Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Beicio'n ddiogel

Bydd angen i chi gael y dillad a'r offer diogelwch priodol os ydych chi'n bwriadu beicio'n gyson ar hyd ffyrdd prysur. Dylech wybod Rheolau'r Ffordd Fawr a sut mae beicio'n hyderus. Yn y fan hon cewch gyngor am yr offer y mae ei angen arnoch a sut mae ymdopi ar ffyrdd prysur.

Gwnewch yn siŵr bod yr offer cywir gennych

Rhowch gloch ar eich beic er mwyn i chi allu rhoi arwydd i ddefnyddwyr ffordd eraill

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwisgo dillad sy'n addas ar gyfer beicio. Dylech allu symud heb rwystr heb i ddim byd fynd yn sownd yng nghadwyn eich beic neu yn yr olwynion, neu guddio eich goleuadau. Dylech wisgo:

  • dillad lliw golau neu fflwroleuol sy'n eich gwneud yn fwy amlwg i ddefnyddwyr eraill y ffordd yn ystod y dydd a phan fydd y golau'n wael
  • dillad a/neu ategolion, megis gwregys neu fandiau braich/ffêr, sy'n adlewyrchu'r golau yn y tywyllwch

Gall bag cefn effeithio ar eich cydbwysedd ar feic os yw'n rhy fawr neu'n rhy drwm. Gallech ddefnyddio bagiau ochr yn hytrach na bag cefn.

Helmedi

Gall helmedi eich gwarchod rhag cael anaf i'ch pen os byddwch yn disgyn oddi ar eich beic. Dylech wisgo helmed sy'n:

  • bodloni'r Safon Brydeinig (BS EN 1078:1997)
  • ffitio'n dda ac yn sgwâr ar eich pen – yn gorwedd fymryn uwchben eich aeliau, heb fod yn disgyn yn ôl nac ymlaen
  • cael ei chadw yn ei lle gan strapiau, a'r rheini heb dro ynddynt, gyda lle i ddim ond dau fys rhwng eich gên a'r strap

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael helmed newydd bob pum mlynedd. Peidiwch â phrynu helmed ail-law – efallai y bydd wedi'i difrodi ac na fydd yn eich diogelu'n iawn.

Goleuadau ac adlewyrchyddion gorfodol

Os ydych chi'n defnyddio eich beic ar ôl iddi nosi neu mewn gwelededd gwael, rhaid i chi osod:

  • golau blaen gwyn
  • golau ôl coch
  • adlewyrchydd ôl coch
  • adlewyrchyddion oren/melyn ar du blaen a thu ôl y pedalau

Bydd gosod adlewyrchyddion ar y tu blaen ac ar y sbôcs hefyd yn helpu i wneud yn siŵr bod pobl yn eich gweld.

Gallwch gael goleuadau sy'n aros ymlaen drwy'r amser neu rai sy'n fflachio, neu gyfuniad o'r ddau (rhai sy'n aros ymlaen drwy'r amser ar y tu blaen a rhai sy'n fflachio ar y tu ôl). Mae'n bwysig cael golau sydd ymlaen drwy'r amser yn y tu blaen pan rydych chi'n beicio drwy ardaloedd lle nad oes golau stryd da.

Gwnewch yn siŵr bod unrhyw oleuadau sy'n aros ymlaen drwy'r amser yn bodloni Safon Brydeinig BS 6102-3. Nid oes yn rhaid i oleuadau sy'n fflachio fodloni'r safon ond

  • mae'n rhaid iddynt fflachio'n gyson rhwng un a phedair gwaith bob eiliad
  • mae'n rhaid i'w disgleirdeb fod yn o leiaf pedair candela

Mae'n rhaid i'r adlewyrchyddion ar eich pedalau a'r adlewyrchydd cefn fodloni Safon Brydeinig BS 6102-2. Gallwch hefyd ddefnyddio golau neu adlewyrchydd sy'n bodloni safon a dderbynnir gan wlad arall sy'n rhan o'r Comisiwn Ewropeaidd (sy'n cyfateb i'r Safon Brydeinig).

