Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Bydd troseddau sydd wedi'u cymell gan ragfarn a chasineb crefyddol yn cael eu trin yn ddifrifol. Bydd unrhyw un a geir yn euog o drosedd â chymhelliant crefyddol yn cael cosb fwy difrifol na rhywun sy'n cyflawni'r un trosedd heb ragfarn.
Bydd troseddau casineb crefyddol yn digwydd pan fydd rhywun yn dioddef ymosodiad neu fygythiad oherwydd eu crefydd neu eu cred. Er y gall casineb hiliol a chrefyddol fod yn debyg i bob golwg, mae'n bosib y bydd yr heddlu a'r llysoedd yn ymdrin yn wahanol â throseddau hiliol a throseddau crefyddol.
Nid yw troseddau casineb crefyddol yn cael eu hystyried yn droseddau yn yr un ffordd ag y mae troseddau hiliol a homoffobig.
Fodd bynnag, os cyflawnir trosedd yn erbyn rhywun oherwydd eu crefydd, fe ellid dehongli bod hynny hefyd yn ymosodiad ar eu hil. Mae hyn yn golygu y gellir ei drin fel ymosodiad â chymhelliant hiliol neu'n ymosodiad a waethygir oherwydd cymhelliant hiliol. Er enghraifft, mae llysoedd troseddol wedi penderfynu bod ymosodiadau ar Sikhiaid ac Iddewon yn ddigwyddiadau hiliol.
Os profir bod prif gymhelliant y troseddwr wedi'i seilio ar ragfarn neu ar eu casineb tuag at hil arall, yna gall y ddedfryd fod yn fwy difrifol nag ar gyfer yr un trosedd heb gymhelliant hiliol.
Mae dweud unrhyw beth neu gynhyrchu deunydd ysgrifenedig sy'n ceisio perswadio rhywun i gyflawni trosedd yn erbyn hil neu grup arall o bobl yn anghyfreithlon. Mae hyn yn golygu bod taflenni, papurau neu areithiau sy'n hyrwyddo troseddu yn erbyn pobl oherwydd eu crefydd yn erbyn y gyfraith. Gelwir hyn yn ysgogi casineb crefyddol.
Fodd bynnag, nid yw'n anghyfreithlon anghytuno â rhywun neu eu beirniadu oherwydd eu crefydd neu eu cred.
Os ydych chi wedi dioddef trosedd oherwydd eich crefydd, yna, dylech roi gwybod i'r heddlu cyn gynted ag y bo modd. Os profir bod y trosedd wedi'i gyflawni oherwydd rhagfarn grefyddol ai peidio, mae'n dal i fod yn drosedd ynddo'i hun.
Dylech hefyd sicrhau bod y digwyddiad yn cael ei riportio i'ch Uned Diogelwch Cymunedol leol. Mae gan bob heddlu yn y wlad un o'r unedau hyn a'u gwaith yw monitro a chofnodi nifer y troseddau casineb a gyflawnir yn eich ardal. Maent yn gweithio yn y gymuned i frwydro yn erbyn y broblem.
Mae cyfraith gwahaniaethu'n golygu bod rhaid i gyflogwyr sicrhau bod eu gweithwyr i gyd yn cael eu trin yn yr un ffordd â'i gilydd, waeth beth y bo'u cred grefyddol.
Bydd eich Swyddfa Cyngor ar Bopeth yn gallu dweud wrthych pa gamau y dylech eu cymryd os oes gennych achos gwahaniaethu crefyddol gennych yn erbyn eich cyflogwr.
Gallech hefyd geisio siarad ag ACAS sy'n darparu'r wybodaeth ddiweddaraf a chyngor annibynnol i weithwyr ddatrys problemau.