Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Trais ac ymosodiad rhywiol

Gall unrhyw ddioddef trais neu ymosodiad rhywiol, waeth faint yw eu hoed ac mae'n gallu digwydd i ddyn neu fenyw.

Beth yw trais rhywiol?

Trais rhywiol yw pan fydd rhywun yn gorfodi person arall i gael rhyw yn erbyn eu hewyllys. Er mai merched yw'r rhan fwyaf o bobl sy'n dioddef o drais, mae llawer o achosion hefyd lle bo dynion yn dioddef. Mae ymosodiad rhywiol yn golygu unrhyw fath o gyswllt ac ymddygiad rhywiol annerbyniol.

Yn aml iawn, bydd y trais yn cael ei gyflawni gan rywun y mae'r dioddefwr yn ei 'nabod. Mae hynny'n cynnwys aelodau o'u teulu neu rywun y maen nhw'n ei 'nabod yn gymdeithasol. Gallwch hefyd gael eich treisio neu'ch ymosod arnoch yn rhywiol gan rywun rydych mewn perthynas â nhw, neu gan rywun nad ydych erioed wedi'u cyfarfod o'r blaen.

Nid dim ond trosedd sy'n effeithio ar oedolion yw hwn. Gall pobl yn eu harddegau a phobl ifanc ddioddef ohono hefyd. Pan fydd dioddefwr dan 18 oed, cyfeirir ar drais yn aml fel cam-drin plant.

Trais rhywiol dan ddylanwad cyffuriau ac ar ddêt

Mae rhai achosion o drais rhywiol yn digwydd pan roddir cyffuriau i rywun heb iddyn nhw wybod fel eu bod yn mynd yn ddryslyd ac nad ydynt yn gwybod beth sy'n digwydd iddyn nhw.

Gall y cyffuriau gael eu hychwanegu at ddiod neu at fwyd yn hawdd iawn heb i'r dioddefwr sylwi, sy'n golygu ei fod wedi'i 'sbeicio'. Mae'r cyffuriau'n gallu effeithio ar y cof, fel na all y dioddefwr gofio'n union beth ddigwyddodd.

Er mwyn cadw'n ddiogel pan fyddwch allan, peidiwch byth â derbyn diod gan rywun nad ydych erioed wedi'u cyfarfod o'r blaen. Ewch â'ch diod gyda chi os byddwch chi'n mynd i'r toiled neu i ddefnyddio'r ffôn; peidiwch â'i adael heb neb yn gofalu amdano.

Yr unig sefydliad yn y wlad sy'n arbenigo ar helpu dioddefwyr trais ac ymosodiad rhywiol dan ddylanwad cyffuriau yw'r Roofie Foundation. Mae gan y sefydliad linell gymorth 24 awr ac maen nhw'n darparu cyngor call am sut i atal sbeicio diodydd. Rhif y llinell gymorth yw 0800 783 2980 ac mae ar agor rhwng 9.00 am a 9.00 pm.

Beth i'w wneud os byddwch wedi dioddef trais rhywiol

Os ydych wedi cael eich treisio'n rhywiol neu wedi dioddef ymosodiad rhywiol, dylech ddweud wrth yr heddlu cyn gynted ag y bo modd. Os ydych chi dan 17 oed, bydd Uned Amddiffyn Plant eich heddlu lleol yn ymdrin â'ch achos.

Cewch ofyn am gael siarad â swyddog sydd o'r un rhyw â chi os yw hynny'n fwy cyfforddus i chi. Byddan nhw'n brofiadol o ran delio â dioddefwyr ymosodiadau rhywiol ac yn deall y trallod a'r ofn y gallech fod yn eu hwynebu.

Mae'n bosib y gofynnir i chi roi'r eitemau o ddillad yr oeddech yn eu gwisgo pan ymosodwyd arnoch i'r heddlu, oherwydd efallai eu bod yn cynnwys olion tystiolaeth a allai fod o help iddyn nhw adnabod y person a oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad.

Bydd yr heddlu hefyd yn trefnu i chi gael archwiliad meddygol os dymunwch. Bydd y meddyg yn trin unrhyw anafiadau sydd gennych a hefyd yn casglu unrhyw dystiolaeth a allai helpu'r heddlu gyda'u hymchwiliad. Bydd y meddyg yn siarad â chi am yr archwiliad ymlaen llaw, er mwyn i chi ddeall beth maen nhw'n ei wneud a pham.

Mae'n bosib y bydd yr heddlu am gael sgwrs â chi eto pan fyddan nhw'n ymchwilio i'r trosedd. Byddan nhw'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am unrhyw ddatblygiadau yn yr ymchwiliad ac yn rhoi gwybod i chi a oes angen i chi fynd i'r llys.'

Help i ddioddefwyr

Gall dioddef trais neu ymosodiad rhywiol eich gadael yn teimlo'n ofnus, yn ddryslyd ac yn llawn trallod. Os ydych wedi riportio'r trosedd ai peidio, bydd Cymorth i Ddioddefwyr yn gallu'ch helpu i ddeall yr emosiynau rydych chi o bosib yn eu profi.

Mae'n bosib hefyd y byddwch chi'n ei chael hi'n fuddiol siarad â sefydliad sy'n arbenigo mewn helpu pobl sydd wedi dioddef trais neu ymosodiad rhywiol. Mae sefydliadau ar gael sy'n ymroddedig i helpu grwpiau penodol o ddioddefwyr - er enghraifft, dynion sy'n dioddef o drais rhywiol.

Allweddumynediad llywodraeth y DU