Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Pan fydd perthynas rhwng cwpl a chanddynt blant yn chwalu, weithiau hapusrwydd y plant fydd yn dioddef fwyaf. Yma, cewch wybod sut mae gwasanaethau Cyfryngu Teuluol Cenedlaethol wedi helpu rhieni Kelly i setlo pethau rhyngddynt, gan olygu y gall y ddau ohonynt chwarae rhan lawn ym mywyd Kelly.
I chwarae'r fideo hwn mae arnoch angen Adobe Flash Player fersiwn 9 neu uwch ar eich cyfrifiadur ac mae'n rhaid i chi fod wedi galluogi JavaScript ar eich porwr. Mae ein tudalen Help gyda ffeiliau fideo yn rhoi cyngor os nad ydych yn sicr sut mae gwneud hyn. Mae'r meddalwedd Flash yn rhad ac am ddim.
Yma, gallwch gael gwybod mwy am sut mae cyfryngu teuluol yn gweithio, sut y gall eich helpu chi, a sut i ddod o hyd i wasanaethau cyfryngu.
Bob blwyddyn, bydd miloedd o deuluoedd yn wynebu heriau gwahanu ac ysgariad. Ond er gwaethaf y boen a’r trawma, gall pawb gytuno nad ein plant sydd ar fai. Ni ddylai plant ddioddef pan fydd eu rhieni’n gwahanu, ac mae hyn yn rhan ganolog o gyfryngu teuluol.
"Wel, pan wahanodd mam a dad am y tro cyntaf, doedden nhw ddim yn siarad â’i gilydd, roedden nhw’n gweiddi drwy’r amser ac yn methu cytuno ar ddim byd – ond bydd hyn yn wych oherwydd mae dad yn dod i fy mharti felly rydw i’n edrych ymlaen yn fawr at hynny."
"Mae cyfryngu wedi bod yn help mawr i ni ddechrau cyfathrebu eto, sy’n bwysig iawn i Kelly. Mae ei phen-blwydd hi yfory, ac mae hi’n edrych ymlaen yn fawr at allu treulio’r diwrnod gyda’i thad."
Dyma Jeff, tad Kelly
"Roedden ni wedi bod yn byw gyda’n gilydd ers mor hir, roedden ni’n anghytuno am bob math o bethau. Mae yna bob math o, ym, fân bethau sydd ddim yn ymddangos yn bwysig wrth i chi fynd drwy’r holl stwff emosiynol mawr, ond dyna’r math o bethau sy’n eich baglu’n nes ymlaen."
"Pan oedd popeth yn iawn gyda’r berthynas, dydych chi ddim yn meddwl ymlaen; mae bod yn bensiynwr yn teimlo mor bell i ffwrdd, ond roedd Jeff wedi bod yn talu am bensiwn ers 15 mlynedd a doedd gen i ddim pensiwn, felly doedd gen i ddim gobaith o gau’r bwlch pa mor galed bynnag y byddwn i’n gweithio."
"Gyda chymorth y cyfryngwr, roedden ni’n gallu edrych ar y peth yn fwy gofalus am wn i, ar y ddwy ochr, a chawsom gytundeb tecach lle cafodd fy ngwraig ychydig mwy o ecwiti yn y tŷ, ac roedd hynny’n ymddangos yn decach i bawb."