Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Annog yfed yn synhwyrol

Bydd pobl ifanc yn gweld alcohol yn cael ei werthu ym mhob man, ac efallai y byddant yn gweld eu rhieni’n yfed alcohol hefyd. Gall hyn ei gwneud yn anodd iddynt ddeall y gall alcohol fod yn beryglus. Yma, cewch wybod sut i helpu’ch plentyn i feithrin agwedd iach at alcohol.

Yfed yn synhwyrol – canllawiau gan Brif Swyddog Meddygol Lloegr

Cynghorir rhieni a gofalwyr mai plentyndod heb alcohol yw’r opsiwn mwyaf iach a’r opsiwn gorau. Fodd bynnag, os bydd pobl ifanc yn yfed alcohol, mae’r Prif Swyddog Meddygol wedi cyhoeddi’r canllawiau canlynol:

  • ni ddylai pobl ifanc yfed alcohol o gwbl nes eu bod yn 15 mlwydd oed o leiaf
  • os bydd pobl ifanc rhwng 15 ac 17 mlwydd oed yn yfed alcohol, dylai bod hyn bob amser dan oruchwyliaeth rhiant neu ofalwr
  • os bydd pobl ifanc rhwng 15 ac 17 mlwydd oed yn yfed, ni ddylent yfed yn aml – yn bendant, dim mwy nag un diwrnod yr wythnos
  • ni ddylai pobl ifanc rhwng 15 ac 17 mlwydd oed fyth yfed mwy na’r terfyn dyddiol a argymhellir i oedolion

Terfynau dyddiol a argymhellir

Dywed canllawiau’r Llywodraeth na ddylai dynion yfed mwy na thair neu bedair uned alcohol y dydd. Cynghorir merched i beidio ag yfed mwy na dwy neu dair uned y dydd. Mae’r canllawiau’n wahanol am fod cyrff dynion yn gallu prosesu alcohol yn gyflymach na chyrff merched.

Mae’r canllawiau hyn ar gyfer oedolion, ond mae arbenigwyr iechyd y Llywodraeth yn argymell y dylai pobl ifanc eu dilyn hefyd, os byddant yn yfed. Fodd bynnag, gan fod pobl ifanc yn cymryd mwy o amser i brosesu alcohol, mae’n syniad da iddynt yfed llai, neu i beidio ag yfed o gwbl. Mae alcohol yn peri risgiau penodol i bobl ifanc dan 15, a’r cyngor yw na ddylai plant dan yr oedran hwn yfed o gwbl.

Sut caiff cynnwys alcohol ei fesur?

Caiff cynnwys alcoholig diodydd ei fesur mewn unedau. Bydd peint o lager fel arfer yn cynnwys ychydig dros 2 uned, a gall gwydraid o win gynnwys rhwng 1.5 a dros 3 uned. Bydd hyn yn dibynnu ar faint y gwydryn a chryfder y gwin.

Bydd diodydd alcoholig yn amrywio o ran cryfder a chyfaint hefyd, a bydd y cryfder a’r cyfaint bob amser yn cael eu dangos ar boteli a chaniau. Dangosir y cyfaint mewn mililitrau neu 'ml'. Dangosir y cryfder fel canran o alcohol – yn aml, defnyddir y byrfodd ‘ABV’ neu ‘vol’.

Mae’n rhwydd cyfrifo nifer yr unedau alcohol mewn diodydd. Y cyfan y bydd angen i chi ei wneud fydd lluosi’r cryfder â’r cyfaint, cyn rhannu â 1000.

Annog agwedd iach at alcohol

Wrth i blant dyfu, bydd eu hagwedd at alcohol yn cael ei lywio gan yr hyn y byddant yn ei weld, yn ei glywed ac yn ei brofi gartref. Efallai y bydd yr awgrymiadau canlynol yn helpu eich plentyn i feithrin agwedd iach at alcohol.

Beth all rhieni plant iau ei wneud

  • os bydd eich plentyn yn dangos diddordeb mewn alcohol, siaradwch am hynny – rhowch wybod iddynt am ochr negyddol ac ochr gymdeithasol yfed
  • sicrhewch na fydd plant yn yfed alcohol yn ddamweiniol na heb eich caniatâd chi – os bydd gennych alcohol yn y cartref, dylech ei gadw o gyrraedd plant
  • os byddwch yn yfed, gosodwch esiampl dda drwy yfed yn gymedrol – bydd hyn yn helpu eich plentyn i feithrin agwedd synhwyrol at alcohol
  • parchwch y gyfraith o ran pobl ifanc ac alcohol – peidiwch â phrynu alcohol i’ch plentyn os yw dan oed

Beth all rhieni plant hŷn ei wneud

Mae’n anodd gwybod pryd i roi caniatâd i blant yn eu harddegau yfed – nid oes oedran ‘cywir’ i’w gael. Fodd bynnag, os bydd eich plentyn wedi dechrau yfed, bydd yr awgrymiadau hyn yn ei helpu i yfed yn ddiogel:

  • gosodwch ffiniau clir i'ch plentyn, a byddwch yn gyson yn eu cylch
  • anogwch eich plentyn i gadw at frandiau cryfder is ac i beidio ag yfed yn rhy gyflym
  • ceisiwch beidio â gorymateb os bydd eich plentyn yn yfed yn groes i’ch ewyllys, neu os bydd yn yfed gormod
  • os bydd eich plentyn wedi yfed gormod, esboniwch sut rydych chi’n teimlo a’i annog i ddweud pam fod hyn wedi digwydd
  • cytunwch ar reolau ynghylch alcohol mewn partïon a gwnewch yn siŵr eich bod o gwmpas os yw'ch plentyn yn cael parti gartref
  • os yw’ch plentyn yn mynd i fod yn yfed, rhowch fwyd sy’n cynnwys starts iddo (fel bara neu basta) fel na fydd yn yfed ar stumog wag
  • peidiwch â gadael i'ch plentyn gael ei demtio gartref gan eich stoc bersonol chi o alcohol (yn enwedig gwirodydd)
  • sicrhewch fod gan eich plentyn ffordd o ddod adref yn ddiogel yn y nos

A fydd fy mhlentyn yn dysgu unrhyw beth am alcohol yn yr ysgol?

Bydd addysg alcohol yn cael ei gynnig ym mhob ysgol yn Lloegr ochr yn ochr ag addysg cyffuriau. Bydd eich plentyn yn cael gwybodaeth gywir ynghylch alcohol yn yr ysgol. Diben hyn yw rhoi i'ch plentyn y sgiliau y bydd arno/i eu hangen er mwyn gwneud dewisiadau diogel a chyfrifol.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU