Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Astudio ôl-radd: hyfforddi athrawon, gwaith cymdeithasol, gofal iechyd

Mae astudiaeth ôl-radd yn cynnig cyfle i ailhyfforddi fel athro neu weithiwr cymdeithasol, neu i ddechrau gyrfa mewn gofal iechyd. Mae'r broses ymgeisio yn aml yn wahanol i'r broses a ddefnyddir ar gyfer cyrsiau ôl-radd eraill - a gall fod ffynonellau amgen ar gael ar gyfer cymorth ariannol.

Hyfforddiant athrawon

I fod yn athro cwbl gymwysedig mewn ysgol sy'n cael ei chynnal gan y wladwriaeth yng Nghymru neu yn Lloegr, rhaid i chi feddu ar Statws Athro Cymwysedig (SAC) yn gyntaf.

I raddedigion, mae dwy brif ffordd o gael SAC:

  • dilyn cwrs i raddedigion, megis Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR)
  • dilyn llwybr sy'n seiliedig ar gyflogaeth, lle y byddwch yn cael eich hyfforddi mewn ysgol ac yn dysgu wrth weithio

Mae cyrsiau i raddedigion fel arfer yn gyrsiau blwyddyn amser llawn neu'n gyrsiau dwy flynedd ran-amser. Mae ceisiadau ar gyfer y cyrsiau hyn fel arfer yn agor ym mis Medi.

Ar y cyfan, bydd angen rhwng blwyddyn a dwy flynedd i gwblhau cwrs sy'n seiliedig ar gyflogaeth. Gweler gwefan yr Asiantaeth Hyfforddi a Datblygu ar gyfer Ysgolion (TDA) i gael gwybodaeth ar hyfforddiant athrawon - gan gynnwys yr opsiynau sydd ar gael ar gyfer graddedigion.

Ceisiadau a chyllid

Mae'r Gofrestrfa Hyfforddi Athrawon Graddedig (GTTR) yn delio â cheisiadau ar gyfer pob cwrs 'Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon' neu gwrs 'Addysg Gychwynnol Athrawon' ôl-radd yng Nghymru, Lloegr a'r mwyafrif yn yr Alban. Neu gallwch gael gwybodaeth am gyrsiau hyfforddiant athrawon yng Ngogledd Iwerddon drwy'r Adran Addysg.

I wneud cais am ddysgu ar sail cyflogaeth, bydd angen i chi gysylltu gyda'r darparwr hyfforddiant yn uniongyrchol fel arfer. Gallwch gael gwybod sut mae gwneud hyn ar wefan yr Asiantaeth Hyfforddi a Datblygu ar gyfer Ysgolion.

Teach First

Mae Teach First yn elusen annibynnol sy’n cynnig hyfforddiant yn y gweithle i raddedigion o’r radd uchaf pwy na fyddai fel arfer yn ystyried gyrfa dysgu. Mae’r rhaglen yn golygu dwy flynedd o weithio mewn ysgolion uwchradd heriol, a hefyd hyfforddiant dan arweinyddiaeth gyda chyflogwyr. Ar ddiwedd y ddwy flynedd, byddwch yn dewis pa un ai eich bod am barhau i ddysgu neu beidio.

Gwaith cymdeithasol

Os nad oes cysylltiad rhwng eich gradd gyntaf a gwaith cymdeithasol ac yr hoffech ailhyfforddi, cewch wneud cais am gwrs diploma dwy flynedd i raddedigion neu gwrs tair blynedd meistr yn y gwyddorau (MSc) mewn gwaith cymdeithasol. Mae'r ddau gymhwyster hyn yn caniatáu i chi ddechrau gweithio mewn gyrfa sy'n ymwneud â gwaith cymdeithasol.

Ceisiadau a chyllid

Ar gyfer cyrsiau ôl-radd mewn prifysgol neu goleg, dylech wneud cais drwy UCAS. Mae'n bosib fod y cymorth ariannol sydd ar gael yn cynnwys bwrsariaeth gwaith cymdeithasol nad oes yn rhaid ei had-dalu.

Gyrfaoedd ym maes gofal iechyd

I hyfforddi fel meddyg, deintydd neu nyrs, os nad yw eich gradd gyntaf yn gysylltiedig â meddygaeth, bydd rhaid i chi ddechrau drwy astudio am gymhwyster arall ar lefel israddedig. Bydd hyn yn cymryd rhwng tair a chwe blynedd.

Does dim cynlluniau llwybr cyflym ffurfiol ar gael i raddedigion. Fodd bynnag, ar gyfer rhai cyrsiau - gan gynnwys rhai mewn nyrsio - fe allech gael credyd am astudio ar lefel gradd cyn hynny, ac fe allech osgoi gorfod dilyn ambell fodiwl mynediad.

Gall gradd dosbarth cyntaf ym maes y celfyddydau eich helpu i gael lle ar gwrs diploma ôl-radd mewn meysydd penodol mewn gofal iechyd. Mae enghreifftiau yn cynnwys therapi llefarydd, therapi celf, therapi cerdd a chwnsela.

Allweddumynediad llywodraeth y DU