Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Ble gallwch chi ddefnyddio eich beic

Gallwch fynd ar eich beic ar y rhan fwyaf o ffyrdd ond gall llwybr beicio eich helpu i ddynodi'r lonydd beicio a'r ffyrdd tawel sy'n addas iawn ar gyfer beicwyr. Gallwch hefyd fynd ar eich beic yng nghefn gwlad ar rai llwybrau sydd oddi ar y ffordd, megis llwybrau ceffylau. Yma, cewch gyngor ynghylch ble gallwch feicio a sut mae dod o hyd i lwybr.

Rheolau'r Ffordd Fawr

Llwybrau i feicwyr

Mae'r arwydd hwn yn dangos llwybr sy'n cael ei argymell ar gyfer beicwyr

Gallwch fynd ar eich beic ar y rhan fwyaf o ffyrdd a:

  • lonydd beicio (ar y ffordd)
  • traciau ar gyfer beicio a llwybrau ceffylau (sydd oddi ar y ffordd)
  • lonydd bysiau – os ceir arwydd yn dangos bod beicwyr yn cael eu defnyddio

Fodd bynnag, ddylech chi ddim beicio, er enghraifft:

  • ar y palmant – oni bai fod arwyddion yn dangos bod beicwyr yn cael mynd arno
  • drwy olau coch
  • i lawr stryd un ffordd y ffordd anghywir – oni bai fod arwyddion yn dangos y caiff beicwyr wneud yn wahanol
  • ar draws croesfan pelican, pâl neu sebra – ond cewch feicio ar draws croesfan twcan pan fyddwch yn gweld y golau gwyrdd ar gyfer beicwyr
  • ar draffyrdd
  • lle ceir arwydd 'dim beicio'

Mae'r rheolau hyn i'w gweld yn Rheolau'r Ffordd Fawr – mae cryn dipyn o'r rheolau'n ofynion cyfreithiol. Os byddwch yn anufuddhau i'r rheolau hyn, rydych chi'n cyflawni trosedd.

Dod o hyd i lwybr beicio

Ar lwybrau beicio, ceir cyfarwyddiadau sy'n dangos lle gallwch fynd ar eich beic ar ffyrdd neu rannau o ffyrdd sy'n addas ar gyfer beicwyr. Fel rheol, maent yn cynnwys cyfuniad o ffyrdd tawel, lonydd beicio a chyfleusterau oddi ar y ffordd, megis croesfannau. Mae'n bosib y bydd llwybrau beicio hefyd yn dangos i chi lle mae angen i chi ddod oddi ar eich beic er mwyn croesi ffordd arbennig o brysur neu gylchfan.

Mae nifer o lonydd a llwybrau beicio lleol yn rhan o rwydweithiau beicio lleol neu'r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol. Gallwch gael map o'r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol gan yr elusen Sustrans. Mae'r rhwydwaith yn cynnwys dros 12,000 o filltiroedd o lwybrau beicio ar ffyrdd, llwybrau di-draffig a lonydd tawel.

Llwybrau beicio lleol

Cysylltwch â'ch cyngor lleol i gael gwybodaeth am lwybrau beicio yn eich ardal.

Gallwch ddefnyddio cynlluniwr beicio Cross & Stitch i gynllunio llwybr beicio mewn ardaloedd penodol. Gallwch hefyd roi awgrymiadau ar gyfer gwella'r llwybrau neu'r adnodd.

Llwybrau beicio ar gyfer Llundain

Gallwch chwilio am lwybrau beicio yn Llundain drwy ddefnyddio cynlluniwr taith Transport for London. Gallwch hefyd archebu canllawiau beicio am ddim a chael gwybod am y cynllun llogi beic a phriffyrdd beicio Llundain.

Mae gan Ymgyrch Beicio Llundain hefyd lyfrgell o lwybrau beicio sy'n cynnwys Llundain i gyd.

