Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae'r rhyngrwyd yn rhoi mynediad at amrywiaeth eang o gerddoriaeth, fideos, meddalwedd a dogfennau i'w llwytho i lawr - ond mae risgiau ynghlwm, ac mae angen i rieni a phlant fod yn ymwybodol ohonynt.
Er y ceir nifer o wefannau lle gallwch lwytho'r ffeiliau hyn oddi ar y we yn gyfreithlon drwy dalu ffi, mae nifer o ddefnyddwyr y rhyngrwyd yn parhau i dorri'r gyfraith drwy lwytho ffeiliau a warchodir gan hawlfraint oddi ar y we am ddim. Nid oes angen i chi dalu i lwytho pob deunydd a warchodir gan hawlfraint oddi ar y we o reidrwydd, a cheir nifer o wefannau sy'n cynnig ffeiliau am ddim. Dylech ymchwilio i unrhyw safle llwytho oddi ar y we y mae eich plentyn yn bwriadu ei ddefnyddio, er mwyn sicrhau ei fod yn gyfreithlon.
Mae'r gwahanol ddiwydiannau yr effeithir arnynt gan lwytho oddi ar y we yn anghyfreithlon bellach yn monitro'r rhyngrwyd, a gallant gymryd camau cyfreithiol o ddirwyon i siwio (y rhieni fel arfer, oherwydd ystyrir mai hwy sy'n gyfrifol am yr hyn a wna eu plentyn).
Mae'r wefan Pro Music yn rhestru cannoedd o safleoedd llwytho oddi ar y we sy'n ddiogel ac yn gyfreithlon:
Rhannu ffeiliau defnyddiwr-i-ddefnyddiwr yw pan rennir data a lwythwyd i/o'r we am ddim gydag unigolion eraill dros y rhyngrwyd. Gan fod miliynau o bobl yn defnyddio'r rhyngrwyd, mae rhannu ffeiliau'n creu llyfrgell enfawr o ffeiliau a fydd ar gael i unrhyw un sydd ar-lein.
Mae rhannu ffeiliau sy'n cynnwys deunydd a warchodir gan hawlfraint yr un mor ddifrifol â'u llwytho'n anghyfreithlon oddi ar y we, gan eich bod yn helpu i ddosbarthu data a lwythwyd oddi ar y we yn anghyfreithlon.
Er mwyn defnyddio gwefannau rhannu ffeiliau, fel arfer, bydd rhaid i chi lwytho meddalwedd arbennig oddi ar y we. Bydd hyn yn aml yn gadael eicon ar fwrdd gwaith eich cyfrifiadur. Os ydych chi'n meddwl y gallai eich plentyn fod yn llwytho ffeiliau oddi ar y we yn anghyfreithlon neu heb eich caniatâd, edrychwch ar y bwrdd gwaith i weld a oes unrhyw eiconau nad ydych yn eu hadnabod.
Ar wahân i dorri hawlfraint, sy'n lladrad yng ngolwg y gyfraith, mae peryglon eraill yn cynnwys:
Fel rhiant, gallwch wneud y canlynol:
Gellir cael mwy o wybodaeth a chyngor i rieni yn y ddogfen yn y ddolen isod, sydd ar gael mewn naw iaith.