Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Yn yr un modd â rhai ffilmiau a rhaglenni teledu, nid yw pob gêm fideo yn addas i blant, ac mae rhai peryglon wrth eu chwarae ar-lein hefyd. Dysgwch sut caiff statws oedran ei roi i gemau a sut mae helpu i gadw eich plentyn yn ddiogel wrth iddo ymuno â'r gymuned gemau ar-lein.
Gall gemau fideo ar gyfrifiaduron a chonsolau gemau fod o fudd addysgol, a chorfforol weithiau, i'ch plentyn. Wrth i'r dechnoleg wella ac wrth iddynt ddod yn fwy poblogaidd, mae nifer o wahanol fathau o gemau ac arddulliau chwarae bellach ar gael.
Mae'r gystadleuaeth yn y farchnad a gofynion cynyddol y rheini sy'n eu chwarae wedi golygu bod gemau wedi datblygu mwy o fanylder a mwy o elfennau personol.
Er mwyn rhoi'r cyfle gorau i chi'ch hun i helpu eich plentyn i aros yn ddiogel, dysgwch am y gwahanol fathau o gemau mae plant yn chwarae ar-lein.
Mae nifer o gemau ar gyfer oedolion ac efallai eu bod yn cynnwys themâu, iaith a delweddau sy'n amhriodol i'ch plentyn. Mae'n bwysig eich bod yn gwneud yn siŵr bod y gemau maent yn eu chwarae yn addas iddynt.
Rhaid i bob gêm fideo a werthir yn y DU ddangos statws oed yn glir ar flaen ac ar gefn ei flwch. Caiff y statws oed ei ddewis drwy ddefnyddio’r system Gwybodaeth Gemau Pan-Ewropeaidd (PEGI). Mae dosbarthiadau a labeli PEGI yn orfodol ar gyfer cynhyrchion sy’n anaddas i blant dan 12 oed ac mae’n ofyniad i sicrhau bod cynhyrchion sydd â PEGI statws o 12, 16 neu 18 ond yn cael eu gwerthu i'r rheini sydd wedi cyrraedd yr oedran perthnasol.
Mae'n anghyfreithlon i adwerthwr werthu gêm fideo gyda statws oed PEGI o 12, 16 neu 18 oed i rywun o dan yr oedran hwnnw. Hefyd, pan fo'n briodol, gofynnir i gemau ddangos eiconau ar eu blychau i roi syniad o'r cynnwys. Mae'r eiconau hyn yn cynnwys cyffuriau, trais, iaith anweddus a themâu o natur rywiol.
Y Bwrdd Dosbarthu Ffilmiau Prydain (BBFC) oedd yn dewis statws oed gemau hyd at 20 Gorffennaf 2012, a defnyddid y system PEGI ar gyfer gemau a oedd wedi’u heithrio rhag dosbarthiad.
Wrth chwarae ar-lein, gall chwaraewyr gyfathrebu â'i gilydd drwy:
Er bod nifer o gymunedau ac amgylcheddau gemau'n cael eu safoni, efallai na chaiff rhywfaint o'r cyfathrebu ei fonitro. Gall hyn roi eich plentyn mewn perygl o seiberfwlio neu gyswllt gan bobl ddieithr a allai fod yn beryglus.
Gallwch ddefnyddio'r gosodiadau i rieni ar y cyfrifiadur neu'r consol i reoli'r hyn gall eich plentyn ei wneud. Gallai hyn rwystro eich plentyn rhag chwarae gemau penodol a allai gynnwys deunyddiau amhriodol neu eu rhwystro rhag chwarae ar-lein heb oruchwyliaeth.
Gallwch edrych yn llawlyfr defnyddiwr y cyfarpar neu ar wefan y gwneuthurwr er mwyn gweld pa reolaeth allwch chi ei gael.
Gallwch helpu i gadw eich plentyn yn ddiogel drwy ddilyn yr awgrymiadau hyn:
Yn yr un modd â phob amgylchedd ar-lein, os bydd eich plentyn gwneud ffrind ar-lein ac eisiau cwrdd â nhw, dylech chi bob amser fynd gyda nhw.