Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Cael gwybod beth yw eich statws cyflogaeth: gweithwyr asiantaeth

Os nad ydych chi’n siŵr a ydych chi’n ‘gyflogai’, yn ‘weithiwr’ ynteu’n ‘hunangyflogedig’, gallwch ddarllen y datganiadau isod i’ch helpu i benderfynu. Os ydych chi’n credu bod y rhan fwyaf o’r datganiadau’n berthnasol i chi, mae’n debyg mai gweithiwr ydych chi.

Gweithwyr asiantaeth neu weithwyr ‘dros dro’

Os ydych chi’n cytuno â’r rhan fwyaf o’r datganiadau isod, mae’n debyg iawn mai gweithiwr ydych chi.

  • rydych yn ymgymryd â gwaith ar gyfer busnes (neu amryfal fusnesau) drwy asiantaeth recriwtio (a elwir hefyd yn ‘fusnes cyflogaeth’)
  • mae eich contract gyda’r asiantaeth recriwtio yn nodi nad ydych yn gyflogai i'r asiantaeth
  • nid yw eich contract gyda’r asiantaeth recriwtio yn gwarantu y bydd yn dod o hyd i waith i chi
  • gallwch benderfynu a ydych am dderbyn y gwaith ynteu ei wrthod
  • mae’r asiantaeth cyflogaeth yn talu eich cyflog ac yn didynnu treth ac Yswiriant Gwladol ohono
  • mae’r asiantaeth cyflogaeth yn eich talu pan fyddwch ar eich gwyliau neu yn eich talu yn lle gwyliau a gronnwyd ar ddiwedd eich contract
  • gallwch adael yr asiantaeth cyflogaeth neu aseiniad penodol gan roi dim ond ychydig o rybudd neu ddim rhybudd o gwbl
  • gall y sawl a fydd yn eich cyflogi (e.e. defnyddiwr yr asiantaeth, sef y busnes y byddwch yn gweithio iddo) roi terfyn ar aseiniad gan roi dim ond ychydig o rybudd neu ddim rhybudd o gwbl
  • rydych chi wedi ymuno â nifer o asiantaethau cyflogi
  • rydych yn gweithio ar amrywiaeth o aseiniadau drwy gydol y flwyddyn ar gyfer gwahanol gwmnïau

Fel arfer, mae’r diffyg rheolaeth o ddydd i ddydd gan yr asiantaeth pan fyddwch yn gweithio ar aseiniad yn eich atal rhag bod yn gyflogai i’r asiantaeth. Yn yr un modd, nid ydych yn gyflogai i’r busnes rydych yn gweithio iddo, gan nad oes yn rhaid cynnig na derbyn gwaith.

Fel gweithiwr asiantaeth, mae gofynion arbennig ar yr asiantaeth recriwtio i ddidynnu treth ac Yswiriant Gwladol o’ch cyflog. Nid yw hyn yn golygu eich bod yn gyflogai.

Gallai gweithiwr asiantaeth gael cynnig contract cyflogaeth gan asiantaeth recriwtio, ac yna, byddai'n gyflogai i'r asiantaeth.

Mae’r datganiadau uchod yn defnyddio'r enghraifft o waith a wneir ar gyfer ‘cwmni’. Fodd bynnag, maent yr un mor berthnasol os ydych chi’n gweithio i fasnachwr unigol, i bartneriaeth neu i unrhyw ffurf arall o sefydliad busnes.

Sefyllfa enghreifftiol

Os nad ydych chi’n siŵr a ydych chi’n weithiwr asiantaeth, gallwch ddarllen y sefyllfa enghreifftiol. Os yw’n disgrifio rhywbeth sy'n debyg i'ch trefniadau gweithio chi, mae'n debyg mai gweithiwr asiantaeth ydych chi.

Caiff Amelia ei chyflogi gan asiantaeth recriwtio ar y stryd fawr sy’n talu ei chyflog. Mae’n gweithio ar aseiniadau dros dro mewn swyddfeydd, gan weithio yn lle cyflogeion sy’n sâl neu sydd ar eu gwyliau. Mae wedi gweithio i nifer o gwmnïau drwy’r asiantaeth, ac mae hi weithiau’n derbyn gwaith drwy asiantaeth arall. Mae ei hasiantaeth yn darparu manylion swyddi penodol i Amelia, a gall Amelia yna ddewis derbyn y swyddi ai peidio. Weithiau, ni all ei hasiantaeth gynnig ddim gwaith iddi.

Hawliau cyflogaeth ar gyfer gweithwyr asiantaeth

Yn yr un modd â ‘gweithwyr’ eraill, bydd gennych yr hawl i gael Tâl Salwch, Mamolaeth, Tadolaeth a Mabwysiadu Statudol lle bo hynny’n briodol. Hefyd, ceir hawliau ychwanegol ar gyfer gweithwyr asiantaeth, er mwyn eich gwarchod pan fyddwch yn defnyddio asiantaethau cyflogaeth.

Ble i gael cymorth

Os nad yw’r enghraifft na’r datganiadau yn disgrifio eich sefyllfa waith, rhowch gynnig ar ddarllen yr erthyglau eraill yn yr adran hon.

Os ydych chi wedi darllen yr erthyglau eraill ac yn dal i fod yn ansicr, cysylltwch ag Acas (y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu). Bydd Acas yn gallu cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd, yn rhad ac am ddim, am bob mater sy’n ymwneud â chyflogaeth, gan gynnwys statws gwaith.

Allweddumynediad llywodraeth y DU