Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae'r Cynllun Pontio yn un ffordd o gynllunio ar gyfer yr hyn yr ydych yn dymuno'i gyflawni yn ystod blynyddoedd yr arddegau, wrth i chi dyfu'n oedolyn.
Dogfen yw'r Cynllun Pontio sy'n amlinellu beth rydych chi eisiau ei gyflawni dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, a pha gefnogaeth y bydd ei hangen arnoch er mwyn byw bywyd mor annibynnol â phosibl. Mae'n edrych ar bob agwedd o'ch bywyd, gan gynnwys addysg, cyflogaeth, tai, iechyd, trafnidiaeth a gweithgareddau hamdden.
Llunnir y rhan fwyaf o gynlluniau am y tro cyntaf ym Mlwyddyn 9. Cewch lythyr gan y brifathro/athrawes eich ysgol yn eich gwahodd chi a'ch rhieni neu'ch gofalwyr i fynd i gyfarfod adolygu, ac fel rhan o'r cyfarfod hwn, rhaid llunio Cynllun Pontio.
Fel arfer, cynhelir cyfarfod adolygu'r Cynllun Pontio yn eich ysgol, a dylai'r bobl a fydd yn eich cefnogi wrth i chi dyfu'n oedolyn fod yn bresennol hefyd. Gall y rhain gynnwys:
Holl bwrpas y Cynllun Pontio yw nodi beth yr ydych chi ei eisiau ar gyfer y dyfodol. Mae'ch cyfraniad chi i'r cyfarfod adolygu'n bwysig. Mae'n rhaid i bawb arall wrando ar yr hyn sydd gennych i'w ddweud a chadw cofnod o beth mae arnoch ei eisiau ar gyfer y dyfodol.
Oherwydd yr holir am eich cynlluniau ar gyfer y dyfodol, mae'n syniad da meddwl am yr hyn yr ydych yn dymuno'i ddweud cyn y cyfarfod. Dyma rai pethau i feddwl amdanynt:
Efallai yr hoffech gofnodi beth sydd arnoch ei eisiau ar gyfer y dyfodol, gan gynnwys cymaint o fanylion ag y dymunwch. Cofiwch fod penderfyniadau ynghylch pethau fel pa weithgareddau yr hoffech eu gwneud yn eich amser rhydd, a faint o annibyniaeth y mae arnoch ei eisiau wrth wneud penderfyniadau am eich bywyd cymdeithasol, yr un mor bwysig â phenderfyniadau am yr ysgol ac am waith.
Dylech ddefnyddio'r cyfarfod i gael gwybod pa wasanaethau a chefnogaeth y mae gennych hawl iddynt, a pha ddewisiadau sydd ar gael i chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau i'r bobl broffesiynol a fydd yn eich cyfarfod adolygu, gwnewch nodyn ohonynt fel nad ydych yn eu hanghofio.
Os nad ydych yn teimlo'n hyderus wrth feddwl am siarad yn y cyfarfod, neu os yw'ch anabledd yn ei gwneud yn anodd i chi drosglwyddo'ch barn, efallai y byddwch yn dymuno cael eiriolwr er mwyn ategu'ch barn yn y cyfarfod. Eirolwr yw rhywun sy’n siarad ar eich rhan.
Gallai'r person hwn fod yn ffrind neu'n rhiant, neu gallech gysylltu â'ch grŵp anabledd lleol, y Ganolfan Cyngor ar Bopeth, neu'r tîm gwasanaethau cymdeithasol yn eich cyngor lleol i gael manylion am eiriolwyr yn eich ardal chi.
Fel arfer, ar ôl y cyfarfod, anfonir copi o'r Cynllun Pontio atoch chi a'ch rhieni neu'ch gofalwyr. Rhaid i adran addysg eich awdurdod lleol hefyd roi copi i'ch pennaeth, i'r gwasanaethau cymdeithasol ac i unrhyw ofalwyr a phobl broffesiynol eraill sy'n berthnasol.
Mae adran addysg eich awdurdod lleol yn gyfrifol am wneud yn siŵr eich bod yn derbyn yr holl wasanaethau a phob cymorth a restrir fel sy'n briodol i chi yn eich Cynllun Pontio.
Dylech gael cyfarfod adolygu arall bob blwyddyn ysgol er mwyn diweddaru'ch Cynllun Pontio.