Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Cael gwybod beth yw eich statws cyflogaeth: contractau cyfnod penodol neu dymhorol

Os nad ydych chi’n siŵr a ydych yn ‘gyflogai’, yn ‘weithiwr’ ynteu’n ‘hunangyflogedig’, gallwch ddarllen y datganiadau isod i’ch helpu i benderfynu. Os ydych chi’n credu bod y rhan fwyaf o’r datganiadau’n berthnasol i chi, mae’n debygol mai cyflogai ydych chi.

Contractau cyfnod penodol neu dymhorol

Nid yw’n gwneud gwahaniaeth p’un ai a ydych yn cael eich galw'n weithiwr tymhorol ynteu'n gyflogai cyfnod penodol. Os ydych chi’n cytuno â’r rhan fwyaf o’r datganiadau isod, mae’n debygol mai cyflogai ydych chi:

  • rydych wedi bod yn gweithio i un cwmni neu fusnes, ond dim ond yn ystod misoedd penodol o'r flwyddyn
  • yn ystod y misoedd y byddwch yn gweithio i’r cwmni, mae'n rhaid i chi fynd i'r gwaith yn rheolaidd oni bai fod eich absenoldeb wedi'i awdurdodi
  • mae’n rhaid i chi weithio nifer sylfaenol o oriau (oriau sefydlog neu amrywiol) ac rydych yn disgwyl cael eich talu am yr oriau y byddwch yn eu gweithio
  • eich rheolwr neu'ch goruchwyliwr sy'n gyfrifol am eich llwyth gwaith, gan roi cyfarwyddyd ynghylch pryd y dylai gwaith penodol gael ei gwblhau a sut y dylid gwneud hynny
  • ni allwch anfon rhywun arall i wneud eich gwaith
  • tynnir cyfraniadau Yswiriant Gwladol a threth o’ch cyflog
  • rydych yn cronni gwyliau blynyddol yn ystod cyfnod eich cyflogaeth, ac os na allwch gymryd eich gwyliau (e.e. am ei fod yn gontract tymor byr) cewch daliad yn lle'r gwyliau a gronnwyd ar ddiwedd y contract
  • rydych yn atebol i drefniadau cwyno a disgyblu’r cwmni
  • rydych yn gweithio ar dir y cwmni neu mewn lleoliad a benodwyd gan y cwmni
  • mae’r cwmni’n darparu’r offer a’r cyfarpar y mae eu hangen arnoch i wneud eich swydd
  • dim ond i’r cwmni hwn rydych chi’n gweithio, neu mae gennych swydd arall ond mae’n gwbl wahanol i’r gwaith a wnewch ar gyfer y cwmni
  • rydych yn gweithio dan gontractau cyfnod penodol y gellir eu hadnewyddu

Mae’r datganiadau uchod yn defnyddio enghreifftiau o’r gwaith a wneir ar gyfer ‘cwmni’. Fodd bynnag, maent yr un mor berthnasol os ydych chi’n gweithio i fasnachwr unigol, i bartneriaeth neu i unrhyw fath arall o sefydliad busnes.

Sefyllfa enghreifftiol

Os nad ydych chi’n siŵr a ydych yn gyflogai cyfnod penodol neu dymhorol, gallwch ddarllen y sefyllfa enghreifftiol ganlynol i weld a yw'n disgrifio sefyllfa sy’n debyg i'ch trefniadau gwaith chi.

Myfyriwr yw Kai, ac yn ystod misoedd yr haf mae'n gweithio i'r cyngor lleol fel achubwr bywyd mewn pwll nofio cyhoeddus. Mae’n gweithio dan rota gyda thîm o achubwyr bywyd, a chaiff ei oriau eu pennu wythnos ymlaen llaw. Mae wedi bod yn gwneud y swydd hon dros y tri haf diwethaf, ond mae’n rhaid iddo arwyddo contract newydd ar ddechrau pob tymor. Mae’r cyngor yn darparu dillad gwaith i Kai, ac yn tynnu treth ac Yswiriant Gwladol o'i gyflog.

Hawliau cyflogaeth ar gyfer cyflogeion cyfnod penodol neu dymhorol

Fel cyflogai cyfnod penodol neu dymhorol, mae gennych yr un hawliau cyfreithiol â chyflogeion parhaol, ond gan amlaf bydd cyfnod eich gwasanaeth yn dod i ben ar ddiwedd pob tymor/contract. O ganlyniad, mae’n bosib nad oes gennych ddigon o wasanaeth di-dor i gael rhai hawliau cyflogaeth. Er enghraifft, mae angen i chi weithio am gyfnod di-dor o flwyddyn cyn cael yr hawl i beidio â chael eich diswyddo'n annheg.

I gael crynodeb o hawliau cyflogaeth cyflogeion, darllenwch yr erthygl ‘Mathau o statws cyflogaeth’. Neu, gallwch ymweld â gweddill yr adran gyflogaeth i gael gwybodaeth fanwl am hawliau cyflogaeth penodol.

Yn ychwanegol at yr hawliau eraill i gyflogeion, mae’n debygol y bydd gennych warchodaeth ychwanegol rhag cael eich trin yn llai ffafriol na chyflogai parhaol cyffelyb. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch yr erthygl ‘Gwarchodaeth i gyflogeion cyfnod penodol’.

Ble i gael cymorth

Os nad yw’r datganiadau na’r enghraifft yn disgrifio eich sefyllfa waith chi, ceisiwch ddarllen yr erthyglau eraill yn yr adran hon.

Os ydych chi wedi darllen yr erthyglau eraill ac yn dal yn ansicr, cysylltwch ag Acas (y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu). Bydd Acas yn gallu cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd, yn rhad ac am ddim, am bob mater sy’n ymwneud â chyflogaeth, gan gynnwys statws cyflogaeth.

Allweddumynediad llywodraeth y DU