Goleuadau ac adlewyrchyddion ychwanegol

Gallwch ddefnyddio goleuadau eraill yn ogystal â'r rhai gorfodol ond mae'n rhaid iddynt:

  • fod y lliw iawn – gwyn ar y tu blaen, coch ar y cefn
  • beidio â dallu defnyddwyr ffordd eraill

Os ydyn nhw'n fflachio, rhaid iddynt wneud hynny ar gyfradd gyson o rhwng un a phedair fflach bob eiliad.

Sut i feicio'n ddiogel ar y ffordd

Peidiwch â gwrando ar gerddoriaeth na defnyddio ffôn symudol pan rydych chi ar feic. Fe all hynny dynnu eich sylw ac achosi damweiniau

Pan rydych chi'n beicio ar ffyrdd prysur mae angen i chi ddangos i yrwyr beth rydych chi'n bwriadu ei wneud. Fel rheol, bydd modurwyr yn teithio'n gyflymach na beicwyr ac mae'n bosib y bydd ganddynt lai o amser i ymateb i beryglon.

Ceisiwch ragweld beth fydd gyrrwr yn ei wneud gan wneud yn siŵr eich bod yn:

  • dangos osgo positif a phendant pan rydych ar eich beic
  • edrych ac yn rhoi arwydd cyn cychwyn, stopio neu droi
  • cadw'n ddigon clir oddi wrth y palmant – 1 metr i ffwrdd neu yng nghanol y lôn chwith
  • creu cyswllt llygad gyda gyrwyr er mwyn rhoi gwybod iddynt eich bod wedi'u gweld
  • cydnabod unrhyw gwrteisi gan yrwyr
  • cadw hyd drws car i ffwrdd o geir sydd wedi'u parcio

I ddysgu sut mae delio gyda ffyrdd prysur a bod yn fwy hyderus ar eich beic, beth am gael hyfforddiant?

Mynd ar eich beic ar lwybrau sy'n cael eu rhannu

Efallai na fydd pobl yn eich gweld neu'n eich clywed yn agosáu ar lwybrau sy'n cael eu rhannu felly:

  • arafwch
  • defnyddiwch eich cloch i roi gwybod i bobl eich bod chi yno
  • byddwch yn barod i arafu a stopio os bydd angen
  • cadwch at ochr y beiciwr

Gwybod Rheolau'r Ffordd Fawr

Mae Rheolau'r Ffordd Fawr yn esbonio'r gyfraith y mae'n rhaid i chi a defnyddwyr ffordd eraill ei dilyn. Mae'n rhoi cyngor am ddefnyddio'r ffordd yn ddiogel ynghyd â gwybodaeth am ystyr y gwahanol arwyddion a'r marciau ffordd y mae'n rhaid i chi ufuddhau iddynt. Dylech wybod y rheolau ar gyfer beicwyr a'r rheolau ar gyfer pob defnyddiwr arall cyn i chi fynd ar y ffordd ar eich beic.

Os cewch chi ddamwain

Dywedwch wrth yr heddlu os ydych chi'n cael gwrthdrawiad ar eich beic a bod rhywun wedi'i anafu. Gwnewch yn siŵr bod unrhyw un sydd wedi'i anafu yn cael sylw meddygol.

Dylech gael yswiriant ar eich cyfer chi ac ar gyfer eich beic. Os nad ydych yn gwneud hyn, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu am unrhyw ddifrod a wneir i rywun neu i'w eiddo yn sgil damwain a oedd yn gysylltiedig â'ch beic chi. Mae'n bosib y cewch yswiriant trydydd parti os byddwch yn ymaelodi â rhai mudiadau beicio.

Mwy o ddolenni defnyddiol

Additional links

PWYLLWCH! cyngor diogelwch ar y ffyrdd

Cael gwybod sut i gadw’n ddiogel ar y ffyrdd gyda PHWYLLWCH! ffeithiau ac ystadegau, hysbysebion a gemau

Pa mor iach ych chi?

Gweld beth yw eich lefelau ffitrwydd gyda’r teclyn asesiad ffitrwydd NHS Choices. Gallwch hefyd gael cyngor ar sut i wella eich ffitrwydd

Cynllunio eich llwybr seiclo

Defnyddiwch y cynlluniwr siwrnai i ddod o hyd i lwybr seiclo mewn ardaloedd lleol

Allweddumynediad llywodraeth y DU