Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cynlluniau beicio i'r gwaith

Mae rhai cyflogwyr yn cynnig cynlluniau beicio i'r gwaith er mwyn annog eu gweithwyr i deithio i'r gwaith mewn ffordd iachach sydd hefyd yn fwy gwyrdd. Gallai eich cyflogwr roi benthyg beic a/neu offer diogelwch i chi er mwyn eich galluogi i deithio yn ôl ac ymlaen i'r gwaith. Dyma wybodaeth am y cynlluniau.

Sut mae cynllun beicio i'r gwaith yn gweithio

Efallai y bydd eich cyflogwr yn cynnal ei gynllun beicio i'r gwaith ei hun, neu drwy ddarparwr arall, fel siop feiciau. Drwy'r cynllun, fe allech chi gael benthyg beic a/neu offer diogelwch.

Rhaid i chi ddefnyddio'r beic a/neu'r offer diogelwch ar gyfer y rhan fwyaf o'ch siwrneiau (dros 50 y cant o'r amser) er mwyn iddynt gyfrif fel rhai cymwys. Mae hyn yn golygu siwrnai gyfan neu ran o siwrnai:

  • rhwng eich cartref a'ch gweithle
  • rhwng un gweithle a gweithle arall
  • i orsaf drenau ac oddi yno er mwyn cyrraedd y gwaith

Drwy gymryd rhan yn y cynllun does dim rhaid i chi dalu un swm gyda'i gilydd er mwyn prynu beic a/neu offer diogelwch. Yn hytrach, gallech gael benthyg y beic a/neu'r offer gan eich cyflogwr, sy'n gallu bod hyd at £1000 fel rheol.

Ad-dalu benthyciad

Efallai y bydd eich cyflogwr am adennill y costau sy'n gysylltiedig â rhoi benthyg y beic a/neu'r offer diogelwch, naill ai'n llawn neu'n rhannol. Os felly, byddech wedyn yn ad-dalu'r benthyciad i'ch cyflogwr dros gyfnod o amser (rhwng 12 a 18 mis fel rheol) er mwyn gwasgaru'r gost.

Fel rheol, bydd taliadau'r benthyciad yn cael eu tynnu o'ch cyflog drwy drefniant 'aberthu cyflog'. Mae hyn yn golygu eich bod yn cytuno i dderbyn llai o gyflog yn gyfnewid am fudd – sef cael benthyg beic a/neu offer diogelwch. I gael rhagor o gyngor am y trefniadau aberthu cyflog a'r hyn y dylech ei ystyried cyn cymryd rhan, holwch eich cyflogwr neu dilynwch y ddolen isod.

Pan ddaw'r benthyciad i ben, efallai y bydd eich cyflogwr yn rhoi cyfle i chi brynu'r beic am ei werth ar y farchnad, os dymunwch. Neu, efallai y bydd modd i chi barhau i gael benthyg y beic heb dâl – cyn belled â'ch bod yn dal i'w ddefnyddio ar gyfer siwrneiau cymwys.

Siarad â’ch cyflogwr am y cynllun

Eich cyflogwr sy'n penderfynu a yw am gynnig cynllun beicio i'r gwaith ai peidio a sut y bydd y cynllun hwnnw'n gweithio. Felly holwch eich cyflogwr yn uniongyrchol os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn rhan o gynllun o'r fath.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod p'un ai eich cyflogwr ynteu chi sy'n gyfrifol am gynnal a chadw'r beic ac am drefnu yswiriant ar ei gyfer. Dylech hefyd ofyn i'ch cyflogwr beth sy'n digwydd os byddwch chi'n penderfynu gadael y cynllun cyn i gyfnod y benthyciad ddod i ben.

Annog eich cyflogwr i ddechrau cynllun beicio i'r gwaith

Drwy gyflwyno cynllun beicio i'r gwaith, gall eich cyflogwr fanteisio ar eithriad treth blynyddol. Mae hyn yn golygu y gall hawlio'n ôl y TAW y mae wedi'i dalu ar y beic a/neu'r offer, a defnyddio unrhyw lwfansau cyfalaf sydd ar gael.

Os ydych chi’n hunangyflogedig

Os ydych chi'n hunangyflogedig, dylech geisio cyngor am ddidyniadau a gostyngiadau treth ar gyfer gwariant busnes i weithwyr hunangyflogedig, gan gynnwys offer beicio a ddefnyddir at ddibenion busnes.

Hyfforddiant beicio a threfnu eich taith i'r gwaith ar feic

Ewch i 'Ble gallwch chi ddefnyddio eich beic' i gael gwybodaeth am ddod o hyd i lwybrau beicio a mynd â'ch beic ar drafnidiaeth gyhoeddus. Os ydych chi'n awyddus i godi'ch hyder wrth feicio ar ffyrdd prysur, beth am gael hyfforddiant beicio?

Additional links

PWYLLWCH! cyngor diogelwch ar y ffyrdd

Cael gwybod sut i gadw’n ddiogel ar y ffyrdd gyda PHWYLLWCH! ffeithiau ac ystadegau, hysbysebion a gemau

Pa mor iach ych chi?

Gweld beth yw eich lefelau ffitrwydd gyda’r teclyn asesiad ffitrwydd NHS Choices. Gallwch hefyd gael cyngor ar sut i wella eich ffitrwydd

Cynllunio eich llwybr seiclo

Defnyddiwch y cynlluniwr siwrnai i ddod o hyd i lwybr seiclo mewn ardaloedd lleol

Allweddumynediad llywodraeth y DU