Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os nad ydych chi’n siŵr a ydych yn ‘gyflogai’, yn ‘weithiwr’ ynteu’n ‘hunangyflogedig’, gallwch ddarllen y datganiadau isod i’ch helpu i benderfynu. Os ydych chi’n credu bod y rhan fwyaf o’r datganiadau’n berthnasol i chi, mae’n debygol mai gweithiwr ydych chi.
Os ydych chi’n cytuno â’r rhan fwyaf o’r datganiadau isod, mae’n debygol mai gweithiwr ydych chi:
Mae’n debygol nad ydych yn gyflogai gan nad ydych:
Fodd bynnag, gan ei bod yn dal yn ofynnol i chi ddarparu gwasanaeth personol (e.e. gwneud y gwaith eich hun) mae’n debyg mai gweithiwr ydych chi. Hefyd, gan eich bod wedi ymrwymo i un sefydliad, mae’n annhebygol eich bod yn gweithio i chi’ch hun.
Mae’r datganiadau uchod yn defnyddio enghreifftiau o’r gwaith a wneir ar gyfer ‘cwmni’. Fodd bynnag, maent yr un mor berthnasol os ydych chi’n gweithio i fasnachwr unigol, i bartneriaeth neu i unrhyw fath arall o sefydliad busnes.
Os nad ydych yn siŵr a ydych chi’n weithiwr, gallwch ddarllen y sefyllfa enghreifftiol ganlynol. Os yw’n disgrifio sefyllfa debyg i'ch trefniadau gweithio chi, mae'n debygol mai gweithiwr ydych chi.
Mae Isaac yn cael ei gyflogi gan gwmni peirianneg i ddarparu cyngor arbenigol ar brosiectau’r cwmni. Nid yw’n gweithio oriau rheolaidd, ond gall y cwmni alw ar ei arbenigedd yn ôl y gofyn (gan roi rhybudd rhesymol). Mae Isaac wedi ymrwymo i fod ar gael am o leiaf 60 awr y mis.Yn amodol ar gyflwyno anfoneb, bydd yn cael ffi y cytunwyd arni am nifer yr oriau y bydd yn eu gweithio. O’i gartref y bydd yn gweithio gan amlaf, ond bydd yn mynychu cyfarfodydd y cwmni pan fydd angen.
Fel gweithiwr, mae gennych hawl i gael hawliau cyflogaeth sylfaenol. I gael crynodeb o’r hawliau hyn, darllenwch yr erthygl ‘Hawliau cyflogaeth sylfaenol’. Neu, ewch i'r adran gyflogaeth i gael gwybodaeth fanwl am hawliau cyflogaeth penodol
Os nad yw’r datganiadau na’r enghreifftiau yn disgrifio eich sefyllfa waith chi, ceisiwch ddarllen yr erthyglau eraill yn yr adran hon.
Os ydych chi wedi darllen yr erthyglau eraill ac yn dal yn ansicr, cysylltwch ag Acas (y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu). Bydd Acas yn gallu cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd, yn rhad ac am ddim, am bob mater sy’n ymwneud â chyflogaeth, gan gynnwys statws cyflogaeth.