Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae amrywiaeth o leoedd y gallwch gael cymorth os ydych yn dod â phartneriaeth sifil i ben, gan gynnwys cyfreithwyr a chyfryngwyr proffesiynol.
Nid oes raid i chi ddefnyddio twrnai; mae nifer o barau yn cael diddymiad heb ymgynghori â thwrnai. Ond efallai y bydd angen cyngor cyfreithiol arnoch os oes plant, materion ariannol neu faterion eraill yn gysylltiedig.
Gelwir y broses o gael trefn ar ochr ariannol y diddymiad yn 'llareiddiad ategol'. Ni fydd eiddo'n cael ei rannu'n awtomatig mewn rhaniad 50/50 bob tro. Os byddwch yn mynd i lys bydd y barnwr yn ystyried nifer o ffactorau wrth benderfynu pwy ddylai gael beth, ond anghenion unrhyw blant fydd y brif ystyriaeth bob amser.
Gall y Ganolfan Cyngor ar Bopeth eich cynorthwyo i lenwi'r ffurflenni angenrheidiol, a gallant eich helpu i ddod o hyd i dwrnai, os oes angen un arnoch.
Os ydych yn barod i gyfathrebu a thrafod gyda'ch cyn bartner ynghylch materion fel gofal eich plant a rhannu eiddo ac arian, yna gallai cyfryngu eich helpu i ddatrys problemau rhyngoch ac i osgoi dadlau a chostau. Fe allwch ofyn i gyfryngwr teulu hyfforddedig fod yn drydydd parti diduedd; byddan nhw'n helpu cyplau i gytuno heb 'ochri' efo neb.
Gallwch ddod o hyd i wasanaethau cyfryngu yn eich ardal chi drwy ymweld â gwefan y Llinell Gyfryngu i Deuluoedd, neu drwy ffonio'r Llinell Gyfryngu i Deuluoedd ar 0845 60 26 627.