Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Pobl ifanc yn eu harddegau a pherthnasoedd camdriniol

Os ydych chi’n pryderu bod eich plentyn yn ei arddegau mewn perthynas gamdriniol, mae help ar gael i chi. Gallwch gael gwybod sut i sylwi ar y rhybuddion, a gweld beth yw’r ffordd orau o siarad â’ch plentyn am berthnasoedd camdriniol.

Cam-drin mewn perthnasoedd pobl ifanc yn eu harddegau

Mae cam-drin yn syndod o gyffredin ym mherthnasoedd pobl ifanc yn eu harddegau. Mewn astudiaeth ddiweddar gan yr NSPCC, dywedodd un o bob tair merch a gyfwelwyd eu bod wedi dioddef ymosodiad rhywiol gan gariad.

Yn yr un arolwg, dywedodd 25 y cant o ferched a 18 y cant o fechgyn fod partner wedi eu taro neu wedi ymosod arnynt yn gorfforol.

Y mathau o gam-drin y bydd pobl ifanc yn eu harddegau’n delio â hwy’n aml

Gall cam-drin fod ar unrhyw un o’r ffurfiau canlynol:

Cam-drin emosiynol

Cam-drin emosiynol yw’r math mwyaf cyffredin o gam-drin ym mherthnasoedd pobl ifanc yn eu harddegau. Mae cam-drin emosiynol yn cynnwys pethau fel sarhau, gwawdio neu fychanu rhywun o flaen ei ffrindiau.

Cam-drin llafar

Bydd cam-drin llafar (gweiddi, sarhau a bygwth) hefyd yn digwydd yn aml ym mherthnasoedd pobl ifanc yn eu harddegau. Mewn arolwg diweddar, dywedodd 75 y cant o ferched a gyfwelwyd eu bod wedi dioddef cam-drin llafar gan eu cariad.

Ymddygiad rheolaethol

Mae ymddygiad rheolaethol yn cynnwys monitro galwadau ffôn rhywun arall neu reoli beth y byddant yn ei wisgo. Bydd hyn yn digwydd yn eithaf aml ym mherthnasoedd pobl ifanc yn eu harddegau, a gall beri niwed dros amser.

Cam-drin corfforol

Gall cam-drin corfforol fod ar sawl ffurf gan gynnwys bwrw, dyrnu, gwthio, cnoi, cicio neu ddefnyddio arfau.

Ymosodiad rhywiol neu drais

Gall cam-drin corfforol hefyd gynnwys ymosodiad rhywiol neu drais. Gall ymosodiad rhywiol gynnwys gorfodi rhywun neu roi pwysau ar rywun i gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol, gan gynnwys:

  • cyffwrdd yn erbyn eu hewyllys
  • 'sexting’ (sef anfon lluniau rhywiol mewn negeseuon testun)
  • gorfodi rhywun i wylio neu fod yn rhan o bornograffi
  • bwlio rhywiol

Trais yw pan fydd rhywun yn gorfodi neu roi pwysau ar berson arall i gael rhyw yn erbyn eu hewyllys.

Y rhybuddion o gam-drin

Cadwch lygad am y rhybuddion o broblemau ym mherthnasoedd eich plentyn yn ei arddegau.

Os byddant yn rhoi’r gorau i ymwneud â’u ffrindiau, gallai hynny fod yn arwydd cynnar o berthynas gamdriniol. Weithiau, bydd pobl ifanc yn eu harddegau’n mynd yn rhy genfigennus ac yn ceisio rheoli eu cariadon drwy beidio â gadael iddynt weld eu ffrindiau agos.

Gallai rhybuddion eraill bod eich plentyn yn ei arddegau mewn perthynas gamdriniol gynnwys y canlynol:

  • bod mewn trwbl yn yr ysgol – peidio â mynd i ddosbarthiadau, graddau’n gostwng
  • gwisgo’r un dillad ddydd ar ôl dydd
  • ymddwyn yn isel, neu’n dawelach nag arfer
  • gwylltio os gofynnwch chi sut maen nhw
  • ceisio cuddio crafiadau neu gleisiau
  • gwneud esgusodion dros eu cariad

Beth allwch chi ei wneud i helpu eich plentyn yn ei arddegau

Weithiau, y ffordd orau o gael gwybod am berthynas eich plentyn yn ei arddegau yw drwy siarad amdani. Hyd yn oed os nad ydych chi wedi gweld unrhyw arwyddion o gam-drin, mae’n syniad da cael sgwrs gyda hwy. Gallwch gael gwybod beth sy’n gwneud perthynas iach yn eu barn nhw, a gweld beth maen nhw’n ei ddysgu gan eu ffrindiau.

