Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae plant a phobl ifanc yn wynebu pob math o bryderon, ac efallai bod eich plentyn yn teimlo eu bod yn cael eu gwthio i ddilyn ffrindiau sydd mewn gang.
Gallwch chi helpu'ch plentyn i wneud y penderfyniad cywir. Drwy adnabod yr arwyddion a cheisio cymorth, gallech gymryd cam cadarnhaol tuag at newid cwrs bywyd eich plentyn.
Cyn i chi drafod gangiau gyda'ch plentyn, bydd angen i chi sicrhau eich bod yn gwybod rhywfaint am y pwnc. Mae'n bwysig deall pam bod pobl ifanc yn cael eu denu i gangiau yn y lle cyntaf, a bydd angen i chi wybod beth yw safbwynt y gyfraith ar y mater. Mae yna wahaniaeth mawr hefyd rhwng y ffantasi o fod mewn gang a'r sefyllfa mewn gwirionedd - gallai hyn ymddangos yn amlwg i chi ond ni fydd mor amlwg i'ch plentyn.
Cliciwch y ddolen isod i gael gwybod rhagor.
Mae nifer o arwyddion y dylech gadw golwg amdanynt a allai'ch rhybuddio bod eich plentyn yn ymwneud â gang. Gallai pethau fel newid y ffordd maen nhw'n edrych, geiriau slang newydd, ffrindiau newydd a hyd yn oed ffraeo gyda hen ffrindiau i gyd fod yn arwyddocaol. Cewch wybod rhagor am yr arwyddion hyn drwy glicio ar y ddolen isod.
Mae nifer o bethau y gallwch eu gwneud er mwyn helpu i atal eich plentyn rhag dod yn rhan o gang. Y peth pwysicaf yw eich bod yn siarad â'ch plentyn a bod yn agored â nhw, a chwarae cymaint o ran yn eu bywyd ag sy'n bosib. Os ydych chi'n credu bod eich plentyn eisoes mewn gang, efallai na fydd hi mor hawdd eu cael i siarad am y peth, ond mae ffyrdd o ddechrau'r drafodaeth.
Mae’r wybodaeth ar y tudalennau uchod hefyd ar gael ar fformat PDF. I lwytho’r daflen oddi ar y we, cliciwch ar y ddolen isod.