Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Beth sy'n digwydd ar ôl i chi wneud cais am orchymyn llys ynghylch plant

Os ydych yn gwneud cais i lys am drefniadau ar gyfer eich plant yn y dyfodol, efallai y gallwch gael eich annog i ddod i gytundeb ymysg eich gilydd. Ond os na fydd hyn yn digwydd, daw'r barnwr neu'r ynad i benderfyniad. Mynnwch wybod beth mae barnwyr ac ynadon yn ei ystyried a sut mae'r broses yn gweithio.

Yr apwyntiad cyntaf â'r llys

Os ydych wedi gwneud cais am orchymyn llys, bydd y llys yn trefnu apwyntiad cyntaf gyda'r ddau riant. Caiff hyn ei alw'n 'wrandawiad cyfarwyddiadau' weithiau.

Fel arfer, bydd Cynghorydd Llys Teulu o'r Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd (Cafcass) yn bresennol yn y gwrandawiad hwn.

Bydd Cafcass hefyd yn ysgrifennu atoch cyn y gwrandawiad, yn anfon gwybodaeth atoch ac fel arfer yn rhoi galwad ffôn i chi hefyd.

Yn y gwrandawiad llys hwn, bydd barnwr neu ynad yn asesu'r achos. Bydd yn ceisio gweithio'r pethau canlynol allan:

  • beth y gallwch gytuno arno
  • beth na allwch gytuno arno
  • p'un a yw eich plant mewn perygl mewn unrhyw ffordd

Byddant hefyd yn eich annog i ddod i gytundeb yn y gwrandawiad hwn os mai dyma sydd orau i'r plant.

Os gallwch gytuno - ac nad oes pryderon am ddiogelwch na lles y plant - gall y barnwr a'r ynad ddod â'r broses i ben yn y fan a'r lle.

Weithiau gwnaiff y barnwr neu'r ynad orchymyn y mae'r ddau riant yn cytuno ag ef. Neu, weithiau, bydd y cytundeb rhwng y rhieni yn golygu nad oes angen gorchymyn - er y bydd y barnwr neu'r ynad yn cofnodi'r cytundeb.

Os na allwch ddod i gytundeb yn y gwrandawiad llys cyntaf

Os na ddewch i gytundeb yn yr apwyntiad cyntaf, bydd y barnwr neu'r ynad yn pennu amserlen ar gyfer beth sy'n digwydd nesaf.

Weithiau, bydd barnwr neu ynad yn gofyn i chi geisio dod i gytundeb eto. Gall hyn fod gyda chyfryngwr neu swyddog Cafcass.

Efallai y cewch eich gorchymyn i ddilyn 'Rhaglen Gwybodaeth i Rieni sydd wedi Gwahanu'. Sesiynau dwyawr gyda rhieni eraill yw'r rhain (ond ni fydd eich cyn-bartner yn yr un sesiynau â chi).

Gall barnwr neu ynad hefyd ofyn am achos gael ei ohirio, a hynny er mwyn rhoi amser i swyddog Cafcass lunio adroddiad ar yr achos.

Gall barnwr neu ynad hefyd drefnu amser a dyddiad ar gyfer gwrandawiad terfynol er mwyn penderfynu ar y gorchmynion.

Os gallwch ddod i gytundeb ar unrhyw gam, bydd hyn fel arfer yn atal y broses os bydd y barnwr neu'r ynad yn cytuno.

Sut mae adroddiad Cafcass yn gweithio

Os bydd y barnwr neu'r ynad yn gofyn i swyddog Cafcass lunio adroddiad, bydd y swyddog yn ceisio dysgu beth fyddai orau i'r plentyn.

Gall gymryd amser i'r adroddiad gael ei gwblhau. Mae hyn yn dibynnu ar ba mor gymhleth yw'r materion perthnasol. Yn y rhan fwyaf o achosion, caiff adroddiadau eu llunio o fewn wyth i 15 wythnos.

Bydd y swyddog Cafcass yn holi eich plentyn am beth mae am ei wneud a'i deimladau.

Os cytunwch, efallai y bydd hefyd yn siarad â'r bobl ganlynol:

  • meddygon
  • athrawon
  • perthnasau
  • ymwelwyr iechyd
  • gweithwyr cymdeithasol

Pan fydd yr adroddiad wedi'i gwblhau, bydd y swyddog Cafcass yn anfon copïau atoch (neu'ch cyfreithiwr, os oes gennych un).

Mae'r adroddiad yn gwbl gyfrinachol. Ni chewch ei ddangos i neb arall heb gael caniatâd y llys yn gyntaf, heblaw am:

  • eich cyfreithiwr (os oes gennych un)
  • rhywun nad yw wedi'i gymhwyso'n gyfreithiol ond a all fod yn eich helpu gyda'ch achos (fel cynghorydd o grŵp cymorth neu ffrind a all eich cefnogi yn y llys)

Y wybodaeth y bydd adroddiad Cafcass yn ei chynnwys

Bydd yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth y mae'r swyddog Cafcass wedi'i chasglu amdanoch, eich plant o'r bobl eraill a restrir uchod.

Bydd yr adroddiad bob tro'n canolbwyntio ar beth sydd orau i'r plentyn ym marn Cafcass.

Bydd y barnwr neu'r ynad yn rhoi sylw manwl i'r wybodaeth a'r cyngor a roddir yn yr adroddiad a gall ofyn am fwy o adroddiadau yn ôl yr angen.

Beth fydd barnwyr ac ynadon yn ei ystyried

Yn ôl y gyfraith, rhaid i farnwyr ac ynadon roi lles plant yn gyntaf bob tro. Byddant yn ystyried y canlynol:

  • dymuniadau a theimladau'r plentyn (o ystyried eu hoedran)
  • anghenion corfforol, emosiynol ac addysgol y plant
  • yr effaith y gall unrhyw newidiadau eu cael ar y plentyn
  • oedran, rhywedd, cefndir a nodweddion perthnasol eraill y plentyn
  • y posibilrwydd y caiff y plentyn ei niweidio
  • gallu'r rhieni i ddiwallu anghenion y plentyn
  • gorchmynion y mae gan y llys y pŵer i'w cyflwyno

Bydd barnwr neu ynad ond yn cyflwyno gorchymyn os ydynt o'r farn mai dyma sydd orau i'r plentyn.

Os ydych yn anghytuno â gorchymyn

Os ydych yn anghytuno â gorchymyn sydd wedi'i gyflwyno, dylech gael cyngor cyfreithiol am y camau nesaf y dylech eu cymryd.

Additional links

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU