Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Ysmygu a rhoi'r gorau iddi

Mae pob un ohonom yn gwybod am y difrod y mae ysmygu'n ei wneud, ond mae'n dal yn arfer drwg yn y DU. Ond os ydych am roi'r gorau iddi, mae digon o gymorth ar gael.

Prynu a gwerthu tybaco - y gyfraith

Mae'n anghyfreithlon gwerthu sigaréts (neu gynhyrchion eraill fel tybaco wedi'i rowlio a sigârs) i unrhyw un dan 18 oed yng Nghymru a Lloegr, dros y cownter neu mewn peiriant gwerthu.

Y rheswm yw ceisio rhwystro pobl rhag dechrau ysmygu pan maent yn eu harddegau. Amcangyfrifwyd bod pobl sy'n dechrau ysmygu pan maent yn 15 oed dair gwaith yn fwy tebygol o farw o ganser na rhywun sy'n dechrau ysmygu yn eu hugeiniau.

Ysmygu mewn mannau cyhoeddus

Mae bellach yn erbyn y gyfraith i ysmygu yn bron bob man cyhoeddus caeedig yn y DU. Mae hyn yn cynnwys:

  • caffis a thai bwyta
  • canolfannau siopa
  • gorsafoedd rheilffordd

Pam dechrau ysmygu?

Er ein bod i gyd yn gwybod am y peryglon iechyd sy'n gysylltiedig ag ysmygu, mae miloedd o bobl yn penderfynu dechrau ysmygu bob blwyddyn - ac mae nifer fawr o'r oedolion sy'n dal i ysmygu yn dweud eu bod wedi dechrau cyn iddynt gyrraedd 16 oed.

Efallai y bydd rhai o'ch ffrindiau'n rhoi pwysau arnoch i gychwyn, efallai eich bod am wneud yr un fath â pherthnasau hŷn sy'n ysmygu, neu efallai mai chwilfrydedd yn unig sydd yn gwneud i chi ddechrau. Pa fath bynnag o bwysau a roddir arnoch, mae'n llawer haws dweud na ar y cychwyn yn hytrach na cheisio rhoi'r gorau iddi ar ôl blynyddoedd o ysmygu'n rheolaidd.

Mae hefyd yn costio arian mawr. Os byddwch yn ysmygu 10 sigarét y dydd, gallai gostio dros £1,000 i chi bob blwyddyn. Meddyliwch am yr holl bethau y gallech eu prynu gyda'r arian hwnnw!

Y risgiau iechyd

Mae pobl sy'n ysmygu'n rheolaidd yn fwy tebygol o ddatblygu mathau penodol o salwch wrth iddynt fynd yn hŷn. Mae'r rhain yn cynnwys canser yr ysgyfaint, afiechyd y galon ac emffysema. Gall hefyd leihau ffrwythlondeb.

Er mai nicotin sy'n peri i rywun fod yn gaeth i sigaréts, y cemegolion eraill sy'n niweidio'ch iechyd.

Mae ysmygu hefyd yn achosi effeithiau corfforol eraill ni waeth faint yw eich oed, gan gynnwys:

  • niweidio'r gallu i flasu
  • y croen yn heneiddio
  • staeniau ar y dannedd
  • dillad drewllyd

Er nad ydynt yn lladd, nid ydynt yn bleserus.

Mythau ysmygu

Mae llawer o bobl yn peidio â rhoi'r gorau i ysmygu oherwydd eu bod wedi clywed am y sgîl-effeithiau. Yn wir, does dim gwirionedd y tu ôl i'r rhan fwyaf o'r rhain:

  • dydy sigaréts ddim yn gwneud i chi ymlacio; yn wir, mae ysmygu'n cyflymu curiad y galon
  • dydy rhoi'r gorau iddi ddim yn golygu y byddwch yn ennill pwysau; efallai y byddwch yn dechrau bwyta mwy, ond mae pwys neu ddau ychwanegol yn llawer iachach na pharhau i ysmygu
  • efallai y byddwch yn meddwl y gallwch roi'r gorau iddi pan fyddwch ychydig yn hŷn, ond po hiraf y byddwch yn ysmygu, anoddaf fydd rhoi'r gorau iddi
  • yr unig ffordd y mae ysmygu yn gwneud i chi edrych yn hŷn yw drwy roi crychau i chi pan rydych yn ifanc

Ffyrdd o roi'r gorau iddi

Os ydych wedi penderfynu eich bod am roi'r gorau iddi, mae 'na sawl peth y gallwch ei wneud i wneud y gwaith ychydig yn haws.

Cymorth dros y ffôn

Mae gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) linell gymorth ysmygu sy'n helpu miloedd o bobl i roi'r gorau iddi bob blwyddyn. Gall y llinell gymorth roi cyngor i chi os ydych chi'n cael ei chael yn anodd rhoi'r gorau i ysmygu a bydd ganddynt fanylion grwpiau cymorth yn eich ardal. Y rhif yw 0800 169 0 169, mae'r galwadau am ddim ac mae ar agor rhwng 7.00 am a 11.00 pm.

Patsys a gwm cnoi

Mae patsys sigaréts yn gweithio drwy ryddhau llif araf o nicotin i'r gwaed sy'n eich atal rhag ysu am sigarét pan fyddwch yn ceisio rhoi'r gorau iddi. Gall gwisgo patsys neu gnoi gwm eich helpu gyda'r cyfnodau o ysu am sigarét, ond ni fydd yn niweidio'ch iechyd fel y mae sigaréts yn ei wneud. Mae gwahanol fathau ar gael yn dibynnu ar faint rydych yn ei ysmygu bob dydd.

Hefyd, gallwch gael gwm cnoi sy'n rhyddhau nicotin i'ch corff drwy leinin eich ceg.

Gallwch brynu patsys a gwm yn y rhan fwyaf o fferyllfeydd, neu efallai y cewch bresgripsiwn gan eich meddyg.

Mynnwch sgwrs gyda'ch meddyg cyn dechrau defnyddio cynnyrch disodli nicotin.

Allweddumynediad llywodraeth y DU