Ceir rhagor o gymorth a chyngor drwy ddilyn y dolenni isod.

Os ydych chi’n meddwl bod eich plentyn yn ei arddegau’n dioddef cam-drin

Os yw eich plentyn yn ei arddegau’n dioddef cam-drin, efallai y bydd yn ei chael yn anodd siarad â chi am y peth. Efallai y bydd yn teimlo cywilydd o’r hyn sydd wedi digwydd iddynt neu efallai y bydd arno/arni ofn y partner.

Mae’n bwysig dewis y foment gywir i siarad â’r plentyn. Gallech ddechrau drwy ddweud eich bod wedi gweld rhywbeth ar y newyddion am gam-drin ym mherthnasoedd pobl ifanc yn eu harddegau. Gofynnwch i’ch plentyn sut mae ei berthynas/ei pherthynas yn mynd. Gofalwch fod eich plentyn yn gwybod na ddylent dderbyn ymddygiad rheolaethol na chamdriniol.

Dywedwch wrtho/wrthi nad ef/hi sydd ar fai os yw rhywun yn ceisio gwneud iddo/iddi wneud pethau nad oes arno/arni eisiau eu gwneud.

Os ydych chi’n meddwl bod eich plentyn yn ei arddegau’n cam-drin rhywun

Os ydych chi’n meddwl bod eich plentyn yn ei arddegau’n brifo ei bartner, mae’n bwysig siarad gydag ef/hi am y peth. Ceisiwch ei helpu i ddeall canlyniadau ymddygiad camdriniol, treisgar a rheolaethol.

Gallech egluro y bydd cam-drin yn ei droi/ei throi’n rhywun na hoffai fod. Gall cam-drin fod yn arferiad, a gall arwain at fwy o drais a throseddu.

Gall pobl ifanc yn eu harddegau sy’n cam-drin wadu’r peth, felly mae’n bosibl na fyddant yn ystyried eu bod yn cam-drin. Siaradwch â’r plentyn am y poen y mae’n ei achosi i’w bartner – yn aml, caiff pobl ifanc yn eu harddegau eu synnu gan y poen a’r niwed y gall eu hymddygiad ei achosi.

Ble i gael cymorth

Mae yna lawer o sefydliadau a all eich helpu chi neu helpu eich plentyn yn ei arddegau. Mae’r rhain yn cynnwys:

Parentline Plus

Mae Parentline Plus yn cefnogi a chynghori rhieni sy’n delio â materion cymhleth sy’n effeithio ar eu plant. Ffoniwch eu llinell gymorth ar 0808 800 2222.

Cymorth i Ddioddefwyr

Mae Cymorth i Ddioddefwyr yn cynnig help i ddioddefwyr cam-drin a thrais. I gael help, ffoniwch 0845 303 0900.

Refuge

Mae Refuge yn rhoi cymorth i ddioddefwyr trais mewn perthynas. Os yw eich plentyn yn ei arddegau’n cael ei ddilyn neu ei gam-drin yn rhywiol, ffoniwch eu llinell gymorth ar 0808 2000 247.

Respect

Mae Respect yn cynnig cymorth i bobl sy’n cam-drin, a llinell gyngor i ddynion a bechgyn sy’n dioddef trais domestig. Ffoniwch eu llinell gymorth: 0845 122 8609 neu 0808 801 0327

Broken Rainbow

Mae Broken Rainbow yn cynnig cefnogaeth a chymorth i bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsryweddol sy’n profi trais domestig. Ffoniwch eu llinell gymorth: 0300 999 5428.

Rape Crisis

Mae Canolfannau Rape Crisis yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau i fenywod a merched sydd wedi cael eu treisio neu wedi profi unrhyw fath o drais rhywiol. Ffoniwch eu llinell gymorth: 0808 802 9999.

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU