Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Er bod llawer o wybodaeth ar gael am sut mae defnyddio’r rhyngrwyd yn ddiogel, gall yr iaith fod yn ddryslyd os nad ydych yn gyfarwydd â hi. Bydd yr arweiniad hwn yn eich helpu i ddeall y termau sylfaenol a ddefnyddir wrth gyfathrebu ar-lein, peryglon posibl, twyll a sgamiau, a firysau.
Mae’r rhyngrwyd yn galluogi defnyddwyr i sgwrsio â'u ffrindiau a'u teulu mewn ‘rhith-gymunedau’ rhyngweithiol. Mae’r cymunedau hyn yn dod yn fwyfwy poblogaidd ymysg plant gan eu bod yn eu galluogi i gyfathrebu mewn ‘amser gwirioneddol’.
Mae ‘amser gwirioneddol’ yn golygu bod eu sylwadau yn ymddangos yn syth, er enghraifft mewn sgwrs ar-lein neu drwy wasanaethau negeseua. Ond, nid yw pob rhith-gymuned yn cael ei safoni na’i goruchwylio. Dyma enghreifftiau o safleoedd y mae'n bosibl y bydd eich plentyn yn eu defnyddio i sgwrsio ag eraill ar-lein:
Mae troseddwyr yn esgus bod yn blant er mwyn dechrau sgyrsiau ar-lein
Gall y rhyngrwyd fod yn ddifyr ac yn ddefnyddiol, ond mae angen i chi a'ch plentyn wybod am y peryglon hefyd. Mae gwneud yn siŵr bod eich plentyn yn gwybod am y peryglon ar-lein yr un mor bwysig â dysgu iddo sut mae croesi'r ffordd yn ddiogel.
Hudo (Grooming)
Yn anffodus, mae rhai oedolion sydd â diddordeb rhywiol mewn plant yn defnyddio’r rhyngrwyd i gyfathrebu â nhw. Ystyr hudo ar-lein yw pan fydd rhywun yr amheuir ei fod yn bedoffeil yn ymddwyn mewn modd sy’n awgrymu ei fod yn ceisio cysylltu â phlant at ddibenion anghyfreithlon.
Dylech siarad â’ch plant ynghylch gyda phwy y maent yn siarad ar-lein. Ceisiwch arwain eu hymddygiad ar-lein drwy negodi a sefydlu terfynau. Trafodwch y mater o ffrindiau ar-lein yn sensitif. Os nad ydynt wedi cwrdd â rhywun wyneb yn wyneb, gall fod yn unrhyw un.
Gall fod yn bosibl i chi ddefnyddio mesurau sy’n rhoi rheolaeth i rieni i atal mynediad at rai gwasanaethau ar-lein yn gyfan gwbl.
Weithiau, bydd troseddwyr yn esgus bod yn blant er mwyn dechrau sgyrsiau ar-lein gyda phlant. Efallai y byddant wedyn yn ceisio parhau â’r berthynas drwy sgyrsiau personol ar ffonau symudol (weithiau, gelwir hyn yn ‘whispering’ yn Saesneg). Gall hyn fod yn argyhoeddiadol iawn a gall plant gredu eu bod nhw’n adnabod rhywun fel canlyniad o’r cyswllt agos hwn.
Ar ôl ennyn ymddiriedaeth y plentyn, efallai y bydd y troseddwr yn ceisio trefnu cyfarfod gyda'r plentyn. Gall hyn gymryd wythnosau, misoedd neu flynyddoedd hyn yn oed.
Fel rhan o'r broses hon, efallai y bydd y troseddwr hefyd yn ceisio camfanteisio ar y plentyn drwy anfon lluniau anweddus neu bornograffig ato. Efallai y bydd yn gwneud hyn dros e-bost, neu weithiau drwy ddefnyddio gwe-gamera (camera sydd wedi’i gysylltu â’r cyfrifiadur sy’n gallu cynhyrchu lluniau llonydd a recordio fideos).
Efallai y bydd y troseddwr hyd yn oed yn defnyddio blacmel er mwyn perswadio'r plentyn i wneud rhywbeth yn groes i'w ddymuniad. Mae'n hanfodol bod eich plentyn yn gwybod nad yw pawb ar y rhyngrwyd yn dweud y gwir am bwy ydyn nhw. Mae hefyd yn bwysig eich bod chi a’ch plentyn yn rhoi gwybod am unrhyw beth amheus.
Seiber-fwlio a seiber-stelcio
Ystyr seiber-fwlio yw bwlio ar-lein, megis drwy ddefnyddio cyfrifiaduron a ffonau symudol. Os bydd rhywun yn stelcio rhywun arall dros y rhyngrwyd, gelwir hyn yn seiber-stelcio.
Gallwch chi a’ch plentyn roi gwybod am unrhyw ymddygiad amheus, bygythiol neu sarhaus i’r Ganolfan Camfanteisio ar Blant a’u Hamddiffyn Ar-lein (CEOP).
Gallech chi a’ch plentyn ddod ar draws amryw o beryglon posibl wrth ddefnyddio'r rhyngrwyd. Niwsans yw rhai ohonynt, ond gall eraill gael effaith fwy difrifol:
Mae'n amhosibl amddiffyn rhywun yn llwyr wrth ddefnyddio’r rhyngrwyd. Fodd bynnag, gallwch gymryd camau syml i leihau’r peryglon.
Dylech bob amser osod y system rheolaeth rhieni ar y cyfrifiadur neu’r ffôn symudol. Gall mynediad at y rhyngrwyd fod drwy gyfrifiadur, ffôn symudol neu gonsol gemau. Mae’n hawdd gosod y systemau hyn, a gallwch ddarllen y llawlyfr defnyddiwr ar gyfer y teclyn neu edrych ar wefan y gwneuthurwr i weld pa systemau rheoli y gallwch eu gosod. Bydd y systemau rheoli yn eich galluogi i atal negeseuon e-bost gan anfonwyr trafferthus, neu i atal mynediad i rai gwefannau.
Mae systemau rheolaeth rhieni lefel-dyfais yn golygu eich bod chi’n gosod gosodiadau ar gyfer pob defnyddiwr unigol. Golyga hyn eich bod chi’n gallu cyfyngu mynediad at wasanaethau ar-lein penodol, neu rwydweithiau ar gyfer pob defnyddiwr unigol.