Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Gwener, 5 Hydref 2012

Diogelwch ar y ffordd ar gyfer plant dan saith oed

Drwy fod yn esiampl i'ch plentyn gallwch wneud yn siŵr y bydd yn aros yn ddiogel ac yn meithrin ymwybyddiaeth o ffyrdd a thraffig. Efallai y bydd hefyd yn ddefnyddiol i chi ddilyn yr awgrymiadau syml hyn wrth groesi'r ffordd gyda'ch plentyn.

Ar y palmant

Pan rydych yn cerdded wrth ymyl ffordd mae'n syniad da:
  • gafael yn llaw eich plentyn - peidiwch â gadael i'ch plentyn redeg o'ch blaen
  • cadw golwg am fynedfeydd neu lwybrau cudd sy'n croesi'r palmant ac annog eich plentyn i wneud yr un fath
  • rhoi harnais ar blentyn ifanc os nad yw mewn cadair wthio
  • sicrhau bod eich plentyn yn cerdded ar ochr y palmant sydd bellaf oddi wrth y traffig
Gall fod yn anodd i yrwyr weld plant bach, yn enwedig wrth fagio, felly cymerwch bwyll ychwanegol. Peidiwch byth â gadael i'ch plentyn fynd yn agos at ffordd ar ei ben ei hun na hyd yn oed gyda phlentyn hŷn. Yn gyffredinol, nid yw plant yn barod i groesi'r ffordd ar eu pen eu hunain nes eu bod yn wyth oed o leiaf - ac ni fydd llawer yn barod i groesi'r ffordd bryd hynny hyd yn oed.

Croesi'r ffordd

Pan ddaw'n bryd i chi ddysgu eich plentyn sut mae croesi'r ffordd, cofiwch y pethau hyn:

  • gosodwch esiampl dda bob amser drwy ddewis lle diogel i groesi ac egluro beth yr ydych yn ei wneud
  • gadewch i'ch plentyn eich helpu i benderfynu lle a phryd mae'n ddiogel croesi
  • dywedwch wrth eich plentyn mai'r llefydd mwyaf diogel i groesi yw wrth groesfan i gerddwyr neu gyda rheolwr croesfan
  • dywedwch wrth eich plentyn beidio â chroesi mewn man lle nad yw'n bosib gweld yn bell ar hyd y ffordd
  • eglurwch na ddylid ceisio croesi ffordd rhwng ceir wedi parcio; ni fydd y gyrwyr yn gallu eu gweld yn dda iawn ac efallai y bydd y ceir yn dechrau symud
  • defnyddiwch Reolau'r Groes Werdd gyda'ch plentyn; eglurwch ei bod yn rhaid stopio wrth ymyl y palmant, yna edrych bob ffordd a gwrando am draffig cyn croesi
  • pan fydd hi'n ddiogel croesi, cerddwch yn syth ar draws y ffordd gan ddal ati i edrych a gwrando am draffig
  • atgoffwch eich plant i ganolbwyntio - byddai'n ddigon hawdd i rywbeth arall fynd â'u bryd, gan beri iddynt anghofio popeth y maent wedi'i ddysgu a rhedeg i ganol y ffordd
  • sicrhewch fod unrhyw un arall sy'n gwarchod eich plentyn yn dilyn yr un rheolau diogelwch ar y ffordd â chi

Mae 'Croesi'r Ffordd yn Ddiogel' yn ganllaw lliwgar i'ch helpu i addysgu am ddiogelwch ar y ffordd. Mae hefyd yn cynnwys gemau y gallwch eu chwarae gyda'ch plentyn. I gael copi am ddim, ffoniwch 0870 1226 236 neu gallwch ei lwytho oddi ar y we isod.

Croesfannau cerddwyr

Efallai eich bod yn meddwl bod croesfannau cerddwyr yn ddiogel, ond mae'n dal yn bosib iddynt fod yn beryglus i blant os nad ydynt yn ofalus. Cofiwch:

  • dylech egluro ei bod yn rhaid i gerddwyr aros ar y palmant nes bod y traffig sy'n dod o'r ddwy ochr wedi stopio - nid yw'n ddiogel croesi tan hynny
  • os oes ynys yng nghanol y ffordd, eglurwch wrth eich plentyn y dylai edrych ar ddau hanner y groesfan fel croesfannau unigol
  • dylech ddweud wrth eich plentyn ei bod yn bwysig dal ati i edrych a gwrando wrth groesi, rhag ofn nad yw gyrrwr wedi'i weld
  • rhybuddiwch eich plentyn i gadw golwg am seiclwyr neu feicwyr modur, rhag ofn nad ydynt wedi ei weld
  • sicrhewch ei bod yn hawdd i'ch plentyn gael ei weld; mae'n syniad da gwisgo dillad lliwgar neu lachar yn ystod y dydd ac mae defnyddiau adlewyrchol yn gweithio'n dda yn y nos
  • dylid bob amser ddefnyddio croesfan sebra neu groesfan a reolir gan oleuadau, neu reolwr croesfan ysgol, os oes un

Additional links

PWYLLWCH! cyngor diogelwch ar y ffyrdd

Cael gwybod sut i gadw’n ddiogel ar y ffyrdd gyda ffeithiau, ystadegau, hysbysiadau a gemau PWYLLWCH!

Allweddumynediad llywodraeth y DU