Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Efallai y bydd eich hawl i gael Cymhorthdal Incwm yn dod i ben pan fydd eich plentyn yn cyrraedd oed arbennig, os ydych ond yn hawlio oherwydd eich bod yn rhiant unigol. Fodd bynnag efallai y bydd gennych hawl i fudd-daliadau a chymorth eraill.
Ar 24 Tachwedd 2008 cyflwynwyd newidiadau i Gymhorthdal Incwm ar gyfer rhai rhieni unigol. Unwaith y bydd eich plentyn ieuengaf yn cyrraedd oedran penodol, gall eich hawl i gael Cymhorthdal Incwm ddod i ben os ydych ond yn hawlio oherwydd eich bod yn rhiant unigol.
Yn lle hynny bydd yn rhaid i chi wneud cais am fudd-dal arall, ac os ydych yn gallu, byddwch yn cael ei hannog i chwilio am waith a thâl. Bydd y Ganolfan Byd Gwaith yn rhoi cefnogaeth i chi gyda hyn.
Ni fydd y newidiadau hyn yn berthnasol i chi os ydych yn cael Cymhorthdal Incwm am resymau ychwanegol. Er enghraifft os ydych:
Efallai bod rhesymau eraill pam nad yw’r newidiadau hyn yn berthnasol i chi. Os nad ydych yn sicr, gofynnwch i’ch ymgynghorydd y Ganolfan Byd Gwaith.
Newidiadau sydd wedi’u cyflwyno’n raddol dros y tair blynedd ddiwethaf:
O Mai 2012, os yw eich plentyn ieuengaf yn bump oed neu’n hŷn, neu’n dod yn bump oed y flwyddyn honno, gall eich Cymhorthdal Incwm ddod i ben yn ystod y flwyddyn honno.
Bydd y Ganolfan Byd Gwaith yn cysylltu â chi cyn y disgwylir i’ch Cymhorthdal Incwm ddod i ben i ddweud wrthych pryd bydd eich taliad olaf yn ddyledus. Bydd y Ganolfan Byd Gwaith hefyd yn eich gwahodd am gyfweliad gydag ymgynghorydd, a fydd yn egluro beth fydd angen i chi ei wneud er mwyn gwneud cais am fudd-dal arall os nad ydych wedi dod o hyd i waith a thâl.
Mae’n bwysig iawn eich bod yn mynd i’r cyfweliad hwn er mwyn i chi allu parhau i gael y budd-daliadau cywir a’r gefnogaeth ariannol os ydych ei angen.
Ni fydd y rhan fwyaf o rieni unigol sydd â phlentyn ieuengaf sy’n saith oed neu’n hŷn, sy’n gwneud cais newydd neu ail-gais, bellach yn gymwys i gael Cymhorthdal Incwm ar y sail eu bod yn rhiant unigol.
O 21 Mai 2012, caiff hwn ei ehangu i’r rhan fwyaf o rieni unigol sydd â phlentyn ieuengaf sy’n bump oed neu’n hŷn.
Os nad ydych wedi dod o hyd i waith pan ddaw eich Cymhorthdal Incwm i ben, neu os bydd angen i chi wneud cais newydd fel rhiant unigol, gallwch wneud cais am unai Lwfans Ceisio Gwaith neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth.
Lwfans Ceisio Gwaith yw’r prif fudd-dal ar gyfer pobl ddi-waith . I’w gael mae’n rhaid i chi fod ar gael i weithio ac wrthi’n chwilio am waith. Fel rhiant gyda phlentyn ieuengaf 12 oed neu lai, mae gennych yr hawl i gyfyngu’r oriau rydych ar gael i weithio. Golyga hyn ni fydd disgwyl i chi weithio y tu allan i oriau ysgol arferol eich plentyn. Gall eich ymgynghorydd roi mwy o wybodaeth i chi.
Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yw’r prif fudd-dal ar gyfer pobl nad ydynt yn gallu gweithio oherwydd cyflwr iechyd neu anabledd.
Telir Credyd Treth Plant gan Gyllid a Thollau EM ac mae’n disodli’r elfen sy’n berthnasol i blant sydd efallai’n cael ei dalu gyda’ch Cymhorthdal Incwm. I gael Credyd Treth Plant mae’n rhaid cwblhau ffurflen gais. Gall eich ymgynghorydd eich helpu i gwblhau’r ffurflen gywir.
Mae’r Ganolfan Byd Gwaith wedi cynhyrchu taflen ffeithiau sy'n rhoi gwybodaeth i chi am Lwfans Ceisio Gwaith a hyblygrwydd ar gyfer rhieni unigol.