Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Hyfforddiant beicio

P'un ai a ydych chi'n blentyn, yn oedolyn, yn ddechreuwr llwyr neu angen ymarfer cyn beicio ar hyd lonydd prysur, gall hyfforddiant beicio helpu i wella eich sgiliau ar feic. Y Safon Genedlaethol yw'r hyfforddiant beicio mwyaf cyffredin. Yma cewch wybod beth fyddwch chi'n ei ddysgu ar bob lefel a ble mae'r hyfforddiant ar gael.

Bikeability – Hyfforddiant beicio'r Safon Genedlaethol ar gyfer plant ac oedolion

Rhaglen y cytunwyd arni'n genedlaethol ar gyfer hyfforddiant beicio yw'r Safon Genedlaethol. Fe'i datblygwyd gan arbenigwyr, gan gynnwys y llywodraeth, y Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau yn ogystal â mudiadau beicio. Yn Lloegr, darperir hyfforddiant beicio'r Safon Genedlaethol fel hyfforddiant 'Bikeability'. Mae'r hyfforddiant yn cael ei gynnal ar dair lefel: o ddysgu sgiliau beicio sylfaenol i fynd ar eich beic mewn traffig.

Efallai y bydd modd i chi gael hyfforddiant beicio'r Safon Genedlaethol os ydych chi'n byw yn rhywle arall yn y DU.

Ble i ddechrau ar eich hyfforddiant Bikeability a beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Byddwch chi'n dysgu sgiliau newydd ac yn ymarfer delio gydag amodau traffig go iawn ar bob lefel o hyfforddiant a gynigir gan Bikeability. Mae lefel un a dau Bikeability wedi'u hanelu at blant iau. Mae lefel tri wedi'i anelu at blant hŷn ac oedolion. Bydd eich hyfforddwr yn asesu eich sgiliau beicio cyn i chi ddechrau ar yr hyfforddiant. Yna, bydd yn rhoi cyngor i chi ynghylch ar ba lefel y dylech ddechrau a faint o hyfforddiant fydd ei angen arnoch cyn y gallwch feicio'n ddiogel.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu ar lefel un

Ar lefel un, byddwch yn dysgu sut i reoli eich beic. Fel rheol, cynhelir yr hyfforddiant mewn lle didraffig. Drwy gwblhau lefel un, byddwch yn gallu mynd ar eich beic mewn man lle nad oes ceir, ac yn barod i ddechrau cael hyfforddiant ar y ffordd. Byddwch yn gwybod sut i wneud y canlynol:

  • mynd ar eich beic a mynd oddi ar eich beic, cychwyn, pedlo a stopio heb help
  • reidio eich beic heb gymorth am oddeutu munud neu ragor
  • llywio'r beic
  • defnyddio'r gêrs
  • stopio'n sydyn gan gadw'r beic dan reolaeth
  • llywio'n ofalus i osgoi gwrthrychau
  • edrych o gwmpas i bob cyfeiriad, gan gynnwys y tu ôl, a rhoi arwydd eich bod yn troi i'r chwith ac i'r dde heb siglo o ochr i ochr
  • cynnal archwiliad syml ar eich beic

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu ar lefel dau

I gwblhau lefel dau mae gofyn i chi ddangos y gallwch deithio'n ddiogel ar hyd ffyrdd tawel ac ar lonydd beicio. Byddwch yn dysgu am y canlynol:

  • cwblhau siwrnai ar hyd y ffordd ar gefn beic
  • bod yn ymwybodol o bopeth o'ch cwmpas wrth i chi reidio
  • sut a phryd i roi signal er mwyn dangos i ddefnyddwyr ffyrdd eraill beth rydych chi'n bwriadu ei wneud
  • ble i reidio ar y ffyrdd
  • pasio cerbydau sydd wedi'u parcio neu gerbydau sy'n symud yn arafach
  • pasio ffyrdd ochr
  • troi i'r dde ar brif ffordd ac i'r chwith ar is ffordd
  • troi i'r chwith ar brif ffordd ac i'r dde ar is ffordd
  • cymryd y lôn gywir ar lôn gerbydau pan mae angen
  • dewis a defnyddio lonydd beicio
  • dehongli arwyddion ffordd a dilyn Rheolau'r Ffordd Fawr

