Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Os ydych chi'n meddwl eich bod yn feichiog

Os ydych chi'n meddwl y gallech fod yn feichiog, neu os hoffech gael mwy o wybodaeth ar ran ffrind, mae llawer o lefydd a all roi cymorth a chyngor i chi.

Beth i'w wneud os ydych chi'n meddwl eich bod yn feichiog

Os ydych chi wedi cael rhyw heb warchodaeth, neu os nad ydych yn sicr eich bod wedi defnyddio eich dull atal cenhedlu'n gywir a bod eich mislif yn hwyr, dylech gael prawf beichiogrwydd cyn gynted â phosib. Er y gall mislif fod yn hwyr am resymau eraill, fel straen arholiadau, dylech gymryd prawf er mwyn bod yn sicr, er y gall hynny fod yn dipyn o straen ac yn brofiad gofidus.

Os cymerwch brawf beichiogrwydd yn gynnar, bydd mwy o ddewisiadau ar gael i chi os bydd y canlyniad yn bositif.

Os ydych chi'n iau na'r oed cydsynio ac yn meddwl y gallech fod yn feichiog, gallwch ddal i gael prawf beichiogrwydd am ddim gan eich meddyg teulu, eich clinig cynllunio teulu neu wasanaeth atal cenhedlu pobl ifanc. Gallwch hefyd brynu prawf beichiogrwydd o unrhyw fferyllfa neu archfarchnad.

Os yw'r prawf yn bositif, mae'n wirioneddol bwysig eich bod yn gweithredu'n gyflym fel y gallwch ddarganfod beth yw eich dewisiadau a phenderfynu beth sydd orau i chi. Gall siarad â theulu a ffrindiau fod o gymorth mawr, ond mae'n bwysig iawn eich bod hefyd yn gweld meddyg neu nyrs, naill ai yn eich meddygfa deulu neu mewn clinig lleol.

Os yw'r prawf yn negatif, bydd hefyd yn syniad da i fynd i glinig er mwyn sicrhau eich bod yn defnyddio'r dull atal cenhedlu sy'n gweddu orau i chi.

Cyfrinachedd meddyg/claf

Os ewch i weld meddyg neu ymgynghorydd i siarad am fater sy'n ymwneud â beichiogrwydd, bydd unrhyw beth a ddywedwch yn breifat ac yn gyfrinachol, hyd yn oed os ydych chi'n iau na'r oed cydsyniad.

Ni chaiff meddygon a nyrsys ddweud unrhyw beth a ddywedwch wrthynt yn ystod apwyntiad wrth eich rhieni na pherthnasau eraill, oni bai eu bod yn credu y gallech fod mewn perygl, neu'n dioddef camdriniaeth. Hyd yn oed os ydynt yn credu hynny, dylent siarad â chi am y peth yn gyntaf.

Os yw’ch cariad yn feichiog

Yn aml, gall fod yn sioc darganfod bod eich cariad yn feichiog. Mae'n debygol y bydd gennych lawer o gwestiynau, ac y byddwch eisiau cael gwybod beth yw eich dewisiadau. Mae'n syniad da i siarad am eich sefyllfa gyda'ch teulu, neu gallwch gael peth cyngor gan ymgynghorydd cymwys.

Cofiwch, os ydych chi dan 18 oed, mae'r llinell gymorth gyfrinachol Sexwise ar gael o 7.00 am tan hanner nos, saith diwrnod yr wythnos. Bydd galwadau o linell ddaearol am ddim, ac ni fyddant yn ymddangos ar fil ffôn.

Atal beichiogrwydd heb ei gynllunio

Defnyddio gwarchodaeth neu ddulliau atal cenhedlu yw'r ffordd orau o leihau'r posibilrwydd o feichiogi. Condoms yw un o'r dulliau atal cenhedlu mwyaf poblogaidd, ac maent hefyd yn atal lledaenu heintiau a drosglwyddir trwy ryw (STIs), felly sicrhewch eich bod yn eu defnyddio.

I gael mwy o gyngor am feichiogrwydd ac iechyd rhyw, gallwch wneud apwyntiad gyda'ch meddyg, neu ganfod eich clinig neu ganolfan gyngor iechyd rhyw agosaf.

Allweddumynediad llywodraeth y DU