Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Gwener, 5 Hydref 2012

Blaenlencyndod

Yn ystod y cyfnod blaenlencyndod, mae eich corff yn newid mewn sawl ffordd. Gall fod yn gyfnod sy'n achosi straen, ond os byddwch yn gwybod sut y bydd eich corff yn newid, efallai na fyddwch yn poeni cymaint.

Beth yn union ydy blaenlencyndod?

Yn y bôn, term ydy blaenlencyndod a ddefnyddir i ddisgrifio'r holl newidiadau a fydd yn digwydd i'ch corff wrth ichi symud tuag at fod yn oedolyn. Mae'n cynnwys popeth megis cyfnodau o dyfu'n gyflym, y misglwyf a'ch llais yn torri.

Mae'n digwydd i bawb ar wahanol adegau: mae rhai pobl yn dechrau newid yn 10 oed, a bydd eraill yn 16 oed cyn iddynt weld unrhyw newidiadau. Gall y newidiadau ddigwydd yn araf ac yn raddol, neu dros gyfnod cymharol fyr o amser, ond at ei gilydd, bydd merched yn dechrau newid yn iau na bechgyn.

Gan fod eich ymennydd yn rhyddhau hormonau i roi cychwyn ar y newidiadau hyn, gall cyfnod blaenlencyndod hefyd effeithio ar eich emosiynau a'ch teimladau. Gall eich hwyliau fod ar i fyny ac ar i lawr, ac efallai y byddwch yn dechrau poeni am eich corff a'r ffordd yr ydych yn edrych.

Bechgyn

Dyma rai arwyddion o flaenlencyndod y gallech sylwi arnynt.

Newidiadau i'r corff

Yn ogystal â mynd yn dalach, fel arfer bydd bechgyn yn ennill ychydig o bwysau a bydd eu cyhyrau'n dechrau datblygu a mynd yn fwy. Bydd eich ceilliau a'ch pidyn yn dechrau tyfu hefyd a byddwch yn dechrau cynhyrchu sberm.

Blew

Yn ystod blaenlencyndod, bydd blew yn dechrau tyfu o dan eich ceseiliau, ar eich coesau ac o amgylch eich organau rhywiol. Hefyd, bydd blew yn dechrau tyfu ar yr wyneb, ac efallai y byddwch am ddechrau eillio. Bydd rhai pobl yn dechrau tyfu blew ar y frest hefyd.

Llais yn torri

Bydd lleisiau bechgyn yn dechrau mynd yn ddyfnach. Byddwch hefyd yn sylwi y bydd yr afal breuant yn eich gwddw yn dechrau dod yn fwy amlwg. Pan fydd hyn yn digwydd, mae eich llais wedi torri.

Weithiau bydd eich llais yn torri dros nos, ond fel arfer mae'n digwydd dros gyfnod o amser a bydd eich llais yn swnio'n gryglyd a'r dôn yn mynd i fyny ac i lawr. Er y gall beri ychydig o embaras, mae'n diflannu'n ddigon sydyn.

Merched

Dyma rai o'r newidiadau y gallai merched sylwi arnynt.

Misglwyfau

Bydd merched yn dechrau'r misglwyf pan fyddant oddeutu 12 oed. Mae'r misglwyf yn dechrau pan fydd corff merch wedi datblygu'n ddigon i gael babi. Mae wy'n cael ei ryddhau o'r ofarïau bob mis ac mae'r groth yn tyfu leinin o feinwe a fydd yn amddiffyn yr wy os bydd yn cael ei ffrwythloni gan sberm.

Os na fydd yr wy'n cael ei ffrwythloni, bydd yr wy a'r leinin yn gadael corff y ferch drwy'r fagina, a fydd yn achosi gwaedu am oddeutu 3-8 diwrnod. Gelwir y broses hon yn 'gylchred mislifol' ac mae'n digwydd yn fisol, ond peidiwch â phoeni os na fydd yn rheolaidd yn syth.

Weithiau gall y misglwyf achosi poenau yn y bol. Os yw'r boen yn ddrwg bob tro, trefnwch apwyntiad i weld eich meddyg teulu

Newidiadau i'r corff

Mae merched hefyd yn mynd yn dalach yn ystod blaenlencyndod a bydd eu bronnau'n dechrau datblygu.

Blew

Bydd merched hefyd yn datblygu blew o dan eu breichiau ac o gwmpas y fagina. Gallant hefyd ddatblygu blew ysgafn ar eu breichiau, eu coesau ac ar y wefus uchaf.

Newidiadau eraill

Gyda'r holl hormonau yn rhydd yn eich corff, gall bechgyn a merched ddatblygu cyflyrau eraill yn ystod blaenlencyndod. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • croen seimllyd, sy'n gallu arwain at blorod neu acne
  • rhoi pwysau ymlaen
  • y corff yn cynhyrchu mwy o chwys
  • newidiadau yn eich patrwm cysgu
  • teimladau dryslyd tuag at bobl o’r un rhyw

Gall blaenlencyndod fod yn gyfnod dryslyd a gallech deimlo dan bwysau nad ydych yn datblygu mor gyflym â phawb arall yn eich dosbarth.

Efallai y gallwch siarad â brawd, chwaer neu gefnder/cyfnither hŷn os oes gennych bryderon am y newidiadau sy'n digwydd. Os oes gennych bryderon iechyd penodol, efallai hefyd y gallwch siarad â'ch meddyg neu fynd i glinig lleol.

Allweddumynediad llywodraeth y DU