Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Gwener, 5 Hydref 2012

Cyflyrau'r croen

Mae pawb yn cael ploryn neu ddau o bryd i'w gilydd, ond gall cyflyrau mwy hirdymor ar y croen effeithio ar eich hunanhyder, yn enwedig os ydynt ar yr wyneb. Os ydych yn dioddef gydag acne neu groen sych, peidiwch â phoeni. Mae nifer o driniaethau rhwydd ar gael a all helpu.

Plorod

Mae'r rhan fwyaf o bobl yn cael plorod, ac maent yn ymddangos ar yr amseroedd mwyaf anghyfleus. Maent yn cael eu hachosi gan eich chwarennau'n creu gormod o sebwm - sylwedd sy'n cael ei gynhyrchu'n naturiol gan eich corff i rwystro blew'r corff rhag sychu. Mae gormod o sebwm yn gwneud eich croen yn seimllyd ac yn achosi plorod.

Fel arfer mae plorod yn diflannu, ond mae 'na rai pethau y gallwch eu gwneud er mwyn iddynt ddiflannu'n gynt:

  • ymolchi gyda hylif glanhau'r wyneb gwrth-facteria, yn hytrach na sebon neu gel cawod, nes bydd y plorod wedi mynd
  • peidiwch â'u gwasgu, gan y gall hyn ledaenu'r haint ac achosi mwy o blorod
  • gall yfed peint neu ddau o ddŵr y dydd helpu

Os nad yw'r plorod yn clirio, efallai eich bod yn dioddef o acne. Gall acne fod yn gyflwr mwy difrifol, felly dylech wneud apwyntiad i weld eich meddyg er mwyn iddo eich archwilio.

Acne

Mae Acne'n wahanol i gael ambell i bloryn. Gall ymddangos ar eich cefn, eich ysgwyddau ac ar y frest yn ogystal ag ar yr wyneb a gall fod yn boenus. Nid yw ymddangosiad acne'n dibynnu ar lefel eich glanweithdra personol; gall weithiau redeg yn y teulu neu gall straen mawr ei achosi.

Gall rhai pobl ddioddef mathau cymharol ysgafn o acne, lle gwelir y plorod yn ymddangos fisoedd ar wahân. Gall rhai pobl ddioddef mathau eithaf difrifol o'r cyflwr sy'n gallu arwain at greithiau. Er y bydd rhai dioddefwyr yn cael gwared ar yr acne erbyn eu 20au cynnar, bydd rhai pobl gyda chroen sensitif iawn yn dioddef am sawl blwyddyn wedyn.

Gall acne hefyd effeithio arnoch yn emosiynol. Gall dioddefwyr gael eu pryfocio neu eu bwlio yn yr ysgol neu yn y coleg. Gall hefyd effeithio ar hunan-hyder neu ddelwedd corff person a gall achosi straen - sydd yn ei dro yn gallu gwaethygu'r acne.

Er y gall hylifau a hufennau arbennig ar gyfer yr wyneb helpu rhai pobl, fel arfer mae angen triniaethau meddygol arbenigol ar gyfer acne difrifol. Dim ond gyda phresgripsiwn y mae’r triniaethau hyn ar gael. Gwnewch apwyntiad i weld eich meddyg, a all ddweud pa mor ddifrifol yw'r acne a phenderfynu beth yw'r peth gorau i'w wneud amdano. Bydd eich meddyg hefyd yn gallu dweud wrthych sut i ddelio gydag unrhyw straen emosiynol yr ydych wedi'i ddioddef.

Croen sych

Gall rhannau o groen sych effeithio ar bawb, yn enwedig pan fydd y tywydd yn oeri a'r gwynt yn dechrau cryfhau. Gall croen sych ffurfio mewn unrhyw fan, ond mae'n fwyaf cyffredin ar eich wyneb, gan mai hwn sy'n agored i'r aer oer.

Gall defnyddio lleithydd helpu, a balm ar gyfer eich gwefusau os ydynt yn torri. Os bydd eich croen sych yn para am amser hir ac os yw'n cosi neu'n teimlo'n boeth, ewch i weld eich meddyg. Gall y meddyg roi hufennau arbennig i chi sy'n gymorth ar gyfer y mathau mwy difrifol o groen sych fel ecsema neu ddermatitis.

Llid ar ôl eillio

Efallai y bydd bechgyn yn eu harddegau sy'n eillio yn cael llid neu frech ar eu gên neu ar eu gwddw ar ôl eillio. Er nad yw'n boenus, efallai y bydd yn cosi.

Bydd defnyddio lleithydd ar ôl gorffen eillio'n atal eich croen rhag sychu. Gall defnyddio hylif ar-ôl-eillio nad yw'n cynnwys alcohol helpu hefyd os oes gennych groen sensitif iawn.

Allweddumynediad llywodraeth y DU