Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Gwener, 5 Hydref 2012

Rhywioldeb

Os ydych chi'n meddwl eich bod yn hoyw neu'n lesbiad, efallai eich bod yn poeni sut y bydd pobl yn ymateb wrth i chi ddweud wrthyn nhw.

Y pethau sylfaenol

Mae'r gair hoyw/cyfunrywiol (homosexual) yn disgrifio pobl sy'n cael eu denu'n rhywiol at aelodau o'r un rhyw. Fel arfer, gelwir dynion sy'n cael eu denu at ddynion eraill yn ddynion hoyw, a gelwir merched sy'n cael eu denu at ferched eraill yn lesbiaid. Gelwir pobl sy'n hoffi dynion a merched yn ddeurywiol.

Ydw i'n hoyw?

Weithiau, gall deall eich rhywioldeb a bod yn gyfforddus gyda hynny fod yn brofiad dryslyd. Mae llawer o bobl yn cael eu denu at aelod o'r un rhyw wrth iddynt dyfu, ond nid yw pob un ohonyn nhw'n ddeurywiol, yn hoyw neu'n lesbiaidd.

Os ydych chi'n meddwl y gallech chi fod yn hoyw, cofiwch nad oes unrhyw reswm dros deimlo embaras am hynny. Dydych chi ddim yn dewis eich rhywioldeb, ac felly does dim rheswm dros deimlo eich bod yn gwneud rhywbeth anghywir.

Dod allan a dweud

Efallai y byddwch am ddweud wrth bobl am eich rhywioldeb neu 'ddod allan' os ydych chi'n teimlo'n gyfforddus, ond peidiwch â theimlo bod yn rhaid i chi wneud hyn. Does dim amser penodedig ar gyfer dweud wrth eich teulu a'ch ffrindiau am eich rhywioldeb, ac mae rhai pobl yn penderfynu peidio â dweud wrth neb.

Er y byddwch o bosib eisiau gofyn i ffrindiau am gyngor, dim ond chi all benderfynu pryd fydd yr amser iawn i ddweud wrth bobl am eich rhywioldeb, ac felly peidiwch â gadael i neb roi pwysau arnoch i wneud hyn cyn i chi fod yn barod.

Bwlio

Yn anffodus, mae lleiafrif bychan o bobl yn cael eu bwlio neu eu herlid oherwydd eu rhywioldeb. Gall hyn ddigwydd yn yr ysgol, yn y coleg neu yn y gwaith.

Os ydych chi'n cael eich bwlio oherwydd eich rhywioldeb, ddylech chi ddim ei dderbyn. Dywedwch wrth rywun a all ei stopio, fel athro neu reolwr yn y gwaith.

Cymorth a chyngor

Os hoffech chi siarad â rhywun am eich teimladau, mae gan y rhan fwyaf o'r wlad linellau cymorth rhanbarthol a all roi cyngor a gwybodaeth i chi. Chwiliwch yn eich llyfr ffôn lleol i gael eu rhif.

Os hoffech chi gael cyngor di-dâl a chyfrinachol am ryw a pherthnasoedd, gallwch ffonio'r llinell gymorth Sexwise. Y rhif ydy 0800 28 29 30 ac mae ar agor saith niwrnod yr wythnos rhwng 7am a hanner nos.

Allweddumynediad llywodraeth y DU