Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Dod o hyd i le ar gwrs ôl-radd

Dechreuwch chwilio am gyrsiau ôl-radd cyn gynted â phosib, yn ddelfrydol o leiaf 18 mis o flaen llaw. Bydd hyn yn rhoi cyfle i chi ystyried eich holl opsiynau, neu i gael profiad gwaith perthnasol er mwyn cryfhau'ch cais. Os nad yw'n bosib i chi gael cyllid ar gyfer y cwrs, yna bydd yn rhaid i chi wneud cais am gyllid ar wahân.

Sut mae dod o hyd i gyrsiau ôl-radd

Chwilio ar-lein

Ceir digon o wybodaeth am gyfleoedd ôl-radd ar-lein. Er enghraifft, mae gwefan Prospects yn rhestru miloedd o gyrsiau ymchwil a chyrsiau sy'n cael eu dysgu, gyda phroffiliau sefydliadau ac adrannau. Cofrestrwch i gael negeseuon e-bost ynghylch y cyfleoedd diweddaraf yn eich maes.

Edrychwch mewn cyhoeddiadau arbenigol

Hysbysebir llawer o gyfleoedd ôl-radd, yn enwedig gwaith ymchwil, mewn cylchgronau academaidd a masnach. Mae rhai papurau newydd yn cyhoeddi atodiadau am addysg uwch: mae'n werth bwrw golwg arnynt.

Ewch i ymweld â ffeiriau ôl-radd a diwrnodau agored

Mae ffeiriau ôl-radd yn ffordd ddefnyddiol o gyfarfod â phobl o sefydliadau gwahanol.

Os oes gennych ddiddordeb mewn sefydliad penodol, bydd mynd i ddiwrnod agored yn eich galluogi i weld y cyfleusterau ac i siarad â'r staff a'r myfyrwyr.

Sut i wneud cais am le ar gwrs ôl-radd

Gall y broses o wneud cais amrywio o sefydliad i sefydliad, felly darllenwch y manylion yn ofalus. Mae'n aml yn bosib gwneud cais ar-lein trwy wefannau'r prifysgolion a'r colegau.

Gwneud cais drwy Wasanaeth Ceisiadau ac Ystadegau Ôl-radd y DU (UKPASS)

Mae rhai prifysgolion a cholegau yn derbyn ceisiadau trwy Wasanaeth Ceisiadau ac Ystadegau Ôl-raddedig y DU. Mae'n wasanaeth ar-lein sydd yn rhad ac am ddim ac yn cael ei redeg gan UCAS. Gallwch gyflwyno hyd at ddeg o geisiadau gwahanol, olrhain y cais ac atodi deunydd cefnogi fel geirda.

Gallwch hefyd gyflwyno ceisiadau trwy wefan Prospects. Os byddwch yn defnyddio Prospects i wneud cais am sefydliad sy'n derbyn ceisiadau trwy UKPASS, bydd eich cais yn cael ei anfon yn awtomatig at UKPASS.

Cyrsiau ôl-radd mewn gwaith cymdeithasol, dysgu a cherddoriaeth

Mae gan rai cyrsiau ôl-radd broses ymgeisio wahanol:

  • cyrsiau gwaith cymdeithasol (gwneud cais drwy UCAS)
  • cyrsiau Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon (byddwch fel arfer yn gwneud cais drwy'r Gofrestrfa Hyfforddi Athrawon)
  • cyrsiau cerddoriaeth seiliedig ar ymarfer yn Ysgolion Cerddoriaeth y DU (byddwch yn gwneud cais drwy Wasanaeth Derbyn Ysgolion Cerddoriaeth y DU)

Gwneud cais am arian

Os yw'ch cwrs yn dod gyda chyllid cysylltiedig

Mae rhai cyrsiau ôl-radd gyda chyllid cysylltiedig iddynt sy'n cael eu galw yn ysgoloriaethau ymchwil. Fel arfer, mae ysgoloriaethau ymchwil ar gael mewn pynciau gwyddonol ac ar gyfer ymchwil yn hytrach na chwrs sydd yn cael ei ddysgu. Gallant dalu am ffioedd a chostau byw.

Mae'r ysgoloriaethau ymchwil yn cael eu hariannu yn bennaf gan saith Cyngor Ymchwil y DU. Mae ambell un yn cael ei ariannu gan brifysgolion a cholegau hefyd, neu gan gwmnïau (yn aml ar y cyd ag un o'r Cynghorau Ymchwil).

Mae'r lle ar y cwrs ei hun a'r ysgoloriaeth ymchwil yn cael eu cynnwys o fewn yr un cais yn aml. Fel arfer, ni fyddwch yn gwneud cais yn uniongyrchol i Gyngor Ymchwil: yn y rhan fwyaf o achosion, bydd angen i chi wneud cais i'r adran yn y brifysgol neu'r coleg lle cynhelir y cwrs.

Os bydd angen i chi sicrhau cyllid eich hun

Os nad yw'ch cwrs yn cynnig cyllid i chi, yna bydd angen i chi egluro yn eich cais sut y byddwch yn bwriadu talu am eich astudiaethau.

Mae sawl ffynhonnell bosib i gael cyllid, er nad yw cymorth ariannol yn tueddu i fod yn awtomatig. Gweler 'Ariannu astudio ôl-radd' i gael gwybod mwy.

Y ffurflen gais

Yn ogystal â thrafod ffynonellau cyllid (os nad yw'ch lle yn cynnig cyllid), bydd y cais yn gofyn i chi am fanylion megis:

  • pam eich bod yn gwneud cais
  • eich cymwysterau academaidd
  • sgiliau a phrofiad perthnasol
  • canolwyr academaidd a fydd yn gallu cefnogi'ch cais
  • eich cynnig ymchwil (ar gyfer cyfleoedd ymchwil)

Canolwyr

Mae geirda da yn rhan bwysig o'ch cais, felly byddwch yn ofalus wrth ddewis canolwyr. Cofiwch anfon copi o'ch cais at eich canolwyr.

Cyfweliadau a chynigion

Mae'n bosib y byddwch yn cael cynnig lle yn seiliedig ar eich cais ysgrifenedig. Fel arall, efallai y cewch eich galw i gyfweliad.

Yn y cyfweliad, mae'n debygol y gofynnir i chi fynd i fanylder ynghylch yr atebion a roesoch chi yn eich cais. Gallech hefyd gael cwestiynau newydd yn gofyn am eich dyheadau o ran gyrfa neu eich safbwynt ar fater penodol yn eich maes er enghraifft.

Gall cynnig fod yn amodol neu'n ddiamod. Mae cynnig amodol yn gofyn eich bod yn cyrraedd gradd neu gymhwyster arbennig yn eich astudiaethau presennol.

Pryd mae'r cyrsiau'n dechrau?

Gall cyrsiau sy'n cael eu dysgu ddechrau ym mis Hydref neu ym mis Ionawr. Mae'r mwyafrif o'r cyrsiau ymchwil yn dechrau ym mis Hydref.

Allweddumynediad llywodraeth y DU