Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Bydd eich plentyn yn astudio amrywiaeth eang o bynciau yn yr ysgol gynradd. Gall gwybod am y Cwricwlwm Cenedlaethol yng Nghyfnod Allweddol 1 a 2, ac am y pynciau a ddysgir fod o help i chi gefnogi'ch plentyn ym myd addysg.
Trefnir y Cwricwlwm Cenedlaethol, a ddysgir i bob disgybl yn ysgolion y wladwriaeth neu ysgolion a gynhelir, yn flociau o flynyddoedd, a elwir yn gyfnodau allweddol:
Mae pynciau gorfodol y Cwricwlwm Cenedlaethol yr un fath ar gyfer Cyfnodau Allweddol 1 a 2:
Mae'n rhaid i ysgolion hefyd ddysgu addysg grefyddol, er bod gan rieni'r hawl i dynnu eu plant o'r cwricwlwm addysg grefyddol, naill ai'n rhannol neu'n gyfan gwbl. Yn ogystal â hyn, cynghorir ysgolion i ddysgu addysg iechyd, bersonol a chymdeithasol (AIBCh), dinasyddiaeth ac o leiaf un iaith dramor fodern.
Efallai bod ysgol eich plentyn yn cynnig y pynciau hyn dan enwau gwahanol, ac efallai eu bod yn dysgu mwy nag un pwnc gyda'i gilydd dan un enw. Penderfyniad yr ysgolion eu hunain yw hyn, cyn belled â'u bod yn dysgu'r hyn a gynhwysir yn y Cwricwlwm Cenedlaethol.
Yng Nghyfnod Allweddol 1, 2, a 3 y Cwricwlwm Cenedlaethol, ceir cyfres o wyth o lefelau. Fe'u defnyddir i fesur cynnydd eich plentyn o'u cymharu â disgyblion eraill o'r un oed â hwy ar draws y wlad.
Bydd pob ysgol yn asesu cynnydd eu disgyblion yn ystod y flwyddyn ysgol, er y bydd rhai'n gwneud mwy o ddefnydd o lefelau'r Cwricwlwm Cenedlaethol nag eraill. Fe gewch wybodaeth am y lefel y mae'ch plentyn wedi'i chyrraedd mewn nosweithiau rhieni-athrawon ac yn eu hadroddiadau ysgol.
Bydd eich plentyn yn cael ei asesu'n ffurfiol ar ddiwedd Cyfnodau Allweddol 1 a 2. Ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 1, bydd asesiad yr athro o gynnydd eich plentyn yn ystyried eu perfformiad mewn nifer o dasgau a phrofion Saesneg a mathemateg.
Ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 2, bydd yn rhaid i'ch plentyn sefyll profion cenedlaethol mewn Saesneg, mathemateg a gwyddoniaeth. Anfonir canlyniadau profion eich plentyn ac asesiad eu hathro o'r cynnydd y maent wedi ei wneud atoch chi.
Erbyn diwedd Cyfnod Allweddol 1, bydd y rhan fwyaf o blant wedi cyrraedd lefel 2, ac erbyn diwedd Cyfnod Allweddol 2, bydd y rhan fwyaf ar lefel 4.
Pecyn cymorth ar gyfer ysgolion cynradd sy’n anelu at eu helpu i godi safonau a chyflwyno’r Cwricwlwm Cenedlaethol yn fwy effeithlon yw’r Strategaeth Genedlaethol ar gyfer oed Cynradd.
Mae’r Fframwaith llythrennedd a mathemateg ar gyfer oed Cynradd yn rhan ganolog o’r strategaeth. Er canolbwyntir ar lythrennedd a mathemateg, gall ysgolion ddefnyddio’r dulliau y mae’n argymell i gefnogi addysgu, dysgu ac asesu ym mhob rhan o'r cwricwlwm.
Datblygu sgiliau llythrennedd
Yn ogystal â darllen ac ysgrifennu, mae llythrennedd yn ymwneud â datblygu sgiliau siarad a gwrando. Mae'r fframwaith llythrennedd yn annog athrawon i ddefnyddio dulliau amrywiol o ddysgu llythrennedd. Mae'n argymell cynnal gwersi llythrennedd pwrpasol yn rheolaidd, ond yn cydnabod y gall disgyblion hefyd ddatblygu sgiliau llythrennedd wrth ddysgu am bynciau eraill yn y cwricwlwm.
Mae'r fframwaith diwygiedig yn annog athrawon i roi mwy o bwyslais ar ddefnyddio ‘ffoneg’ (dysgu eich plentyn i adnabod y synau sy'n ffurfio rhannau o eiriau). Mae'r Strategaeth hefyd yn rhoi pwyslais ar eich rhan chi fel rhiant wrth helpu eich plentyn i ddatblygu eu sgiliau llythrennedd.
Datblygu sgiliau mathemateg
Mae’r fframwaith yn argymell gwers fathemateg bob dydd, ac yn rhoi canllawiau i ysgolion ar sut i ddatblygu sgiliau rhif eu disgyblion a'u ffordd fathemategol o feddwl.
Yn yr un modd â'r fframwaith llythrennedd, anogir ysgolion i ddefnyddio dulliau amrywiol o gyflawni hyn. Cyhoeddwyd ym mis Hydref 2006, mae fersiwn ddiweddaraf y fframwaith yn rhoi mwy o bwyslais ar fathemateg pen. Mae’n argymell y dylai plant ddysgu eu tablau, gan ganolbwyntio ar ddealltwriaeth a chymhwyso.
Mae’r strategaeth hefyd yn llunio cyfres o raglenni 'dal i fyny' cynhwysfawr wedi'u hanelu at helpu disgyblion ym Mlynyddoedd 3, 4, 5 a 6 sydd ar ei hôl hi o ran eu gwaith. Anogir rhieni i fod yn rhan o'r gwaith o ddatblygu sgiliau rhifedd eu plentyn gymaint â phosib.