Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
P'un ai eich bod yn astudio'r awrora yn Norwy neu gerddoriaeth yn Fienna, gall treulio amser dramor yn rhan o'ch gradd helpu i roi persbectif rhyngwladol i chi a sicrhau bod eich cais yn wahanol i un pawb arall pan fyddwch yn chwilio am waith.
Mae astudio dramor yn gyfle anhygoel i ehangu'ch gorwelion, i gael persbectif newydd ar eich pwnc ac i feithrin profiad a sgiliau sy'n werthfawr i gyflogwyr.
Mae cyflogwyr yn chwilio fwyfwy am bobl sydd â phrofiad o weithio dramor, sydd ag ymwybyddiaeth ddiwylliannol ac sy'n gallu siarad iaith arall.
Bydd treulio amser dramor hefyd o fudd i ddangos eich bod yn berson hyblyg sy'n barod i dderbyn her.
Os ydych chi'n meddwl am astudio dramor, dyma eich dewisiadau:
Mae digon o bethau i feddwl amdanynt os ydych chi'n ysytyried dilyn cwrs gradd llawn dramor - dod o hyd i'r cwrs cywir a chael gafael yr arian sydd ei angen, i gychwyn.
Gweler 'Astudio mewn prifysgol dramor' i gael mwy o wybodaeth.
Mae'r rhan fwyaf o brifysgolion yn cynnig cyfle i fyfyrwyr dreulio tymor coleg neu flwyddyn yn astudio neu'n gweithio dramor, naill ai drwy gytundebau cyfnewid gyda phrifysgolion dramor neu drwy gynlluniau arbennig.
Er y byddwch chi fel arfer yn treulio amser yn astudio dramor os ydych chi'n dilyn cwrs gradd mewn ieithoedd, cofiwch fod astudio dramor yn agored i fyfyrwyr eraill hefyd.
Yn wir, mae nifer o brifysgolion Ewrop yn cynnig ystod gynyddol o gyrsiau yn Saesneg, felly mewn rhai achosion efallai na fydd yn rhaid i chi hyd yn oed siarad iaith dramor (er, wrth gwrs, bydd dysgu'r iaith yn eich helpu yn eich bywyd bob dydd).
I gael rhagor o gymorth a chyngor am bob agwedd ar astudio dramor, ewch i'r tudalennau ar gyfer myfyrwyr y DU sy'n astudio dramor ar wefan Cyngor y DU dros Faterion Myfyrwyr Rhyngwladol (UKCISA).
Dan y cynllun Erasmus (rhan o Raglen Dysgu Gydol Oes yr Undeb Ewropeaidd), cewch dreulio rhan o'r cwrs gradd yn astudio mewn dewis o 30 gwlad ledled Ewrop.
Byddwch yn derbyn grant gan yr UE ac, os byddwch yn aros am flwyddyn (o leiaf 24 wythnos ac eithrio penwythnosau a'r gwyliau arferol), ni fydd yn rhaid i chi dalu ffioedd dysgu'r DU ar gyfer y flwyddyn honno.
Efallai y gwelwch chi hefyd fod astudio dramor yn rhatach nag astudio yn y DU - mae costau byw yn is mewn nifer o wledydd ledled Ewrop. I gael rhagor o wybodaeth am y cyfleoedd sydd ar gael, ymwelwch â gwefan Erasmus - neu cysylltwch â’r cydlynydd Erasmus yn eich prifysgol neu goleg.
Mae cynllun IAESTE, a drefnir gan y Cyngor Prydeinig, yn helpu i roi profiad hyfforddiant dramor i israddedigion ym maes gwyddoniaeth, peirianneg a chelfyddydau cymhwysol sy'n berthnasol i'w hastudiaethau.
Mae'r rhan fwyaf o'r lleoliadau yn para rhwng 8 a 12 wythnos, rhwng Mehefin a Medi
Seilir llawer o'r dewisiadau ar gyfer astudio'n rhyngwladol – er enghraifft, yn yr UDA, Awstralia a'r tu allan i'r UE - ar drefniant dwy-ffordd rhwng prifysgolion a cholegau penodol.
I gael gwybod beth sydd ar gael i chi, cysylltwch â'r Swyddfa Ryngwladol neu'r swyddfa Astudio Dramor yn eich coleg neu'ch prifysgol
Os byddwch chi'n treulio amser mewn gwlad arall yn yr UE fel rhan o'ch cwrs gradd yn y DU, dylai'ch sefydliad gartref roi cydnabyddiaeth academaidd lawn i'r gwaith a wnewch, dan Gynllun Trosglwyddo Credydau Ewrop (ECTS).