Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Gallwch sicrhau bod eich plentyn yn ddiogel ar-lein drwy ddefnyddio mesurau technegol sy’n rhoi rheolaeth i rieni a chreu eich rheolau eich hun. Dylai rheolau gynnwys pethau megis pa wefannau y caiff eich plentyn ymweld â hwy a faint o amser y caiff dreulio ar-lein. Dylech hefyd bwysleisio pwysigrwydd cadw manylion personol yn ddiogel.
Mae gan gyfrifiaduron a thechnolegau digidol eraill megis consolau gemau a ffonau symudol fesurau sy’n rhoi rheolaeth i rieni. Mae’r rhain yn eich galluogi i wneud pethau fel y canlynol:
Cyn i chi osod rheolau, gallwch edrych yn llawlyfr defnyddiwr y cyfarpar neu ar wefannau'r gwneuthurwyr er mwyn gweld pa reolaeth allwch chi ei gael. Gallwch chi hefyd gysylltu â’ch darparwr gwasanaethau rhyngrwyd neu â chwmni eich ffon symudol i gael gwybod am unrhyw fesurau diogelwch plant y maent yn eu cynnig.
Wrth wneud cyfres o reolau ar gyfer defnyddio’r rhyngrwyd, mae’n syniad da i chi ei wneud yng nghwmni eich plentyn. Bydd bod yn rhan o'r broses yn ei helpu i ddeall y peryglon ac yn rhoi ymdeimlad o gyfrifoldeb iddo. Bydd hefyd yn rhoi gwybod iddo am ba fath o wefannau sy’n addas ar ei gyfer yn eich barn chi.
Y ffordd orau o gadw eich plentyn yn ddiogel ar-lein yw mynd ar y rhyngrwyd eich hun a dysgu sut mae’n ei defnyddio. Bydd hyn yn eich helpu i osod rheolau rhesymol.
Dyma rai enghreifftiau o ddefnydd defnyddiol:
Dylech sicrhau bod eich plentyn yn ymwybodol o beiriannau chwilio sy’n garedig at blant. Mae’r rhain yn ffiltro gwefannau amhriodol fel y gall plant chwilio’r rhyngrwyd yn ddiogel. Gall eich plentyn hefyd ddefnyddio peiriannau chwilio traddodiadol sydd â gosodiad chwilio diogel arnynt.
Dylai eich plentyn ddeall na ddylai fyth fod ag ofn dweud wrthych am negeseuon e-bost sy’n peri ofn neu sy’n bwlio, neu am negeseuon lle mae’r cynnwys yn annerbyniol. Nid bai eich plentyn ydyw ei fod wedi eu cael, a gallwch ychwanegu’r cyfeiriadau at restr ffiltro’r cyfyngiadau rhieni.
Mae’n bwysig bod eich plentyn yn deall y gallai rhai pobl ar-lein fod yn dweud celwydd ynghylch pwy ydynt, ac y gallent fod yn beryglus. Dylai hefyd fod yn ymwybodol y gall unrhyw wybodaeth bersonol y mae'n ei rhoi gael ei defnyddio mewn sgamiau ariannol neu ar gyfer bwlio.
Er mwyn cadw eich plentyn yn ddiogel, dylech ddweud wrtho am beidio â gwneud y canlynol:
Gallwch fonitro defnydd eich plentyn o’r rhyngrwyd drwy edrych ar ffolder hanes eich porwr. Bydd yn cynnwys rhestr o wefannau yr ymwelwyd â hwy.
Gobeithio y bydd y rheolau y byddwch yn eu gosod yn golygu y bydd eich plentyn yn gallu defnyddio’r rhyngrwyd yn ddiogel bob amser. Fodd bynnag, dylech hefyd wneud y pethau canlynol:
Os ydych chi’n bryderus ynghylch deunyddiau anghyfreithlon neu ymddygiad amheus ar-lein, cysylltwch â’r ganolfan Camfanteisio ar Blant a’u Hamddiffyn Ar-lein (CEOP).