Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae’n bwysig gwybod bod eich gradd yn ddilys: os nad yw'n ddilys, ni fydd yn cyfrif pan fyddwch yn chwilio am swydd. Nid yw pob gradd y gwelwch chi'n cael eu hysbysebu yn cael eu cydnabod gan gyflogwyr a llywodraeth y DU. Ond mae'n hawdd gweld pa rai sy'n ddilys.
Os ydych chi am gael gradd ddilys yn y DU, rhaid i chi sicrhau bod eich cwrs yn arwain at radd a roddir gan gorff dyfarnu graddau cydnabyddedig.
Rhoddir y pŵer i rai prifysgolion a cholegau yn y DU ddyfarnu graddau yn unol â Deddf Seneddol neu Siarter Brenhinol.
Fe'u cydnabyddir wedyn fel cyrff sy'n dyfarnu graddau gan lywodraeth y DU a sefydliadau swyddogol eraill. Fe'u gelwir yn 'Gyrff Cydnabyddedig'. Cyfeirir at y graddau y maen nhw'n eu dyfarnu fel 'graddau cydnabyddedig y DU'.
Dydy rhai colegau ddim yn dyfarnu graddau ond maen nhw'n cynnal cyrsiau ar ran Cyrff Cydnabyddedig, ac felly'n cyfrannu tuag at radd. Gelwir y rhain yn 'Gyrff a Restrir'.
Dim ond Cyrff Cydnabyddedig gaiff ddyfarnu graddau yn y DU a dim ond cyrsiau a ddarperir ganddyn nhw neu Gyrff a Restrir all arwain at radd a gydnabyddir yn y DU.
Defnyddiwch y dolenni isod i weld a yw'r sefydliad yr hoffech chi astudio ynddo yn ymddangos ar naill ai'r cofnod swyddogol o Gyrff Cydnabyddedig neu o Gyrff a Restrir.
Dylai prifysgolion a cholegau sy'n recriwtio myfyrwyr tramor hefyd gael eu cofnodi ar y Gofrestr Darparwyr Addysg a Hyfforddiant. Ond mae'n bwysig cofio mai unig bwrpas y gofrestr hon yw helpu'r llywodraeth i fynd i'r afael â chamddefnyddio'r deddfau mewnfudo.
Os yw enw sefydliad i'w weld ar y gofrestr, nid yw hyn o reidrwydd yn golygu y gall ddyfarnu graddau a gydnabyddir yn y DU - ac nid yw'n gwarantu ansawdd yr addysg a geir yn y sefydliad hwnnw.
Mae'r gofrestr yn cynnwys mwy na 14,000 o sefydliadau, ac nid yw'r mwyafrif ohonynt yn cynnig unrhyw gymwysterau ar lefel gradd.
Os ydych chi'n gwneud cais am le ar gwrs addysg uwch, dylech edrych i weld a yw'r sefydliad yn Gorff Cydnabyddedig neu'n Gorff a Restrir.
Cyn i chi dalu unrhyw arian neu gofrestru ar y cwrs o'ch dewis, gwnewch yn siŵr:
Os nad yw'r corff dyfarnu wedi'i leoli yn y DU, edrychwch i weld a yw'r radd wedi'i chydnabod neu wedi'i hachredu gan lywodraeth y wlad y mae'r sefydliad ynddi - gweler 'Astudio mewn prifysgol dramor: gwneud eich gwaith ymchwil' i gael gwybod sut.