Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Troseddau â chyllyll

Os ydych chi'n poeni am droseddau â chyllyll yn eich ardal leol neu os hoffech gael gwybod mwy am y cyfreithiau ar gario a phrynu cyllyll, gallwch gael yr holl wybodaeth y mae ei hangen arnoch yma.

Beth yw troseddau â chyllyll?

Mae 'troseddau â chyllyll' yn ymadrodd a ddefnyddir i ddisgrifio unrhyw drosedd yn ymwneud â chyllyll.

Mae hyn yn cynnwys:

  • cario neu geisio prynu cyllell os ydych dan 18 oed
  • bygwth pobl gyda chyllell
  • cario cyllell sydd wedi'i gwahardd
  • llofruddiaeth drwy drywanu rhywun â chyllell
  • lladrad neu fwrgleriaeth a'r lladron wedi cario cyllell fel arf

Cario cyllell

Dim ond canran fach yw troseddau yn ymwneud â chyllyll yng nghyfanswm y troseddau a gyflawnir yn y DU bob blwyddyn, ond mae llawer o storïau wedi ymddangos ar y newyddion yn ddiweddar lle mae pobl ifanc wedi'u hanafu neu eu lladd gan rywun yn defnyddio cyllell fel arf.

Dywed rhai pobl eu bod yn cario cyllell i amddiffyn eu hunain neu i wneud eu hunain deimlo'n fwy diogel, er na fyddent yn ystyried ei defnyddio. Ond oeddech chi'n gwybod eich bod yn fwy tebygol mewn gwirionedd o ddod yn ddioddefwr trosedd os ydych yn cario cyllell? Gallai hyd yn oed gael ei defnyddio gan rywun arall i'ch niweidio chi.

Os hoffech gael gwybod mwy am amddiffyn eich hun, mae ffyrdd llawer haws a mwy diogel o wneud hynny.

Beth yw'r cyfreithiau ar droseddau â chyllyll yn y DU?

Mae nifer o wahanol reolau'n berthnasol i gyllyll, ac er nad yw bob amser yn amlwg beth sy'n gyfreithiol a beth sy'n anghyfreithlon, mae cyfres o gyfreithiau bellach sy'n ceisio gwneud y rheolau'n haws eu deall.

Dyma'r prif bethau y dylech fod yn ymwybodol ohonynt:

  • mae'n anghyfreithlon prynu bron pob math o gyllyll os ydych dan 18 oed
  • gellir cyhuddo unrhyw un dros 16 oed a mynd â nhw i'r llys os cânt eu dal gyda chyllell anghyfreithlon - hyd yn oed os mai dyma'r tro cyntaf iddynt gael ei stopio gan yr heddlu
  • os ydych dan 16 oed ac yn cael eich dal yn cario cyllell, gallech gael dedfryd gymunedol neu orchymyn cadw dan glo a hyfforddi
  • gallech gael eich archwilio unrhyw adeg os bydd plismon neu athro yn credu eich bod yn cario cyllell
  • hyd yn oed os ydych yn cario cyllell sy'n gyfreithlon (fel cyllell boced gyda llafn llai na thair modfedd), bydd yn anghyfreithlon os byddwch yn ei defnyddio fel arf i fygwth neu niweidio unrhyw un

Mae'r ddedfryd hiraf y gall unrhyw un a geir yn euog o gario cyllell anghyfreithlon yn bedair blynedd bellach. Os byddwch yn anafu rhywun neu'n defnyddio cyllell i droseddu gallai'r cosbau fod yn llawer gwaeth.

Beth allwch chi ei wneud

Os oes gennych wybodaeth am drosedd gyda chyllyll yn eich ardal chi, a'ch bod yn nerfus ynghylch mynd at yr heddlu, gallwch ffonio Taclo'r Taclau ar 0800 555 111. Fydd neb byth yn gofyn i chi am eich enw nac yn ceisio olrhain eich rhif ffôn.

Os oes gennych gyllell eisoes a'ch bod am gael gwared ohoni, efallai y byddwch am siarad ag oedolyn rydych yn ymddiried ynddo. Efallai y gall helpu i ddod o hyd i'r ffordd orau o gael gwared ohoni. Mae'n bosib yr hoffech hefyd gael gwybod pryd y mae eich gorsaf heddlu agosaf yn cynnal amnest cyllyll. Mae hyn yn golygu y gallwch roi'r gyllell nad ydych ei heisiau i'r heddlu yn ystod yr amnest heb orfod ateb cwestiynau.

Mae nifer o ymgyrchoedd gwrth-gyllyll lleol ar gael hefyd dan law'r heddlu a'r cynghorau ac mae'n bosib yr hoffech chi fod yn rhan o hyn. Maent yn trefnu gweithgareddau i dynnu sylw at y broblem, ac yn siarad â phobl sy'n byw yn yr ardal ynghylch sut mae mynd i'r afael â'r broblem.

Os oes gennych ddiddordeb, galwch heibio i'ch swyddfa heddlu agosaf i gael gwybod am grwpiau yn eich ardal.

Allweddumynediad llywodraeth y DU