Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cymhorthdal Incwm – sut i wneud cais a faint y gallwch ei gael

Gallwch wneud cais am Gymhorthdal Incwm dros y ffôn, drwy ddefnyddio ffôn testun neu drwy lawrlwytho ffurflen gais . I wneud hynny, mae angen i chi ddweud wrth y Ganolfan Byd Gwaith am eich incwm, ble rydych yn byw a phwy sy'n byw gyda chi. Dewch o hyd i fwy o wybodaeth, gan gynnwys faint y gallech ei gael.

Sut i wneud cais am Gymhorthdal Incwm

Gallwch wneud cais am Gymhorthdal Incwm dros y ffôn, drwy ddefnyddio ffôn testun neu drwy lawrlwytho ffurflen gais.

Gwneud cais dros y ffôn neu ffôn testun

Os byddwch yn gwneud cais dros y ffôn neu drwy ddefnyddio ffôn testun. Bydd ymgynghorydd yn y ganolfan gyswllt yn edrych ar y ffurflen gais gyda chi a’i llenwi. Ni fydd yn rhaid i chi lenwi unrhyw ffurflenni eich hun.

Mae’r llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 8.00am a 6.00pm.

Ffôn: 0800 012 1888

Ffôn testun: 0800 023 4888

Gallwch hefyd wneud cais yn Saesneg.

Ffôn: 0800 055 6688

Yn ystod yr alwad, bydd y Ganolfan Byd Gwaith yn gofyn i chi ddarparu gwybodaeth, gan gynnwys:

  • eich Rhif Yswiriant Gwladol
  • manylion eich cyfrif banc
  • manylion am eich rhent neu forgais
  • manylion eich cyflogwr blaenorol neu gyflogwr presennol
  • manylion incwm arall a chynilion

Costau galwadau

Mae galwadau i rifau 0800 am ddim o linellau tir BT, ond mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu os ydych:

  • yn defnyddio cwmni ffôn arall
  • yn defnyddio ffôn symudol (ac eithrio O2, Orange, Vodafone, T-Mobile, Virgin Media a Tesco Mobile)
  • yn ffonio o dramor

Gall galwadau o ffonau symudol gostio hyd at 40c y funud, felly holwch eich darparwr gwasanaeth beth fydd cost y galwadau.

Lawrlwytho ffurflen gais

Gallwch lawrlwytho ffurflen gais i’w chwblhau ar y sgrîn

Faint y gallwch ei gael

Mae faint o Gymhorthdal Incwm y gallwch ei gael yn cynnwys tair rhan wahanol:

  • lwfansau personol
  • premiymau
  • taliadau i dalu costau tai penodol

Dengys swm y lwfansau personol yn y tabl isod:

Math o berson

Swm wythnosol

Person sengl

Rhwng 16 a 24 oed

£56.25

25 oed neu drosodd

£71.00

Rhiant unigol

Rhwng 16 a 17 oed

£56.25

18 oed neu drosodd

£71.00

Cwpl

Gyda’r ddau berson o dan 18 oed

£56.25

Gydag un person o dan 18 oed a’r llall rhwng 18 a 24 oed

£56.25

Gydag un person o dan 18 oed a’r llall dros 25 oed

£71.00

Gyda’r ddau berson dros 18 oed

£111.45

Er mwyn cael gwell syniad o faint o Gymhorthdal Incwm y byddech yn ei gael, defnyddiwch y cynghorydd budd-daliadau ar-lein

Sut mae Cymhorthdal Incwm yn cael ei dalu

Caiff pob budd-dal, pensiwn a lwfans ei dalu i mewn i gyfrif. Dyma’r ffordd fwyaf diogel, cyfleus ac effeithlon o gael ei dalu.

Lle rydych yn byw

Gallwch barhau i hawlio Cymhorthdal Incwm os ydych yn:

  • cysgu ar y stryd
  • byw mewn hostel
  • byw mewn cartref gofal

Ni all pobl ifanc sydd o dan ofal awdurdod lleol gael Cymhorthdal Incwm.

Pan fyddwch yn hawlio Cymhorthdal Incwm, rhaid i chi fod ym Mhrydain Fawr ac fel arfer byw yno. Os ydych wedi symud yma i wneud cartref sefydlog, mae’n cyfrif fel eich bod yn byw yma.

Ni ddylech fod o dan reolaeth mewnfudo.

Mae rhai eithriadau i'r rheolau hyn. Cysylltwch â'r Ganolfan Byd Gwaith i gael rhagor o wybodaeth.

Cymhorthdal Incwm – pwy sy’n gymwys

Cael gwybod mwy ynghylch y rheolau ar gyfer hawlio Cymhorthdal Incwm ac os ydych chi’n gymwys.

Newidiadau yn eich bywyd

Dywedwch wrth y Ganolfan Byd Gwaith ar unwaith os bydd rhywbeth yn newid a allai effeithio ar eich Cymhorthdal Incwm. Er enghraifft, dywedwch wrth y Ganolfan Byd Gwaith os ydych chi neu’ch partner yn gwneud unrhyw un o'r canlynol:

  • symud cartref, (neu bobl eraill sy’n symud i mewn neu’n gadael eich cartref)
  • newid y cyfrif y mae’r Ganolfan Byd Gwaith yn talu budd-daliadau i mewn iddo
  • newid yn eich incwm - gan gynnwys cynhaliaeth acenillion rhan-amser
  • gweithio mwy neu lai o oriau
  • yn mynd yn sâl
  • rhaid i chi aros yn yr ysbyty
  • yn cael mwy neu lai o fudd-daliadau eraill

Os nad ydych yn sicr a ddylech hysbysu’r Ganolfan Byd Gwaith am newid, dylech ei wneud beth bynnag.

Os nad ydych, gallech golli allan ar arian y dylech ei gael. Neu gallech gael gormod o arian, ac yn gorfod ei ad-dalu.

Os credwch fod penderfyniad y Ganolfan Byd Gwaith yn anghywir

Gallwch ofyn i'r Ganolfan Byd Gwaith edrych ar y penderfyniad eto:

  • os gwrthodwyd eich cais
  • os credwch fod eich budd-dal wedi cael ei gamgyfrifo

Additional links

Cyngor am fudd-daliadau ar-lein

Cael cyngor am fudd-daliadau ar-lein drwy ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein hwn i ateb cwestiynau am eich sefyllfa

Peidiwch â chael eich cnoi...

Ydych chi wedi cael eich cysylltu gan siarc benthyg? Gallwch riportio benthycwyr didrwydded

Allweddumynediad llywodraeth y DU