Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Gangiau a throseddu mewn gang: y ffeithiau

Grŵp o bobl a allai fod yn ymwneud â thrais a throsedd yw gang. Ni fydd nifer o bobl ifanc yn sylweddoli eu bod mewn gang - yn eu golwg hwy, dim ond rhan o griw o ffrindiau ydynt. Mae'n bwysig cofio nad yw bod mewn gang yn drosedd ynddo'i hun - dim ond y troseddau a gyflawnir sy'n anghyfreithlon.

Pam bod pobl ifanc yn ymuno â gangiau stryd?

Gall pobl ifanc ymuno â gang am nifer o resymau. Gallant ymuno er mwyn cael:

  • cydnabyddiaeth
  • cyffro
  • ffrindiau
  • teimlo eu bod yn cael eu derbyn
  • teimlad o berthyn
  • pŵer dros eraill
  • yr arian a ddaw o droseddu
  • amddiffyniad
  • tiriogaeth
  • parch

Bod mewn gang - y ffantasi a'r realiti

Efallai y bydd plant yn credu y gall bod mewn gang gynnig ffordd foethus o fyw iddynt, ond mae'r sefyllfa mewn gwirionedd yn un dra gwahanol. Mae bod mewn gang yn rhoi plant a phobl ifanc mewn perygl o:

  • droseddu
  • delio cyffuriau neu eu cymryd
  • gael eich anfon i’r carchar
  • dioddef trais neu hyd yn oed marwolaeth

Gangiau a’r gyfraith

Er nad oes unrhyw gyfreithiau sy'n gwahardd gangiau neu fod yn aelod o gang, mae yna gyfreithiau er mwyn atal gweithgarwch troseddol gangiau. Maent yn cynnwys y canlynol:

  • yn y llys, os oedd y troseddwr yn rhan o gang, gallai hynny arwain at ddedfryd hirach
  • mae'n anghyfreithlon bod ym meddiant, neu gario, cyffuriau fel canabis, cocên ac ecstasi
  • mae'n anghyfreithlon cario unrhyw gyllell os oes bwriad i'w defnyddio fel arf (hyd yn oed os mai rhywun arall sy'n berchen arni)
  • mae'n anghyfreithlon cario neu gadw gwn heb drwydded, gan gynnwys gynnau ffug neu replica
  • gall yr heddlu a staff ysgol hefyd archwilio pobl ifanc am arfau yn yr ysgol

Mae’r gyfraith hefyd yn llym iawn ar gael cyllell yn eich meddiantl. Mae’n anghyfreithlon cario cyllell yn gyhoeddus heb esboniad rhesymol. Yng ngolwg y gyfraith, nid yw esboniad rhesymol yn cynnwys:

  • cario cyllell ar gyfer rhywun arall
  • cario cyllell i amddiffyn eich hun
  • cario cyllell heb fwriad o’i defnyddio

Gall cario gwn neu gyllell olygu bod rhywun yn cael ei arestio, yn mynd i'r llys ac yn cael cofnod troseddol a fydd yn effeithio ar weddill bywyd y person hwnnw. Gall cael cofnod troseddol rwystro pobl rhag cael swydd, mynd i brifysgol neu goleg, neu deithio dramor hyd yn oed.

Allweddumynediad llywodraeth y DU