Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Safleoedd rhwydweithio cymdeithasol

Safleoedd rhwydweithio cymdeithasol yw rhai o’r safleoedd mwyaf poblogaidd ar y rhyngrwyd, yn enwedig ymhlith plant a phobl ifanc. Yma cewch wybod beth yw’r peryglon posibl a sut mae delio â nhw er mwyn sicrhau y gall eich plentyn fwynhau defnyddio'r safleoedd hyn yn ddiogel.

Beth yw safleoedd rhwydweithio cymdeithasol?

‘Cymunedau’ ar-lein yw safleoedd rhwydweithio cymdeithasol (fel Facebook, MySpace neu Bebo) sy’n cynnwys defnyddwyr â diddordebau tebyg. Mae aelodau’r gymuned yn creu ‘proffil’ ar-lein sy’n rhannu lefelau amrywiol o wybodaeth bersonol â defnyddwyr eraill.

Ar ôl i ddefnyddwyr ymuno â’r rhwydwaith, gallant gyfathrebu â'i gilydd a rhannu pethau fel cerddoriaeth, lluniau a ffilmiau. Mae’r safleoedd yn ffordd ddifyr i’ch plentyn gadw cysylltiad â’i ffrindiau, ei deulu a’i gyfoedion.

Beth yw'r peryglon?

Mae safleoedd rhwydweithio cymdeithasol yn cael eu hystyried yn ‘cŵl’ iawn ymhlith plant, ac efallai y bydd eu ffrindiau'n rhoi pwysau arnynt i ymuno. Ni fyddwch yn dod ar draws unrhyw beryglon ar y safleoedd hyn sydd ddim yn bodoli’n barod ar-lein. Yr hyn sy’n beryglus yw bod y perygl yn codi mewn amgylchedd newydd ar-lein nad ydych chi neu’ch plentyn yn gyfarwydd ag ef.

Fel sy’n wir am y rhan fwyaf o beryglon posibl ar-lein, os nad yw eich plentyn yn gofalu am ei wybodaeth bersonol yn briodol, gall hynny arwain at broblemau. Dyma’r peryglon y mae angen i chi fod yn ymwybodol ohonynt:

  • seiberfwlio (bwlio drwy ddefnyddiol technoleg ddigidol)
  • ymyrryd ar breifatrwydd
  • dwyn manylion personol
  • eich plentyn yn gweld negeseuon a lluniau sarhaus
  • dieithriaid sydd efallai’n ceisio ‘hudo’ aelodau eraill

Cofrestru a dewis gosodiadau diogel

Os yw’ch plentyn yn bwriadu ymuno â safle rhwydweithio cymdeithasol, gallwch wneud rhai pethau i’w wneud yn fwy diogel cyn iddo hyd yn oed dechrau defnyddio’r safle.

Gosodiadau Preifatrwydd

Pan fydd eich plentyn yn creu ei gyfrif, gwnewch yn siŵr ei fod yn dewis y gosodiad preifatrwydd uchaf sydd ar gael. Bydd hyn yn sicrhau mai dim ond pobl y mae’ch plentyn yn dymuno rhannu ei wybodaeth bersonol â nhw fydd yn gallu gweld yr wybodaeth honno. Fodd bynnag, cofiwch fod rhai safleoedd yn gwbl agored i’r cyhoedd.

Adnoddau diogelwch

Dysgwch am yr adnoddau diogelwch sydd ar gael i’ch plentyn ar y gwasanaeth y mae’n ei ddefnyddio, a gwneud yn siŵr bod eich plentyn yn ymwybodol ohonynt hefyd. Gall hyn gynnwys adnodd rhwystro i wneud yn siŵr na fydd eich plentyn yn cael negeseuon gan bobl nad yw'n dymuno cysylltu â nhw, neu'r opsiwn i gymeradwyo sylwadau sydd wedi'u postio ar ei broffil cyn i bawb allu eu gweld.

Enw proffil/sgrin

Er y gall eich plentyn gyfyngu pwy all weld ei broffil, ni ddylai ei enw proffil/sgrin gynnwys ei enw go iawn.

Bod yn ddiogel wrth ddefnyddio safleoedd rhwydweithio cymdeithasol

Bydd y canllawiau canlynol yn gymorth i wneud yn siŵr bod eich plentyn yn ddiogel pan fydd yn aelod o safleoedd rhwydweithio cymdeithasol:

  • gwnewch yn siŵr nad yw’n cyhoeddi gwybodaeth bersonol, fel ei leoliad, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn na'i ddyddiad geni
  • gwnewch yn siŵr bod eich plentyn yn ofalus iawn o ran pa luniau a negeseuon y mae’n eu rhannu, hyd yn oed ymysg ffrindiau y mae’n ymddiried ynddynt – ar ôl eu rhoi ar-lein, gellir eu rhannu’n eang, ac mae’n anodd iawn eu dileu
  • anogwch eich plentyn i ddweud wrthych chi os bydd yn gweld rhywbeth sarhaus neu annymunol
  • cadwch gofnod o unrhyw beth annifyr neu sarhaus y mae wedi’i gael, a rhoi gwybod i reolwr y safle am unrhyw drafferthion (mae gan y rhan fwyaf o safleoedd drefn syml ar gyfer hyn, ac fel arfer gallwch weld y drefn drwy glicio ar ddolen ar y dudalen)
  • gwnewch yn siŵr ei fod yn ymwybodol bod cyhoeddi neu rannu unrhyw beth a fyddai’n golygu torri cytundeb hawlfraint yn anghyfreithlon
  • os bydd eich plentyn yn dod yn ffrind i rywun ar-lein ac am gwrdd â'r ffrind hwnnw, dylech fynd gydag ef i wneud yn siŵr bod y person yn dweud y gwir ynglŷn â phwy ydyw
  • dywedwch wrtho am fod yn ymwybodol o sgamiau ar-lein – os oes cynigion yn swnio’n rhy dda i fod yn wir, dyna ydyn nhw fel rheol
  • anogwch eich plentyn i beidio ymuno ag unrhyw drafodaethau ar-lein ynghylch rhyw, gan fod y rhain yn tueddu i ddenu defnyddwyr a all fod yn beryglus
  • os ydych chi'n amau bod rhywun yn ceisio hudo eich plentyn ar safle rhwydweithio cymdeithasol, neu fod rhywun yn ei stelcio neu'n ei harasio, dylech gysylltu â'r heddlu lleol neu'r Ganolfan Camfanteisio ar Blant a'u Hamddiffyn Ar-lein (CEOP)

Sut mae plant yn sgwrsio ar-lein

Mae hefyd yn ddefnyddiol dysgu sut mae eich plentyn yn cyfathrebu ar-lein. Yn aml, bydd plant yn byrhau geiriau neu acronymau – er enghraifft 'LOL' am 'laughing out loud'.

Mae’n rhywbeth cyffredin iawn i bobl wneud hyn wrth ddefnyddio byrddau negeseuon a safleoedd rhwydweithio cymdeithasol. Gallwch gael gwybod beth mae unrhyw un o'r acronymau hyn yn ei olygu drwy chwilio amdanynt ar-lein.

Cysylltiadau defnyddiol

Additional links

Clic Clyfar, Clic Diogel

Cael cymorth a chyngor ar ystod o faterion diogelwch y rhyngrwyd gan y Siop-Un-Stop UKCCIS

Allweddumynediad llywodraeth y DU