Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Rhwystro'ch plentyn rhag ymwneud â gangiau, a delio â hynny

Y peth gorau y gallwch ei wneud er mwyn rhwystro'ch plentyn rhag dechrau ymwneud â gang yw siarad â nhw ynghylch y mater. Ceisiwch gael gwybod beth yw eu barn am gangiau, a rhoi gwybod i'ch plentyn am y peryglon a ddaw o fod yn aelod o gang. Ar wahân i hyn, mae nifer o bethau eraill y gallwch chi fel rhiant eu gwneud er mwyn gwneud eich plentyn yn llai tebygol o ddod yn aelod o gang.

Chwarae rhan ym mywyd eich plentyn

  • dylech ganmol a chydnabod cyraeddiadau ac ymdrech eich plentyn
  • gwnewch eich plentyn yn falch o wreiddiau'ch teulu
  • siaradwch yn amlach gyda'ch plentyn
  • byddwch yn rhan o weithgareddau'ch plentyn yn yr ysgol ac ar ôl ysgol, os gallwch
  • anogwch eich plentyn i gymryd rhan mewn gweithgareddau ar ôl ysgol
  • cymerwch amser i ddod i adnabod ffrindiau'ch plentyn a'u teuluoedd

Helpwch eich plentyn i fyw bywyd cadarnhaol

  • byddwch yn ddylanwad da - cofiwch fod plant yn dysgu wrth weld a phrofi pethau gartref
  • anogwch arferion astudio a chwarae da
  • helpwch nhw i feddwl am beryglon - iddyn nhw'u hunain ac i eraill
  • dysgwch nhw sut i ddelio gyda phwysau gan gyfoedion
  • dysgwch nhw sut i ddelio gydag anghydfod heb ddefnyddio trais

Disgyblaeth

  • gosodwch gyfyngiadau a therfynau
  • cadwch at eich rheolau ac osgoi gwahanol safonau - rhowch esiampl dda bob amser
  • dysgwch nhw fod gan y pethau a wnânt ganlyniadau, ac y dylent barchu eraill bob amser
  • peidiwch â gadael i blant ifanc aros allan yn hwyr neu dreulio llawer o amser ar y strydoedd
  • cyfyngwch faint o alcohol sydd ar gael iddynt, ac os byddwch chi'n gadael iddynt yfed, cadwch olwg ar faint y byddant yn ei gael

Cydweithiwch

Cofiwch y gall pobl eraill eich helpu. Mynnwch sgwrs gyda rhieni ffrindiau'ch plentyn. Os ydych chi'n poeni, mwy na thebyg eu bod hwythau'n poeni hefyd, a bydd yna adegau y byddan nhw'n gweld eich plentyn pan na fyddwch chi yno. Drwy gydweithio gallant eich helpu i gadw golwg am yr arwyddion. Ac efallai bod yna aelodau eraill o'r teulu a allai siarad â'ch plentyn am y peryglon?

Os yw'ch plentyn yn rhan o gang yn barod

Bydd angen i chi siarad â'ch plentyn ond gallai hon fod yn sgwrs anodd - efallai y bydd arnynt ofn neu na fyddant yn barod i siarad am y peth. Ond mae hi'n bwysig eu bod yn gwybod eich bod eisiau gwrando arnynt a'u cefnogi. Mae hi hefyd yn bwysig i chi ei gwneud yn eglur bod gan y plentyn ddewis hyd yn oed pan fyddan nhw'n credu nad oes dewis - does dim rhaid iddyn nhw ddilyn y dorf.

Gallwch fynd ati mewn modd mwy effeithiol:

  • os arhoswch yn ddigynnwrf a rhesymol, waeth pa mor boenus ydych chi
  • os gofynnwch gwestiynau, yn hytrach na chyhuddo neu wneud datganiadau byrbwyll
  • os gwrandewch yn ofalus ar beth sydd ganddynt i'w ddweud heb dorri ar eu traws
  • os gwnewch eich gorau i ddeall y sefyllfa o'u safbwynt hwy a pham maen nhw wedi ymuno â'r gang
  • os holwch nhw beth allwch chi ei wneud i helpu, yn hytrach na dweud wrthynt beth mae'n rhaid iddynt ei wneud
  • os esboniwch y peryglon a'r canlyniadau a ddaw o gario, neu'n waeth byth, defnyddio gwn neu gyllell (cofiwch fod nifer o bobl yn cael eu hanafu gan wn neu gyllell oherwydd y defnyddir eu harf eu hunain yn eu herbyn)
  • os ceisiwch ddod i gytundeb ar beth i'w wneud nesaf
  • os cydweithiwch â nhw i ddod o hyd i rywbeth i'w wneud yn lle bod yn rhan o'r gang

Yn olaf, mae 'na fudiadau cymunedol neu wasanaethau lleol i bobl ifanc a all eich helpu. Gallant gynnig mentora, cyfryngu a ffyrdd eraill o helpu'ch plentyn i adael y gang. Holwch ysgol eich plentyn am y swyddog heddlu ysgolion diogel penodedig neu'r swyddog cymorth cymunedol.

Allweddumynediad llywodraeth y DU