Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Problemau cyffuriau

Os ydych chi'n poeni am eich problem cyffuriau personol chi, neu os ydych chi'n adnabod rhywun sy'n cam-drin neu'n camddefnyddio cyffuriau, mae'n beth da gwybod y ffeithiau.

Pam cymryd cyffuriau?

Dydy defnyddwyr cyffuriau ddim yn dechrau defnyddio cyffuriau gyda'r bwriad o ddod yn gaeth iddynt. Ond gan fod llawer o gyffuriau'n cynnwys sylweddau sy'n gaethiwus, gall pobl sy'n defnyddio cyffuriau'n achlysurol yn eu hamser hamdden hefyd ddod yn ddibynnol arnynt.

Gall y rhesymau pam y mae pobl yn dechrau defnyddio cyffuriau gynnwys:

  • dianc rhag problemau sydd ganddynt o bosib yn eu bywyd
  • pwysau gan gyfoedion a ffitio i mewn gyda grŵp arall o bobl
  • bod yn chwilfrydig am effeithiau cyffuriau

Os byddwch yn dechrau cymryd cyffuriau'n rheolaidd, neu os dowch yn ddibynnol arnynt, gall effeithio ar eich teulu a'ch ffrindiau yn ogystal â chael effaith ddifrifol ar eich lles corfforol a meddyliol personol chi.

Gall gorddosau o gyffuriau ladd a gallwch farw'n syth drwy gamddefnyddio cyffuriau y gallwch eu prynu dros y cownter - mae'r rhain yn cynnwys erosolau, glud a thoddyddion eraill.

Arwyddion o gam-drin a chamddefnyddio cyffuriau

Does dim rhestr gyffredin o symptomau y gallwch ei defnyddio i ddweud a ydych chi neu rywun yr ydych yn ei adnabod yn camddefnyddio cyffuriau. Y rheswm dros hynny yw bod cyffuriau'n effeithio'n wahanol ar wahanol bobl, yn dibynnu ar y math o gyffuriau y maent yn eu defnyddio.

Er y gall pryder, blinder a newid mewn patrwm cysgu hefyd fod yn arwyddion o gamddefnyddio cyffuriau, gall newidiadau i'ch corff, straen a phroblemau eraill achosi'r rhain hefyd.

Cyffuriau a'r gyfraith

Mae tri chategori o gyffuriau yn seiliedig ar faint o niwed y maent yn gallu'i wneud; cyffuriau dosbarth A yw'r peryclaf, a dosbarth C yw'r lleiaf peryglus. Ond mae'r holl gyffuriau yn y tri dosbarth yn niweidiol ac yn gaethiwus.

Cofiwch fod pob cyffur yn anghyfreithlon, hyd yn oed cyffuriau Dosbarth C megis GHB a ketamine. Os cewch eich dal yn eu gwerthu i bobl eraill, neu'n cario ychydig bach yn eich poced, mae'n debygol y bydd yr heddlu'n dod yn gysylltiedig. Os cewch eich dyfarnu'n euog o unrhyw un o'r troseddau hyn, gallech wynebu dirwy neu gyfnod dan glo, gyda'r dedfrydau mwyaf llym yn cael eu rhoi gyda chyffuriau Dosbarth A.

Poeni am ffrind?

Os ydych chi'n amau bod ffrind neu berthynas yn camddefnyddio cyffuriau, efallai y byddwch am siarad am y peth gyda nhw.

Nid eich cyfrifoldeb chi yw eu cael nhw i roi'r gorau iddi, ond gallwch ddweud wrthynt sut mae eu hymddygiad yn effeithio ar eich perthynas chi gyda nhw.

Os dônt atoch chi yn gofyn am help gyda'u problemau, mae'n bwysig gwrando a'u helpu i gael y wybodaeth a'r driniaeth briodol.

Talk to FRANK

Os ydych chi'n poeni am gamddefnyddio cyffuriau a chaethiwed i gyffuriau, gall y llinell gymorth Talk to Frank helpu.

Mae FRANK yn rhedeg llinell gymorth am ddim a gwefan sy'n esbonio sut y gall gwahanol fathau o gyffuriau effeithio arnoch. Gallwch gael cyngor cyfrinachol drwy ffonio 0800 77 66 00, saith niwrnod yr wythnos. Bydd y galwadau am ddim ac ni fyddant yn ymddangos ar eich bil ffôn, ond efallai y bydd yn rhaid talu os defnyddiwch ffôn symudol.

Allweddumynediad llywodraeth y DU