Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Ni fydd effeithiau alcohol ar bobl ifanc yr un fath ag effeithiau alcohol ar oedolion. Gall camddefnyddio alcohol beri risgiau i iechyd a gall achosi ymddygiad diofal mewn pobl o bob oed, ond mae hyd yn oed yn fwy peryglus i bobl ifanc. Yma, cewch wybod sut gall alcohol effeithio ar iechyd ac ymddygiad pobl ifanc.
Am fod cyrff pobl ifanc yn dal i dyfu, gall alcohol amharu ar eu datblygiad. Mae hyn yn gadael pobl ifanc yn agored i niwed tymor hir a achosir gan alcohol. Gall y niwed hwn gynnwys y canlynol:
Mae ymchwil hefyd yn awgrymu y gall yfed alcohol yn ystod llencyndod niweidio datblygiad yr ymennydd.
Mae’n bosib bod nifer o bobl ifanc yn credu y bydd unrhyw niwed i'w hiechyd a achosir gan yfed alcohol yn digwydd mor bell yn y dyfodol fel nad yw’n werth poeni amdano. Fodd bynnag, mae cynnydd sylweddol wedi bod yn nifer y bobl yn eu hugeiniau sy’n marw oherwydd clefyd yr iau/afu, o ganlyniad i yfed yn drwm yn eu harddegau.
Mae pobl ifanc sy’n yfed hefyd yn llawer mwy tebygol o fod mewn damwain, ac o ganlyniad, yn gorfod mynd i'r ysbyty.
"Mae un merch 14 i 15 oed o bob pump yn mynd ymhellach nag yr oedd arni eisiau mewn profiad rhywiol ar ôl yfed alcohol"
Bydd swildod pobl yn lleihau wrth yfed alcohol, a bydd yfed yn peri iddynt fod yn fwy tebygol o wneud pethau na fyddent yn eu gwneud fel arall. Mae hyn yn peri perygl penodol i bobl ifanc, sydd yn y cyfnod hwnnw o’u bywydau lle maent yn dal i brofi terfynau ymddygiad derbyniol.
Mae un merch 14 i 15 oed o bob pump (ac un bachgen o bob deg) yn mynd ymhellach nag yr oedd yn dymuno mewn profiad rhywiol ar ôl yfed alcohol. Yn yr achosion mwyaf difrifol, gall alcohol eu harwain at fod yn ddioddefwyr ymosodiad rhywiol.
Os bydd pobl ifanc yn yfed alcohol, maent yn fwy tebyg o fod yn ddi-hid ac i beidio â defnyddio dull atal cenhedlu os byddant yn cael rhyw. Mae bron i un bachgen 15 i 16 oed o bob deg a thua un merch 15 i 16 oed o bob wyth yn cael rhyw anniogel ar ôl yfed alcohol. Mae hyn yn eu rhoi mewn perygl o gael heintiau rhywiol ac o feichiogi’n anfwriadol.
Mae ymchwil yn dangos y bydd merch sy’n yfed alcohol fwy na dwywaith mor debygol o feichiogi'n anfwriadol na merch nad yw'n yfed.
"Mae mwy nag un unigolyn yn ei arddegau o bob tri sy’n yfed alcohol o leiaf unwaith yr wythnos wedi cyflawni trosedd dreisgar megis lladrad neu ymosodiad"
Mae alcohol yn amharu ar y ffordd y mae pobl yn meddwl, ac mae’n eu gwneud yn llawer mwy tebygol o ymddwyn yn ddiofal. Os bydd pobl ifanc yn yfed alcohol, byddant yn fwy tebygol o roi eu hunain mewn sefyllfaoedd peryglus.
Er enghraifft, byddant yn fwy tebygol o ddringo waliau neu fannau uchel eraill a chwympo. Neu, gallant ymosod yn eiriol ar rywun a allai eu bwrw. Maent hefyd yn fwy tebygol o ymddwyn yn ymosodol eu hunain a rhoi dyrnod i rywun arall.
Mae pedwar plentyn o bob deg yn yr ysgol uwchradd wedi bod yn rhan o ryw fath o drais o ganlyniad i alcohol. Gall hyn olygu eu bod wedi cael crasfa neu fod rhywun wedi dwyn oddi arnynt ar ôl iddynt fod yn yfed, neu efallai eu bod wedi ymosod ar rywun eu hunain.
Os bydd plentyn neu unigolyn ifanc yn yfed alcohol, bydd yn fwy tebygol o fynd i drwbl gyda’r heddlu. Bob blwyddyn, rhoddir mwy na 10,000 o ddirwyon i bobl ifanc 16 i 19 oed, am fod yn feddw ac yn afreolus.
Mae plant mor ifanc â 12 mlwydd oed yn cael eu cyhuddo o wneud difrod troseddol i eiddo pobl eraill o ganlyniad i yfed.
Mae pobl ifanc sy’n meddwi o leiaf unwaith y mis ddwywaith yn fwy tebygol o gyflawni trosedd na’r rheini nad ydynt yn meddwi. Mae mwy nag un unigolyn yn ei arddegau o bob tri sy’n yfed alcohol o leiaf unwaith yr wythnos wedi cyflawni trosedd dreisgar megis lladrad neu ymosodiad.
Mae pobl ifanc sy’n ymwneud â throsedd hefyd yn fwy tebygol o gael cofnod troseddol. Gall hyn niweidio eu rhagolygon am weddill eu bywydau. Gall cael cofnod troseddol eithrio pobl o rai swyddi ac, am rai troseddau, eu rhwystro rhag teithio dramor.
Pan fydd pobl ifanc yn yfed, bydd yn cymryd mwy o amser i’r alcohol fynd o'u systemau nag y byddai mewn oedolion. Felly, os bydd pobl ifanc yn yfed alcohol ar noson ysgol, efallai na fyddant yn gwneud cystal mewn gwersi y diwrnod wedyn.
Mae pobl ifanc sy’n yfed alcohol yn rheolaidd ddwywaith yn fwy tebygol o fethu ysgol a chael graddau gwael na’r rheini nad ydynt yn yfed. Mae bron i hanner y bobl ifanc sy’n cael eu diarddel o’r ysgol yn yfed alcohol yn rheolaidd.