Ymwneud â gangiau - cadwch olwg am y rhain
Mae rhai arwyddion y gallwch gadw golwg amdanynt a allai awgrymu fod eich plentyn yn ymwneud â gang. Er bod y rhan fwyaf ohonynt yn ymddygiad arferol i rai yn eu harddegau, os oes nifer o'r arwyddion yn dod i'r amlwg ar yr un pryd, efallai y byddwch yn dymuno gwneud rhywbeth am y sefyllfa.
Ymddygiad
Dyma rai enghreifftiau o newid mewn ymddygiad y dylech gadw golwg amdanynt:
- a yw'ch plentyn wedi bod yn ymddangos yn bell braidd, neu fel pe bai ar wahân i'r teulu?
- a yw'r plentyn wedi colli diddordeb yn yr ysgol mwyaf sydyn, neu wedi rhoi'r gorau i fynd i'r ysgol?
- a yw eu gwaith ysgol wedi gwaethygu mwyaf sydyn - er enghraifft, ydyn nhw wedi cael graddau gwaeth neu adroddiadau gwael?
- a yw'r ysgol neu'r coleg wedi rhoi gwybod i chi am newidiadau yn eu hymddygiad sy'n peri pryder?
- a yw'ch plentyn wedi rhoi'r gorau i fynd i glybiau ar ôl ysgol?
- ydyn nhw wedi dechrau defnyddio geiriau slang newydd?
- oes ganddyn nhw arian neu eiddo, mwyaf sydyn, ac nad oes eglurhad i hynny?
- ydyn nhw wedi dechrau aros allan yn hwyr heb roi rheswm, neu'n bod yn annelwig ynghylch pwy sydd allan gyda nhw?
- oes ganddyn nhw lysenw newydd?
- oes yna berson newydd yn eu bywyd sydd, i bob golwg, yn eu harwain neu'n dylanwadu arnynt?
- ydyn nhw wedi colli cysylltiad â'u hen ffrindiau, ac yn ymwneud ag un criw'n unig drwy'r amser?
- oes ganddyn nhw farn ymosodol neu fygythiol am bobl ifanc eraill