant (gan gynnwys y rhif ffôn brys 24 awr) a'i docynnau a'u gadael gyda theulu a ffrindiau
- gofyn iddo adael copi o'i deithlen a ffordd o gysylltu ag ef gyda theulu a ffrindiau
- gofyn i'w fanc a fydd yn gallu defnyddio'r peiriannau codi arian yn y lleoedd y mae'n mynd iddynt
- cyfnewid digon o arian ar gyfer y daith a rhywfaint o arian wrth gefn, fel sieciau teithio, sterling neu ddoleri'r UD
Yfed alcohol mewn gwledydd eraill
Sicrhewch fod eich plentyn yn ymwybodol o'r oedran yfed cyfreithlon yn y lleoedd y mae'n mynd iddynt. Dylai hefyd wybod y gall bod dan ddylanwad alcohol olygu na fydd ei yswiriant yn ddilys.
Os yw eich plentyn yn debygol o yfed alcohol dramor, dylai:
- fod yn ymwybodol o agweddau lleol tuag at alcohol a'u parchu
- cadw llygad ar ei ddiodydd (gall cyffuriau gael eu rhoi mewn diodydd a anwybyddir)
- osgoi gweithgareddau fel nofio neu sgïo
- peidio ag yfed alcohol o gwbl mewn gwledydd lle y caiff ei wahardd
- deall bod pobl ym mhobman yn gwgu ar unigolion sydd wedi meddwi'n gyhoeddus
Y peryglon sy'n gysylltiedig â defnyddio cyffuriau dramor neu eu smyglo
Fel alcohol, os bydd eich plentyn yn gysylltiedig â digwyddiad dan ddylanwad cyffuriau, efallai na chaiff ei ddiogelu gan yswiriant.
Cyn iddo fynd dramor, dylech sicrhau bod eich plentyn yn deall bod y cosbau am dorri cyfreithiau sy'n ymwneud â chyffuriau'n aml yn ddifrifol. Gallent gynnwys dirwyon mawr a chyfnodau hir yn y carchar mewn amodau gwael. Mae rhai gwledydd yn cymhwyso'r gosb farwolaeth o hyd.
Dywedwch wrth eich plentyn na ddylai fyth:
- gario pecynnau drwy dollfeydd ar ran pobl eraill
- eistedd yng ngherbyd rhywun arall wrth fynd drwy dollfa neu groesi ffin - dylai bob amser fynd allan a cherdded
- gadael ei fag na gadael i unrhyw un arall ei bacio
- benthyca cerbyd y mae'n ei yrru i rywun arall
- rhoi meddyginiaethau a ragnodwyd iddo gan feddyg i rywun arall
Pwysigrwydd rhyw diogel ar wyliau
Dylech sicrhau bod eich plentyn yn ymwybodol o beryglon cael rhyw anniogel tra'i fod ar ei wyliau. Gall hyn leihau'r siawns o feichiogrwydd nas dymunir neu gael heintiau a drosglwyddir yn rhywiol fel HIV/Aids, clamydia neu gonorea.
Dylai hefyd ddeall bod agweddau diwylliannol tuag at gydberthnasau yn wahanol mewn gwledydd eraill. Gall ymddygiad sy'n dderbyniol yn y DU achosi tramgwydd difrifol neu gamddealltwriaeth mewn rhai cymdeithasau.
Cael mwy o wybodaeth am y wlad y mae eich plentyn yn mynd iddi
Mae gan wefan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad gyngor teithio yn ôl gwlad. Mae'n cynnwys gwybodaeth am ofynion mynediad, arferion lleol, gofal iechyd a diogelwch cyhoeddus cyffredinol. Gallwch hefyd ei ffonio ar 020 7008 1500.