Bathodynnau Bikeability

Pan fyddwch chi'n cwblhau cwrs Bikeability cewch fathodyn sy'n dangos pa lefel yr ydych wedi'i gyrraedd

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu ar lefel tri

Bydd lefel tri yn cael ei ddysgu ar ffyrdd prysur. Pan fyddwch chi wedi cwblhau'r hyfforddiant, dylech chi allu beicio'n ddiogel i'r rhan fwyaf o lefydd a byddwch yn gwybod sut i wneud y canlynol:

  • defnyddio cylchfannau
  • defnyddio cyffyrdd sy'n cael eu rheoli gan oleuadau traffig
  • defnyddio ffyrdd aml-lôn a throi arnynt
  • gwybod sut a phryd i ymuno â thraffig a sut i leoli eich hun er mwyn mynd heibio ceir sydd wedi parcio, neu ddelio gyda chyffyrdd, gan gynnwys cylchfannau
  • defnyddio cyfleusterau beicio ar y ffordd ac oddi ar y ffordd, megis lonydd beiciau neu groesfannau
  • adnabod peryglon, megis ceir wedi'u parcio, a delio gyda nhw
  • cynllunio llwybr diogel a chyfleus

Beth sydd ei angen arnoch i gychwyn hyfforddiant Bikeability

Cyn cychwyn, gwnewch yn siŵr bod eich beic yn addas ar gyfer y ffordd. Bydd eich hyfforddwr cymwysedig yn gallu eich helpu i archwilio'ch beic a'i gael yn barod ar eich cyfer, ac yn gallu dangos i chi sut mae gwneud unrhyw fân addasiadau. Ewch i 'Paratoi eich beic ar gyfer ei reidio' er mwyn cael gwybodaeth am sut i archwilio eich beic. Yn 'Beicio'n ddiogel', ceir cyngor am ddewis dillad addas ar gyfer beicio ac am ategolion megis goleuadau a helmed.

Bikeability i blant

Gall plant ddechrau cael gwersi Bikeability pan fyddant wedi dysgu reidio beic – pan maent rhwng 7 a 9 oed fel arfer (lefel un). Fel rheol, byddant yn cael hyfforddiant lefel dau ym Mlwyddyn 6 (plant 10 i 11 oed). Gall plant yn eu harddegau hwyr mewn ysgolion uwchradd wneud lefel tri.

Nid yw Bikeability ar y cwricwlwm cenedlaethol ac nid yw'n orfodol.

Ble i gael hyfforddiant Bikeability a beth yw'r gost

Dim ond hyfforddwyr o safon sydd wedi'u hachredu i gynnal yr hyfforddiant ac sydd wedi pasio cwrs hyfforddiant beicio'r Safon Genedlaethol gaiff gynnal hyfforddiant Bikeability

Mae'r rhan fwyaf o gynghorau lleol yn darparu hyfforddiant Bikeability i blant mewn ysgolion leol. Mae rhai ysgolion yn cynnig hyfforddiant Bikeability yn uniongyrchol hefyd.

Gallwch hefyd gael hyfforddiant i oedolion gan rai awdurdodau lleol – holwch eich awdurdod lleol beth sydd ar gael ac a yw'n bodloni'r Safon Genedlaethol ai peidio.

Mae'r rhan fwyaf o gyrsiau hyfforddiant ar gyfer plant am ddim, ond bydd angen i chi holi eich awdurdod lleol am hynny. Mae rhai awdurdodau yn codi ffi fechan am hyfforddiant oedolion.

Gallwch hefyd gael hyfforddiant gan ddarparwyr hyfforddiant beicio annibynnol. Cysylltwch â'ch darparwr hyfforddiant lleol i gael manylion y cwrs a'r gost.

Additional links

PWYLLWCH! cyngor diogelwch ar y ffyrdd

Cael gwybod sut i gadw’n ddiogel ar y ffyrdd gyda PHWYLLWCH! ffeithiau ac ystadegau, hysbysebion a gemau

Pa mor iach ych chi?

Gweld beth yw eich lefelau ffitrwydd gyda’r teclyn asesiad ffitrwydd NHS Choices. Gallwch hefyd gael cyngor ar sut i wella eich ffitrwydd

Cynllunio eich llwybr seiclo

Defnyddiwch y cynlluniwr siwrnai i ddod o hyd i lwybr seiclo mewn ardaloedd lleol

Allweddumynediad llywodraeth y DU