Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os yw'ch beic yn rhy fawr, neu os yw'r sedd neu'r bar llywio yn y safle anghywir, ni fyddwch yn gallu ei reoli'n iawn. Dylech hefyd archwilio eich beic yn rheolaidd er mwyn gwneud yn siŵr ei fod mewn cyflwr da. Yma cewch gyngor ar wneud yn siŵr bod eich beic yn barod i'w ddefnyddio.
Mae angen i chi fod yn gyfforddus ac mae'n bwysig i chi allu stopio'n ddiogel ar eich beic, felly gwnewch yn siŵr bod ei faint yn addas ar eich cyfer chi. Sefwch dros ffrâm y beic. Os yw ei faint yn gywir, dylech allu gwneud y canlynol yn hwylus:
Dylai eich sedd a'r bar llywio fod ar uchder sy'n gyfforddus i chi. Rhowch un sawdl ar y pedal. Dylai eich coes sythu pan mae'r pedal ar y pwynt pellaf o'r sedd. Gwnewch yn siŵr nad ydych yn codi'r sedd nes eich bod yn gweld y marc ar bostyn y sedd sy'n dangos na ellir codi dim mwy arni. Os oes angen i'r sedd fod mor uchel â hyn i chi allu eistedd yn gyfforddus, mae'n debygol bod y beic yn rhy fach i chi.
Dylech archwilio eich beic yn rheolaidd i wneud yn siŵr ei fod yn gweithio'n iawn.
Gafaelwch ym mholyn y bar llywio i godi tu blaen y beic, yna:
Os oes gennych chi giard mwd blaen, dylid cael bwlch o 5 milimetr o leiaf rhwng y giard mwd blaen a'r teiar. Tynnwch y giard mwd os yw'n rhwbio yn erbyn blaen eich esgid pan rydych chi'n pedlo.
Gafaelwch yn y sedd er mwyn codi cefn y beic a gwnewch yr un archwiliadau eto ar yr olwynion cefn.
Defnyddiwch y brêc blaen. Gwnewch yn siŵr:
Defnyddiwch y brêc ôl a gwneud yr un archwiliadau eto. Dylai'r teiar ôl lithro yn hytrach na rholio pan rydych yn defnyddio'r brêcs ac yn gwthio'r beic yn ei flaen.
Dylai'r holl rannau ar y bar llywio fod yn dynn a dylech allu llywio'n ddidrafferth. Rhyddhewch y brêcs, sefwch o flaen yr olwyn flaen a'i dal rhwng eich pen-gliniau. Yna gwnewch yn siŵr nad oes dim yn rhydd pan fyddwch yn ceisio:
Symudwch yn nes at gefn y beic a gafael yn dynn yn y sedd. Gwnewch yn siŵr nad ydych yn gallu ei symud i fyny ac i lawr nac o ochr i ochr. Os yw'n symud, dylech ei thynhau.
Gofynnwch i rywun weithio'r pedalau gyda llaw tra rydych chithau'n codi'r olwyn ôl oddi ar y llawr drwy ddal y sedd. Wedyn:
Gwnewch yn siŵr nad yw'r gadwyn yn hongian, wedi torri neu wedi rhydu. Rhowch olew ar y gadwyn os oes angen.
Os oes angen cymorth arnoch i gynnal a chadw eich beic, ewch i'ch siop feiciau leol am gyngor. Bydd modd i chi hefyd ddysgu sut mae archwilio'ch beic os byddwch chi'n cael rhywfaint o hyfforddiant beicio.
I gadw'ch beic yn ddiogel bydd angen dau glo gwahanol arnoch chi, megis clo D cadarn a chlo cryf ar gyfer y gadwyn. I gael cyngor ynghylch beth i edrych amdano pan fyddwch chi'n dewis clo a sut mae gwneud yn siŵr bod eich beic yn ddiogel, dilynwch y ddolen isod. Neu gwyliwch fideo Ymgyrch Beicio Llundain (LCC) i weld sut i beidio â chloi eich beic.
Cael gwybod sut i gadw’n ddiogel ar y ffyrdd gyda PHWYLLWCH! ffeithiau ac ystadegau, hysbysebion a gemau
Gweld beth yw eich lefelau ffitrwydd gyda’r teclyn asesiad ffitrwydd NHS Choices. Gallwch hefyd gael cyngor ar sut i wella eich ffitrwydd