Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Seiberfwlio: siarad â’ch plentyn am gadw’n ddiogel ar gyfrifiaduron a ffonau symudol

Y dyddiau hyn, nid ar y cae chwarae'n unig y mae bwlio'n digwydd. Mae seiberfwlio – neu fwlio gan ddefnyddio technolegau digidol megis ffonau symudol a chyfrifiaduron – yn fygythiad gwahanol i’ch plentyn. Gall fod yn fwy anodd ei ganfod ac yn fwy anodd i reoli na bwlio ‘traddodiadol’. Bydd deall y peryglon o gymorth i chi gefnogi’ch plentyn.

Beth sy'n wahanol am seiberfwlio?

Yn yr un modd â dulliau eraill o fwlio, fel rheol mae’r bwli yn bwriadu achosi niwed ac yn parhau i weithredu dros gyfnod. Mae seiberfwlio yn wahanol i ddulliau eraill o fwlio oherwydd:

  • gall ddigwydd unrhyw adeg o’r dydd, yn unrhyw le – gall y dioddefwr hyd yn oed gael negeseuon neu ddeunyddiau sy’n ei fwlio pan fydd gartref
  • gall cynulleidfa’r bwlio fod yn un fawr a gellir ei chyrraedd yn gyflym ac yn hawdd os caiff negeseuon eu pasio neu os cyhoeddir pethau ar-lein
  • gall fod yn anfwriadol – oherwydd nad ydynt yn wyneb yn wyneb, mae’n bosib nad yw pobl yn meddwl am y canlyniadau wrth anfon negeseuon neu ddelweddau

Ffyrdd o seiberfwlio

Dyma rai o’r ffyrdd y gall seiberfwlio ddigwydd:

  • ystafelloedd sgwrsio, blogiau a fforymau – er bod rhai o'r rhain yn cael eu safoni, gellir anfon atebion difrïol at bobl sy'n rhan o drafodaethau
  • negeseuon testun – gellir anfon negeseuon testun difrïol a bygythiol i ffonau symudol
  • galwadau ffôn difrïol neu ffug – gall y rhain gael eu gwneud i ffôn symudol eich plentyn
  • negeseuon lluniau a fideo – gellir anfon delweddau sarhaus i ffonau symudol
  • e-bost – gellir sefydlu cyfeiriadau newydd mewn mater o funudau, a'u defnyddio i anfon negeseuon a delweddau sarhaus
  • gwefannau personol a gwefannau rhwydweithio cymdeithasol (megis Facebook a MySpace) - gall negeseuon a delweddau sarhaus neu fychanus gael eu cyhoeddi ar y gwefannau hyn
  • dwyn manylion personol – mewn sawl amgylchedd ar-lein gall proffiliau ffug gael eu creu wrth i rywun esgus bod yn rhywun arall gyda’r bwriad o fwlio eraill
  • gwasanaethau negeseua gwib – mae’r rhain yn gynt na negeseuon e-bost, ac maent yn galluogi defnyddwyr i gael sgyrsiau ‘amser real’, a gall negeseuon neu gynnwys sarhaus gael eu hanfon drwyddynt
  • gwe-gamerâu – defnyddir y rhain gan amlaf i alluogi pobl i weld ei gilydd wrth sgwrsio ar-lein, ond gellir anfon delweddau difrïol at blant, neu eu hannog i ymddwyn mewn ffordd amhriodol tra cânt eu ffilmio
  • Amgylcheddau Dysgu Rhithiol – meddalwedd ar-lein a ddefnyddir gan ysgolion er mwyn galluogi staff a disgyblion i ryngweithio â'i gilydd. Gall bwlis ddefnyddio'r amryw ffyrdd o gyfathrebu i anfon delweddau a negeseuon sarhaus
  • safleoedd sy’n dangos clipiau fideo (megis YouTube) – mae'n bosibl i blant weld delweddau pornograffig yn ddamweiniol, neu hyd yn oed ganfod mai nhw sydd yn y ffilmiau a ddangosir
  • gwefannau gemau, consolau gemau a bydoedd rhithiol – mae’n bosib sgwrsio o fewn sawl gêm, a gall pobl alw enwau, wneud sylwadau sarhaus a phigo ar chwaraewyr eraill

Lleihau’r peryglon o seiberfwlio

Yn yr un modd â mathau eraill o fwlio, mae’n bwysig eich bod yn gwrando ar eich plentyn ac yn cydymdeimlo ag ef. Dylai eich plentyn wybod bod bwlio bob tro'n anghywir ac mai chwilio am gymorth yw'r peth iawn i'w wneud.

Mae’n bwysig ei fod yn dysgu i barchu a gofalu am ei ffrindiau ar-lein fel y byddant yn ei wneud wyneb yn wyneb. Ceisiwch eu harwain drwy drafod yn sensitif y materion yn ymwneud â ffrindiau ar-lein. Dylech negodi a sefydlu terfynau.

Hefyd dylech sicrhau eich bod yn gwneud y canlynol:

  • byddwch yn ymwybodol bod sawl ffordd y gall plant fynd ar-lein, megis ar ffôn symudol neu gonsol gemau
  • annog eich plant i siarad gyda chi neu oedolyn arall ynglŷn ag unrhyw beth sy’n eu poeni
  • cadw llygad rhag ofn y byddant yn edrych yn ofidus ar ôl iddynt ddefnyddio cyfrifiadur neu eu ffôn symudol
  • ceisio deall y ffyrdd mae’n defnyddio’u technolegau digidol
  • gofyn iddynt ystyried sut mae eu gweithredoedd yn cael effaith ar ddefnyddwyr eraill
  • awgrymu eu bod nhw’n osgoi ystafelloedd sgwrsio preifat
  • eu hannog i gadw tystiolaeth o unrhyw negeseuon mae wedi'u cael sy'n ddifrïol neu'n sarhaus, ac i’w dangos i chi neu oedolyn arall y maen nhw’n ymddiried ynddo
  • eu helpu i roi gwybod i’w ysgol, i'r darparwr gwasanaeth rhyngrwyd, i reolwr/safonwr y wefan, i'r cwmni ffonau symudol neu i’r heddlu am unrhyw gam-drin
  • dweud wrthynt am beidio ag ymateb i negeseuon neu alwadau ffôn difrïol - dyma fydd dymuniad y bwli bob tro
  • trafod cadw eu cyfrineiriau’n ddiogel ac osgoi rhoi gwybodaeth bersonol, megis eu henw neu rif eu ffôn symudol i bobl nad ydynt yn eu hadnabod wyneb yn wyneb
  • newid eu cyfeiriad e-bost neu eu rhif ffôn os yw'r bwlio'n parhau
  • defnyddio nodweddion parod diogelwch ar y rhyngrwyd a gosod meddalwedd ar eich cyfrifiadur sy'n sicrhau mai'r unig negeseuon e-bost a dderbyniwch yw rhai gan bobl a ddewiswyd gennych, ac i rwystro unrhyw ddelweddau nad oes arnoch eu heisiau
  • rhoi gwybod iddynt am leoedd y gallant fynd i gael cymorth a chyngor megis CyberMentors, ChildLine a Childnet International


Cysylltiadau defnyddiol

Additional links

Clic Clyfar, Clic Diogel

Cael cymorth a chyngor ar ystod o faterion diogelwch y rhyngrwyd gan y Siop-Un-Stop UKCCIS

Allweddumynediad llywodraeth y DU