Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Gosod a defnyddio seddi car i blant yn eich cerbyd

Os yw eich plentyn yn defnyddio sedd car i blant, rhaid i’r sedd gael ei gosod yn briodol yn eich cerbyd. Yma cewch wybodaeth am osod seddi car i blant mewn gwahanol fathau o gerbydau, a’r eithriadau prin pan all plentyn deithio heb sedd o’r fath.

Gosod sedd car i blant yn eich cerbyd – awgrymiadau

Dylech wneud yn siŵr bod sedd car eich plentyn wedi cael ei gosod yn iawn bob tro y byddwch chi’n teithio, a chaniatáu amser i wneud yn siŵr bod eich plentyn yn ddiogel ac yn gyfforddus yn y sedd.

Pan fyddwch yn gosod sedd car eich plentyn yn eich cerbyd, gwnewch yn siŵr:

  • eich bod yn dilyn cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
  • bod sedd eich plentyn wedi cael ei gosod yn dynn yn y sedd oedolyn, a bod y gwregys diogelwch yn mynd drwy’r holl slotiau cywir
  • nad yw bwcl y gwregys diogelwch i oedolyn wedi plygu dros ffrâm sedd eich plentyn nac yn pwyso ar y ffrâm
  • nad ydych yn newid y gwregys diogelwch i oedolyn na sedd eich plentyn er mwyn gwneud i’r sedd ffitio

Defnyddio sedd car eich plentyn yn y sedd flaen

Os yw’n ffitio, gallwch ddefnyddio sedd car eich plentyn yn sedd flaen eich cerbyd. Mae hyn yn cynnwys cerbydau dwy sedd, neu geir â tho meddal pan fyddwch wedi gostwng y to.

Rhaid i chi ddiffodd y system bagiau aer blaen cyn gosod sedd babi sy'n wynebu’r cefn. Darllenwch gyfarwyddiadau'r gwneuthurwr i gael cyngor ar sut mae gwneud hyn.

Cysylltu sedd car eich plentyn â mannau cysylltu ISOFix

Mae gan rai ceir newydd fannau cysylltu ISOFix. Gallwch osod rhai seddi car drwy ddefnyddio’r mannau cysylltu hyn yn hytrach na defnyddio’r gwregys diogelwch i oedolyn. Drwy ddefnyddio’r system ISOFix, gallwch osod y sedd car yn gyflymach ac yn haws, ac mae’n helpu i leihau'r risg y byddwch chi'n gosod sedd eich plentyn yn anghywir.

Holwch y gwneuthurwr a fydd sedd car benodol yn ffitio mewn car â mannau cysylltu ISOFix.

Seddi car mewn sedd â belt glin yn unig

Os mai dim ond belt glin sydd gan sedd, bydd dal angen i chi osod sedd car eich plentyn. Fodd bynnag, mae’n anodd dod o hyd i sedd car i blentyn y gellir ei ddefnyddio â dim ond belt glin. Mae'n rhaid cael belt â strap lletraws hefyd i ddefnyddio'r rhan fwyaf o seddi.

Siaradwch â chyflenwr arbenigol, neu ystyried gosod belt glin a belt lletraws yn y cerbyd.

Ceir sydd â seddi maint plentyn eu hunain

Mae gan rai ceir eu seddi plant eu hunain, a dim ond i blant y maent yn addas. Os yw'r sedd wedi cael ei chymeradwyo fel sedd y gellir ei defnyddio yn hytrach na sedd car i blentyn, bydd label gydag "E" mewn cylch i’w gweld ar y sedd. Bydd y label hefyd yn dangos pwysau’r plentyn y mae’r sedd wedi’i chymeradwyo ar ei gyfer – fel arfer, mwy na 15 cilogram.

Os nad yw’r sedd maint plentyn wedi cael ei chymeradwyo, bydd angen i’ch plentyn ddefnyddio ei sedd car ei hun. Os nad yw ei sedd car yn ffitio, ni all eich plentyn ddefnyddio sedd maint plentyn y cerbyd.

Os oes gan eich cerbyd seddi sy'n wynebu'r ochr

Ni cheir defnyddio seddi car i blant mewn seddi sy’n wynebu’r ochr. Am y rheswm hwn, ni all plentyn sy’n gorfod defnyddio sedd plentyn deithio mewn sedd sy’n wynebu’r ochr, oherwydd nid yw gwregysau diogelwch mewn seddi sy’n wynebu'r ochr yn amddiffyn teithwyr mewn damwain, gan achosi anafiadau difrifol.

Os nad oes gwregysau diogelwch yn eich cerbyd

Os nad oes gwregysau diogelwch yn eich cerbyd, gall plentyn hŷn na thair oed deithio yn y sedd gefn heb ei sedd car ei hun.

Ni ddylai plant dan dair oed deithio mewn ceir, faniau na cherbydau nwyddau heb wregys diogelwch neu sedd car.

Teithio gyda’ch plentyn mewn bysiau mini

Mewn bysiau mini â llai na 2.54 tunnell o bwysau di-lwyth, rhaid i blant tair oed a hŷn ddefnyddio’r sedd car briodol ar gyfer eu pwysau, os oes un ar gael. Fodd bynnag, nid oes rhaid i’r gyrrwr nac unrhyw un arall ddarparu sedd car ar gyfer y plentyn.

Os nad yw sedd car y plentyn ar gael neu os nad yw’n ffitio, rhaid i blant tair oed a hŷn ddefnyddio’r gwregys diogelwch i oedolyn. Does dim rhaid i blant dan dair oed ddefnyddio gwregys diogelwch, a gallant deithio heb unrhyw fath o wregys.

Pryd all eich plentyn deithio heb sedd car

Dan rai amgylchiadau prin, gall eich plentyn deithio heb sedd car os nad oes un ar gael.

Tacsis a cherbydau hurio preifat (minicab)

Mewn tacsi trwyddedig neu gerbyd hurio preifat (minicab):

  • gall plant dan dair oed deithio heb sedd car i blant neu wregys diogelwch, ond dim ond yn y sedd gefn
  • gall plant tair oed neu hŷn deithio heb sedd car i blant, ond mae’n rhaid iddynt wisgo’r gwregys diogelwch i oedolyn

Teithiau byr annisgwyl ond angenrheidiol

Os nad yw’r sedd plant briodol ar gael, gall plentyn hŷn na thair oed ddefnyddio’r gwregys diogelwch i oedolyn ar gyfer taith fer annisgwyl ac angenrheidiol. Nid yw hyn yn berthnasol i gludo’ch plentyn i’r ysgol neu daith rydych chi'n gwybod amdani ymlaen llaw.

Ni ddylech gludo plant dan dair oed mewn cerbyd os nad oes ganddynt wregys diogelwch neu'r sedd car briodol.

Dim lle i drydedd sedd car plentyn yn y cefn

Os na all trydydd plentyn eistedd yn ei sedd plentyn yn y sedd flaen, gall deithio yn y sedd gefn gan ddefnyddio’r gwregys diogelwch i oedolyn.

Additional links

PWYLLWCH! cyngor diogelwch ar y ffyrdd

Cael gwybod sut i gadw’n ddiogel ar y ffyrdd gyda ffeithiau, ystadegau, hysbysiadau a gemau PWYLLWCH!

Allweddumynediad llywodraeth y DU