Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Iechyd rhyw ac atal beichiogrwydd

Os ydych chi'n cael rhyw, gall defnyddio ryw fath o ddull atal cenhedlu eich diogelu rhag yr heintiau y gall cael rhyw heb warchodaeth arwain atynt, yn ogystal ag atal beichiogrwydd.

Dulliau atal cenhedlu - y pethau sylfaenol

Os ydych chi'n meddwl am gael rhyw am y tro cyntaf, neu os ydych chi wedi bod yn cael cyfathrach rywiol ers tro, mae'n hanfodol eich bod yn gwybod popeth sydd angen i chi ei wybod am ddulliau atal cenhedlu. Rhaid i chi ddefnyddio condoms i amddiffyn eich hun rhag heintiau sy'n gallu lledaenu wrth gael rhyw heb warchodaeth. Gelwir y rhain yn heintiau a drosglwyddir trwy ryw.

Mathau o ddulliau atal cenhedlu

Mae sawl math o ddulliau atal cenhedlu ar gael ar gyfer dynion a menywod. Dyma rai mathau y gallech fod wedi clywed amdanynt:

• condoms

• y bilsen

• dulliau sy'n gweithio am gyfnodau hir – mewnblaniadau neu bigiadau

• IUD (Dyfais yn y groth)


Mae dulliau atal cenhedlu'n effeithiol iawn wrth atal beichiogrwydd, ond mae angen eu defnyddio'n iawn er mwyn iddynt weithio! Dyna pam ei bod yn bwysig iawn eich bod yn dod o hyd i ddull sy'n addas i chi. Ond pa bynnag fath o ddull atal cenhedlu y byddwch yn ei ddewis, mae angen i bawb ddefnyddio condom i'w diogelu rhag heintiau a drosglwyddir trwy ryw.

Gallwch gael dulliau atal cenhedlu a chondoms am ddim gan eich meddyg teulu, o glinigau cynllunio teulu neu gan wasanaethau atal cenhedlu i bobl ifanc. Gallwch brynu condoms o fferyllfeydd ac archfarchnadoedd hefyd.

Er ei bod hi'n anghyfreithlon i bobl dan 16 oed gael cyfathrach rywiol (yng Ngogledd Iwerddon, mae'r oed cydsynio'n 17), bydd modd i chi gael cyngor cyfrinachol am atal cenhedlu gan feddyg neu nyrs os ydych chi'n iau na hyn.


Atal cenhedlu brys

Os ydych chi wedi cael rhyw heb warchodaeth, neu os ydych chi'n meddwl nad yw'r dull atal cenhedlu a ddefnyddiwyd gennych wedi gweithio'n iawn, gallwch atal beichiogi anfwriadol drwy ddefnyddio dulliau atal cenhedlu brys.

Dim ond i ferched mae dulliau atal cenhedlu brys ar gael. Gellir cael naill ai'r bilsen atal cenhedlu frys (a elwir yn bilsen bore wedyn) neu ddyfais yn y groth (IUD - Inter-Uterine Device).

Y cynharaf y byddwch yn ymateb, y mwyaf effeithiol fydd y dull atal cenhedlu brys, felly os ydych chi wedi cael rhyw heb warchodaeth, dylech fynd at eich meddyg teulu neu fynd i'ch canolfan iechyd rhyw leol mor fuan â phosib.

Dim ond mewn argyfwng y dylech ddefnyddio dulliau atal cenhedlu brys, nid fel dull cyffredin o atal cenhedlu. Bydd dulliau atal cenhedlu brys yn helpu i atal beichiogi ar ôl cael rhyw heb warchodaeth, ond nid ydynt mor effeithiol â dulliau atal cenhedlu eraill.


Heintiau a drosglwyddir trwy ryw

Wrth gael rhyw heb warchodaeth gellir cael heintiau a drosglwyddir trwy ryw. Gall rhai fod yn fwy difrifol nag eraill. Efallai eich bod wedi clywed am y mathau hyn o heintiau a drosglwyddir trwy ryw:

• HIV/AIDS
• clamydia
• gonorea
• herpes
• syffilis
• dafadennau gwenerol (genital warts)

Mae gan bob haint a drosglwyddir trwy ryw ystod o wahanol symptomau - rhai nad ydynt yn amlwg - sy'n golygu y gallech fod yn cario haint heb fod yn ymwybodol o hynny hyd yn oed.

Gall gwisgo condom eich amddiffyn yn erbyn heintiau a drosglwyddir trwy ryw. Er ei bod yn hawdd trin y rhan fwyaf o'r heintiau hyn os byddant yn cael eu canfod yn fuan, gallant gael effaith ddifrifol ar eich iechyd os ydynt yn cael eu gadael heb eu trin.

Os ydych chi'n meddwl eich bod wedi dal haint a drosglwyddir trwy ryw, dylech ymweld â'ch meddyg teulu neu'ch canolfan iechyd rhyw leol mor fuan ag y bo modd.


Clinigau Iechyd Rhyw

Er y gallwch gael dulliau atal cenhedlu a chyngor am iechyd rhyw gan eich meddyg teulu arferol, efallai y byddwch yn dymuno mynd i glinig gwahanol i gael cymorth a chyngor am iechyd rhyw. Gall y staff sy'n gweithio yn y clinigau hyn roi profion i chi, ynghyd â thriniaethau ar gyfer heintiau a drosglwyddir trwy ryw. Gallant hefyd roi dulliau atal cenhedlu i chi am ddim.

Cofiwch y bydd unrhyw beth a ddywedwch wrth eich meddyg teulu neu wrth nyrs iechyd rhyw yn cael ei gadw'n gyfrinachol, ac ni fydd unrhyw driniaeth y gallech ei chael yn cael ei hychwanegu at eich cofnodion meddygol.

Allweddumynediad llywodraeth y DU