Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Gwener, 5 Hydref 2012

Anhwylderau bwyta

Gall anhwylderau bwyta effeithio ar unrhyw un, nid dim ond ar ferched ac ar bobl ifanc yn eu harddegau neu eu hugeiniau cynnar. Ceir mathau gwahanol o anhwylderau, a phob un â symptomau gwahanol. Gallwch gael help gan eich meddyg neu gan rai sefydliadau arbenigol.

Beth yw anhwylderau bwyta

Mae pobl ag anhwylder bwyta yn defnyddio bwyd i'w helpu i ymdopi â straen neu sefyllfaoedd anodd, a hynny'n aml heb iddynt sylweddoli. Maent yn defnyddio bwyd er mwyn cadw rheolaeth dros eu bywyd a'u hemosiynau. Gall eu rhwystro rhag gwneud penderfyniadau realistig am yr hyn y maent yn ei fwyta a faint y dylent ei fwyta.

Gan amlaf, mae cyfuniad o resymau wrth wraidd anhwylder bwyta y rhan fwyaf o bobl. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • iselder
  • diffyg hunanbarch a hunanhyder
  • problemau perthynas - personol neu deuluol
  • trais domestig neu gam-drin corfforol
  • pryderon am eu hymddangosiad personol

Os na chânt eu canfod, gall anhwylderau bwyta achosi problemau iechyd mawr gan eu bod yn atal y corff rhag cael yr egni a'r maetholion sy'n hanfodol i'r corff weithio'n iawn.

Er mai merched rhwng 15 a 25 oed yw llawer o'r bobl ag anhwylderau bwyta, mae mwy a mwy o ddynion yn gofyn am help.

Cofiwch na fydd gan bawb sydd ag anhwylder bwyta'r un symptomau bob amser â pherson arall sydd â'r un broblem.

Anorecsia

Bydd pobl sy'n dioddef o anorecsia nerfosa yn lleihau'n fawr faint o fwyd y byddant yn ei fwyta gan eu bod ofn magu pwysau. Gall rhai fwyta dim byd neu ymprydio am nifer o ddiwrnodau, hepgor prydau bwyd a gwneud gormod o ymarfer corff.

Gall pobl ag anorecsia golli llawer o bwysau a byddant yn teimlo bod maint eu corff yn fwy nag ydyw mewn gwirionedd. Mewn achosion difrifol, gall pobl farw o effeithiau anorecsia gan nad yw'r corff yn gallu gweithio fel y dylai, yn enwedig os na fydd y dioddefwr yn ceisio cymorth.

Bwlimia

Mae bwlimia nerfosa yn wahanol i anorecsia ac yn fwy cyffredin.

Bydd pobl sydd â bwlimia yn bwyta llawer o fwyd yn gyflym iawn, ac wedyn yn gorfodi'u hunain i chwydu neu'n cymryd carthyddion i gael gwared â'r holl fwyd. Mae'n bosib y byddant hefyd yn mynd heb fwyd am gyfnodau byr.

Mae hyn yn digwydd mewn cylchoedd yn dibynnu ar ba mor ddifrifol y mae'r person yn dioddef o bwlimia. Gall y cylchoedd ddigwydd bob ryw ychydig o fisoedd neu hyd yn oed sawl gwaith y dydd.

Gall fod yn llawer anoddach canfod bwlimia nag anorecsia. Bydd pobl ag anorecsia yn colli llawer o bwysau, ond bydd pwysau pobl sydd â bwlimia yn aros yr un fath fel arfer, er bod ganddynt dal broblemau bwyd a bwyta.

Gorfwyta mewn pyliau

Efallai eich bod yn meddwl bod pob anhwylder bwyta'n achosi pobl i golli pwysau, ond gall pobl sy'n gorfwyta mewn pyliau fagu llawer iawn o bwysau oherwydd eu bod yn gorfwyta yn ystod y dydd neu'n parhau i fwyta pan nad ydyn nhw eisiau bwyd.

Ymateb i deimladau negyddol fel arfer yw gorfwyta mewn pyliau. Gall pobl sy'n gorfwyta mewn pyliau fynd yn ordew a gallant gael problemau gyda'r galon, eu pwysau gwaed a gall effeithio ar eu lefel ffitrwydd cyffredinol.

Ble mae cael cymorth

Os ydych chi'n meddwl bod gennych efallai anhwylder bwyta, neu os ydych chi'n amau bod ffrind neu berthynas yn dioddef ac am eu helpu, dylech siarad â meddyg. Gall meddyg awgrymu ffyrdd o drin y broblem a gall ddarparu manylion grwpiau cefnogi a mudiadau cymorth yn eich ardal leol.

Gallwch hefyd gysylltu â Llinell Ieuenctid b-eat dros y ffôn, drwy neges testun neu drwy neges e-bost. Mae gan yr holl gynghorwyr brofiad helaeth o wrando ar bobl ifanc sy'n teimlo bod ganddynt broblemau bwyta. Bydd popeth a ddywedwch dros y ffôn yn cael ei gadw'n gyfrinachol.

Allweddumynediad llywodraeth y DU