Beicio yng nghefn gwlad

Gallwch fynd ar eich beic yng nghefn gwlad ar ffyrdd cyhoeddus, ar lwybrau arbennig ar gyfer beiciau ac ar draciau beicio. Bydd arwyddion traffig yn dangos i chi pa lwybrau sydd ar gael i feicwyr. Gallwch hefyd ddefnyddio llwybrau ceffylau, ond mae'n rhaid i chi ildio i bobl sy'n marchogaeth ac i gerddwyr. I gael rhagor o wybodaeth am lwybrau ceffylau a sut mae dod o hyd iddynt, ewch i 'Hawliau tramwy cyhoeddus'.

I ddod o hyd i lwybr beicio mewn fforest neu goedwig, defnyddiwch y gwasanaeth a gynigir ar wefan y Comisiwn Coedwigaeth.

Beicio ar hyd llwybrau tynnu ar lan camlesi

Os ydych chi'n bwriadu beicio ar hyd llwybr tynnu ar lan camlas, holwch a oes angen i chi arddangos trwydded ar eich beic. Gallwch weld pa gamlesi y mae angen i chi gael trwydded am ddim ar eu cyfer a llwytho trwydded i lawr oddi ar wefan Waterscape Dyfrffyrdd Prydain.

Does dim angen trwydded arnoch i feicio ar lwybrau tynnu Llundain, ond mae'n rhaid i chi ddilyn cod ymddygiad llwybrau tynnu Llundain.

Mynd â'ch beic ar drafnidiaeth gyhoeddus

Os oes arnoch eisiau mynd â'ch beic ar fws neu fws moethus, holwch y cwmni. Efallai y bydd angen i chi dynnu eich beic oddi wrth ei gilydd a rhoi gorchudd amdano.

Os ydych chi'n teithio ar drên gyda'ch beic, holwch y cwmni trên cyn prynu eich tocyn.

Mynd â beiciau sy'n plygu ar drenau

Cewch deithio gyda beic sy'n plygu ar bob gwasanaeth heb orfod wynebu cyfyngiadau. Efallai y bydd angen i chi roi gorchudd amdano ar rai gwasanaethau.

Mynd â beiciau safonol ar drenau

Nid yw nifer o gwmnïau trên yn caniatáu i chi deithio gyda beic safonol yn ystod oriau brig. Mae oriau brig yn gyffredinol rhwng 7.00 am a 10.00 am a rhwng 4.00 pm a 7.00 pm. Efallai y bydd angen i chi gadw lle ar gyfer eich beic ar ambell siwrnai.

I gael cyngor manwl am bob gwasanaeth trên a dolenni at fanylion cyswllt cwmnïau trên, ewch i wefan Ymholiadau National Rail.

Teithio gyda beic yn Llundain

I gael cyngor ynghylch pryd y cewch deithio ar fysiau, ar drenau neu ar y tiwb yn Llundain, ewch i wefan Transport for London.

Lonydd beicio a pharcio eich beic

Eich cyngor lleol sy'n gyfrifol am ddarparu a chynnal a chadw rhwydweithiau a lonydd beicio, megis arwyddion a stondinau cadw beiciau, yn eich ardal leol. Cysylltwch â'ch cyngor os hoffech gael gwybodaeth am stondinau neu lonydd beicio sydd ar gael ar hyn o bryd neu sydd yn yr arfaeth yn eich ardal.

Mwy o ddolenni defnyddiol

Additional links

Pa mor heini yr ydych chi?

Gweld beth yw eich lefelau ffitrwydd gydag offeryn asesiad ffitrwydd NHS Choices. Gallwch hefyd gael cyngor ar sut i gael eich hun yn weithgar


Cynllunio eich taith seiclo

Defnyddiwch y cynlluniwr siwrnai i ddod o hyd i lwybr seiclo mewn ardaloedd lleol

Allweddumynediad llywodraeth y DU